Os bydd eich cyflogwr yn dechrau cymryd camau disgyblu yn eich erbyn rhaid iddo ddilyn proses tri-cham. Y cam cyntaf yw llythyr yn egluro rheswm eich cyflogwr dros weithredu. Dylech fod yn ymwybodol bod y broses hon yn newid o 6 Ebrill 2009 ymlaen.
Ar hyn o bryd, y cam cyntaf yn y drefn sylfaenol statudol yw datganiad ysgrifenedig gan eich cyflogwr yn nodi'r rheswm (er enghraifft, eich ymddygiad) dros ystyried cymryd camau disgyblu. Dylai hefyd gynnwys gwahoddiad i gyfarfod i drafod y mater. Gall hefyd esbonio'r rhesymau sydd gan eich cyflogwr dros eich disgyblu.
O 6 Ebrill 2009 ymlaen, ni fydd yn ofynnol i'ch cyflogwr ddilyn y drefn ddisgyblu statudol. Os ydych chi'n rhan o drefniadau disgyblu, neu'n meddwl y byddwch yn rhan ohonynt, dylech geisio canfod a fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi ai peidio.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ni fydd y newidiadau sy'n gysylltiedig â datrys anghydfodau yn berthnasol. I gael gwybod mwy am y trefniadau datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu.
Efallai y gall eich cyflogwr eich atal o'r gwaith tra mae'r mater yn cael ei ystyried. Dylech gael gwybod pam eich bod yn cael eich atal o'r gwaith. Os yw'ch contract cyflogaeth yn caniatáu i'ch cyflogwr eich atal o'r gwaith heb gyflog, gall wneud hynny, cyn belled â'i fod yn gweithredu'n rhesymol. Os nad yw'ch contract cyflogaeth yn datgan y caiff eich cyflogwr wneud hyn, efallai y gall eich cyflogwr eich atal o'r gwaith gyda chyflog. Er mwyn ei gwneud yn glir nad cosb yw hyn, cewch gyflog llawn fel arfer pan fyddwch wedi'ch atal o'r gwaith. Rydych yn cadw'ch hawliau cyflogaeth ac os na fyddwch yn cael y tâl priodol, gallwch hawlio'r arian fel 'didyniad anghyfreithlon o'ch cyflog'.
Efallai y dywedir wrthych am beidio â siarad â gweithwyr eraill, cwsmeriaid a/neu gyflenwyr. Os yw hyn yn eich rhwystro rhag amddiffyn eich hun, gall fod yn sail dros apêl. Chi sydd i benderfynu a fyddwch yn cydymffurfio â hyn ai peidio, ond dylech gofio y gall eich cyflogwr gymryd camau disgyblu pellach os na wnewch.
Bydd angen i'ch cyflogwr gynnal ymchwiliad os ceir cwyn yn eich erbyn, a gall ofyn am ddatganiad. Dylai'r ymchwiliad fod yn ddiduedd, yn deg ac yn rhesymol - dylai geisio pennu'r ffeithiau ac nid dim ond casglu tystiolaeth yn eich erbyn.
Yn gyffredinol, dylech gael copïau o unrhyw wybodaeth a geir o'r ymchwiliad. Dylech, ym mhob achos, gael eich hysbysu o natur yr achos yn eich erbyn.
Os penderfynwch eich bod am ymddiswyddo o'ch gwaith, gall eich cyflogwr barhau gyda'r ymchwiliad disgyblu os yw'n dymuno.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.