Os ydych chi wedi gwneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth, fe gewch wrandawiad. Yn y gwrandawiad bydd panel y Tribiwnlys yn adolygu ffeithiau eich achos ac yn penderfynu ar y canlyniad, sef y 'dyfarniad'.
Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn eich hysbysu o ddyddiad eich gwrandawiad. Does dim rhaid i chi fod yn bresennol, ond mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Tribiwnlys os ydych am i'r achos gael ei wrando yn eich absenoldeb.
Wrth baratoi at y gwrandawiad, sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau y bwriadwch eu defnyddio. Fel arfer, mae'n help edrych ar bethau yn ôl dyddiad er mwyn cael dilyniant o ddigwyddiadau. Os ydych am ddefnyddio unrhyw ddogfennau, bydd angen i chi ddweud wrth yr ochr arall, gan roi o leiaf saith niwrnod o rybudd iddynt cyn y gwrandawiad.
Yn y gwrandawiad byddwch chi (neu eich cynrychiolwyr) a'ch cyflogwr yn cyflwyno'ch achos gerbron y Tribiwnlys ac yn ateb cwestiynau. Cewch fynd â thystion i'r gwrandawiad ac fe allan nhw roi tystiolaeth i gefnogi'ch achos. Os bydd unrhyw dystion yr hoffech eu cael yno yn gwrthod mynd, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol.
Gallwch gynrychioli'ch hun a bydd y Tribiwnlys yn ceisio gwneud pethau'n glir i chi. Mae'r trefniadau'n eithaf anffurfiol. Nid oes arian cymorth cyfreithiol ar gael, ond os ydych chi'n aelod o undeb llafur, efallai y gwnaiff eich undeb dalu am dwrnai. Bydd rhai yswirwyr cartrefi'n talu costau cyfreithiol rhesymol - darllenwch eich dogfennau polisi. Mewn achosion cymhleth, gallwch gael cymorth weithiau gan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol.
Yn wahanol i lysoedd eraill, ni fydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth fel arfer yn gorchymyn i'r naill ochr neu'r llall dalu costau oni bai fod un o'r canlynol yn wir:
Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu iawndal - gallai'r iawndal hwn fod yn unrhyw swm ar gyfer gwahaniaethu neu ddiswyddo ar sail iechyd a diogelwch.
Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, mae'r dyfarniad yn cynnwys:
Gallai'r Tribiwnlys roi dyfarniad ychwanegol ar ben y ddau ddyfarniad uchod os yw'n gorchymyn i'ch cyflogwr eich ail-gyflogi ond nad yw'ch cyflogwr yn cydymffurfio.
Ar gyfer diswyddo anghyfiawn neu achosion eraill o dor-contract, gellir dyfarnu hyd at £25,000.
Os ydych chi wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm ers y digwyddiad efallai y bydd modd i chi gael iawn.
Mae adennill yn atal talu arian ddwywaith. Mae'n golygu y gallai eich cyflogwr dynnu rhywfaint neu'r cyfan o'r swm a hawlioch mewn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm o'r iawndal a ddyfarnwyd i chi gan y Tribiwnlys Cyflogaeth a'i ad-dalu i'r Ganolfan Byd Gwaith.
Gweithredir y rheol hon pan fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn rhoi dyfarniad ariannol am ddiswyddo annheg ac, os yw'n berthnasol, os nad yw'ch cyflogwr yn gwneud y canlynol:
Bwriad yr iawndal yw digolledu'r person am enillion a gollwyd - does dim taliad am frifo teimladau (ac eithrio mewn achosion camwahaniaethu). Rhaid i chi ddangos eich bod wedi ceisio sicrhau'r golled leiaf bosib, er enghraifft, drwy gael swydd arall neu hawlio budd-daliadau.
Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, gall Tribiwnlys Cyflogaeth gynyddu hyd at 25 y cant ar unrhyw ddyfarniad a gewch os yw'ch cyflogwr wedi bod yn afresymol o ran peidio â chydymffurfio â Chod Ymarfer diwygiedig Acas ar drefniadau disgyblu a chwyno. Gall y Tribiwnlys hefyd ostwng hyd at 25 y cant ar eich dyfarniad os na fyddwch yn cydymffurfio â'r Cod. Nid yw'r newidiadau hyn yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.
Gall y Tribiwnlys orchymyn i'ch cyflogwr roi eich swydd yn ôl i chi os enillwch achos diswyddo, os oes arnoch ei heisiau, neu swydd newydd ar delerau ac amodau tebyg i'ch hen swydd. Fodd bynnag, mae hyn yn anghyffredin.
Gallwch ofyn i'r Tribiwnlys Cyflogaeth adolygu ei benderfyniad, er na ellir gwneud hynny ar lawer i sail.
Mae hefyd yn bosib apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, ond i wneud hyn rhaid eich bod yn meddwl bod y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol wrth ddod i'w benderfyniad. Mae hyn yn golygu na chewch apelio os mai'r unig reswm sydd gennych dros wneud hynny yw bod y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud y penderfyniad anghywir yn eich barn chi. Wrth apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, mae gennych hawl i gymorth cyfreithiol.
Gellir dyfarnu costau o hyd at £10,000 mewn amgylchiadau eithriadol os yw Tribiwnlys Cyflogaeth yn meddwl eich bod wedi gweithredu'n afresymol wrth fwrw ymlaen â'ch achos neu wrth gynnal eich achos.
Yng Ngogledd Iwerddon, Tribiwnlys Diwydiannol fydd yn delio â'r rhan fwyaf o anghydfodau sy'n ymwneud â gwaith, a Thribiwnlys Cyflogaeth Deg fydd yn delio ag anghydfodau'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail credoau crefyddol neu farn wleidyddol unigolyn.
Gellir cael mwy o wybodaeth am sut mae gwneud cais ar wefan y Tribiwnlysoedd Diwydiannol a'r Tribiwnlys Cyflogaeth Deg.