Os oes gennych gŵyn yn y gwaith dylai eich cyflogwr fod â threfniadau cwyno i chi eu dilyn. Mae'r gyfraith ar y maes hwn yn newid, ond tan 6 Ebrill 2009, mae'n rhaid i'r drefn gynnwys o leiaf datganiad ysgrifenedig, cyfarfod a chyfarfod apêl.
Tan 6 Ebrill 2009, mae'n rhaid i chi nodi eich cwyn ar bapur i'ch cylogwr (a elwir yn aml yn 'llythyr cam un'). Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd y gofyniad cyfreithiol hwn yn berthnasol. Dylech gael cyngor gan eich cynrychiolydd undeb llafur neu gan eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth agosaf. Dylai trefn gwyno'ch cyflogwr ddweud at bwy y dylid anfon eich llythyr. Os mai'r person hwnnw sy'n achosi'r broblem, neu os yw wedi anwybyddu cwynion blaenorol, dylech anfon eich cwyn at yr adran AD neu at bennaeth y person hwnnw.
Enghraifft o lythyr cwyno:
Annwyl ……………. Dyddiad………………..
Ysgrifennaf atoch i roi gwybod wrthych fy mod am leisio cwyn. Rwyf yn cymryd y cam hwn yng nghyswllt yr amgylchiadau canlynol:
Mae gennyf yr hawl i gael gwrandawiad i drafod y mater hwn. Mae gennyf yr hawl, os dymunaf, i gael cydweithiwr arall neu fy nghynrychiolydd undeb llafur gyda mi. A fyddech cystal ag ymateb (cyn pen 28) diwrnod fan bellaf i ddyddiad y llythyr hwn.
Yn gywir
Llofnod............................Cyflogai
Dylai'ch cwyn gael ei hystyried mewn modd teg a diduedd. Dylai'ch cyflogwr eich gwahodd i gyfarfod (a elwir weithiau'n wrandawiad) i drafod y broblem, a dylech chithau fod yn bresennol os gallwch. Os oes rhywun arall yn gysylltiedig, efallai y byddant hwythau yno (ond dylech ddweud wrth eich cyflogwr os yw hynny'n eich gwneud yn anghyfforddus).
Dylai'r cyfarfod fod ar amser sy'n gyfleus i chi ac i unrhyw un arall sy'n gysylltiedig. Os teimlwch nad ydych wedi cael digon o amser i baratoi, gofynnwch am ragor o amser. Os nad yw'ch cyflogwr yn cytuno (a does dim rhaid iddynt), dylech fynd i'r gwrandawiad, ond sicrhewch fod y diffyg amser i baratoi yn cael ei nodi.
Rhowch drefn ar eich meddyliau cyn y cyfarfod. Peidiwch â bod ofn ysgrifennu'r hyn y mae arnoch eisiau'i ddweud. Does dim byd o'i le os darllenwch hwn yn uchel yn y cyfarfod.
Eich cyflogwr fydd yn penderfynu ar drefn y cyfarfod ond fel arfer bydd yn mynd trwy'r materion sydd wedi'u codi ac yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau. Prif bwrpas y cyfarfod yw sefydlu’r ffeithiau a chanfod ffordd o ddatrys y broblem. Mae gan y Gwasanaeth Ymgynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) a'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA, Gogledd Iwerddon) God Ymarfer sy'n nodi sut y dylai'ch cyflogwr weithredu trefn gwyno.
Os ydych wedi gofyn i'ch cyflogwr ymlaen llaw, mae gennych hawl gyfreithiol i fynd ag un 'cydymaith' (sef cydweithiwr neu gynrychiolydd o undeb llafur) gyda chi i'r cyfarfod. Os nad oes cydweithiwr yn fodlon dod gyda chi, a chithau ddim yn aelod o undeb llafur, gofynnwch a allwch ddod ag aelod o'r teulu neu weithiwr o Gyngor Ar Bopeth gyda chi (ond does dim rhaid i'ch cyflogwr gytuno i hyn oni bai bod eich contract cyflogaeth yn nodi fel arall). Gall y cydymaith gyflwyno a/neu grynhoi eich achos, siarad ar eich rhan ac ymgynghori â chi yn ystod y gwrandawiad. Fodd bynnag, ni chaiff y cydymaith ateb cwestiynau ar eich rhan. Maent wedi'u diogelu rhag cael eu diswyddo'n annheg neu gamdriniaeth arall am eich cefnogi chi.
Os nad yw dyddiad y cyfarfod yn gyfleus i'ch cydymaith, gallwch ofyn i'w ohirio am hyd at bum niwrnod os yw'n angenrheidiol. Os na all eich cydymaith fod yn bresennol ar ddyddiad gwahanol o fewn y pum niwrnod gwaith, dylech ddod o hyd i rywun arall i ddod gyda chi neu fynd i'r cyfarfod ar eich pen eich hun.
Dylech gael nodiadau o'r cyfarfod a chopïau o unrhyw wybodaeth a roddir gan bobl eraill. Onid oes angen iddynt wneud mwy o ymholiadau, dylai'ch cyflogwr ddweud wrthych yn gymharol gyflym beth yw'r penderfyniad, ac am eich hawl i apelio os nad ydych yn fodlon. Efallai y cewch wybod y canlyniad ar lafar i ddechrau ond bydd yn cael ei gadarnhau ar bapur fel arfer.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r penderfyniad, neu os teimlwch i'r drefn a ddilynwyd fod yn ddiffygiol iawn, cewch apelio. Gwrandewir yr apêl fel arfer gan reolwr ar lefel uwch. Os nad yw hyn yn bosibl, gallai eich cyflogwr ofyn i gyfryngwr o Acas neu berson annibynnol arall wrando'r apêl. Cofiwch, fodd bynnag, y bydd angen i chi dalu am wasanaethau cyfryngu Acas a gwasanaethau cyfryngu annibynnol, ond os byddwch chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar wasanaeth cyfryngu, fel arfer y cyflogwr fydd yn talu am y gost. Mae'r gwrandawiad apêl yn debyg i'r cyfarfod gwreiddiol, ac mae gennych hawl eto i gael cydymaith.
Dylai eich cyflogwr roi digon o amser i chi apelio. Os na, apeliwch beth bynnag, a dywedwch y byddwch yn darparu mwy o wybodaeth yn ddiweddarach. Dylech wneud pob ymgais i ddilyn trefniadau eich cyflogwyr gan y bydd y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ystyried hyn pan fyddant yn gwneud eu penderfyniad. Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth leihau unrhyw ddyfarniad a wneir os byddant yn credu na wnaethoch gydymffurfio'n llwyr.
Yn dilyn y cyfarfod apelio, rhaid i’r cyflogwr ddweud wrthych beth yw ei benderfyniad. Dyma benderfyniad terfynol eich cyflogwyr.
Oni allwch chi ddatrys yr anghydfod, gallwch gael cymorth trwy gyfryngu, cymodi neu gyflafareddu, os yw'ch cyflogwr yn cytuno i hynny.
Os byddwch yn gadael eich swydd ond bod gennych gŵyn sy'n dal i fod heb ei datrys, gallwch ei datrys drwy ddefnyddio trefn fyrrach, dau gam, a elwir yn drefn wedi'i haddasu, os caiff y gofynion canlynol eu bodloni:
Mae'r ddau gam fel a ganlyn:
Ar hyn o bryd, os yw'ch cwyn yn un y gallwch fynd â hi i Dribiwnlys Cyflogaeth yn y pen draw, rhaid i chi anfon eich cwyn ysgrifenedig (llythyr cam un) at eich cyflogwr o fewn tri mis fan bellaf i'r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.
Rhaid i chi aros wedyn am 28 diwrnod (gan gychwyn o'r dyddiad yr anfonasoch y llythyr cam un) er mwyn i'ch cyflogwr allu delio â'r mater. Wedyn, os byddwch chi'n anhapus gydag ymateb eich cyflogwr, gallwch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae rhai mathau o hawliadau gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth nad ydynt yn rhwym wrth y drefn gwyno sylfaenol statudol ac mae terfynau amser caeth iddynt. Os ydych yn ansicr ynghylch beth i'w wneud, gallwch gael cymorth gan unrhyw un o'r ffynonellau a restrir isod.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.