Mae hi yn erbyn y gyfraith i gyflogwyr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich tueddfryd rhywiol. Rydych hefyd wedi'ch gwarchod rhag harasio neu fwlio yn y gwaith. Darllenwch am eich hawliau a beth i'w wneud os cewch chi'ch trin yn annheg oherwydd eich rhywioldeb.
Dan y gyfraith, ni ddylai neb wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich tueddfryd rhywiol neu'r ffordd y mae pobl yn 'gweld' eich tueddfryd rhywiol - gan gynnwys tueddfryd tuag at rywun o'r un rhyw (lesbiaid/dynion hoyw), y rhyw arall (heterorywiol) neu'r ddau ryw (deurywiol).
Mae'r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn tueddfryd rhywiol yn y gwaith yn ymwneud â recriwtio, telerau ac amodau, cyflog a buddiannau, statws, cyfleoedd hyfforddi, dyrchafu a throsglwyddo, drwodd i swyddi'n dod i ben a diswyddo.
Ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol (er enghraifft, cael gwrthod swydd) oherwydd eich tueddfryd rhywiol neu oherwydd bod cyflogwyr yn meddwl bod gennych dueddfryd rhywiol penodol.
Os bydd cyflogwyr yn rhoi buddiannau i bartneriaid gweithwyr dibriod o'r rhyw arall (ee bod partner y gweithiwr/wraig sydd o'r rhyw arall yn cael gyrru car y cwmni), fe allai gwrthod yr un buddiannau i bartneriaid o'r un rhyw fod yn enghraifft o wahaniaethu.
Ers mis Rhagfyr 2005, gall cyplau o'r un rhyw gofrestru partneriaeth sifil. Mae gan bartner sifil yr hawl i'r un buddiannau â rhywun priod (er enghraifft, buddiannau i oroeswr dan gynllun pensiwn cwmni).
Wedi dweud hynny, caniateir 'Gofynion galwedigaethol dilys' os gall cyflogwyr ddangos bod rhaid i'r swydd gael ei gwneud gan rywun o dueddfryd rhywiol penodol. Er enghraifft, fe allai corff sy'n darparu cyngor ar hawliau hoywon ac yn eu hyrwyddo ddangos ei bod hi'n hanfodol i'w hygrededd bod y prif weithredwr, sef wyneb cyhoeddus y corff, yn hoyw. Felly, fe all tueddfryd rhywiol deiliad y swydd honno fod yn ofyniad galwedigaethol dilys.
Mae gennych yr hawl i beidio â bod dan anfantais oherwydd polisi yn y gwaith oherwydd eich tueddfryd rhywiol. Er enghraifft, os bydd eich cwmni'n trefnu cynhadledd mewn gwlad lle bo cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon ac nad oes rheswm da dros gynnal y gynhadledd yno, fe ellid ei ystyried hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol.
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anghyfreithlon boed yn fwriadol ai peidio. Dim ond os yw'n angenrheidiol ar gyfer y ffordd o redeg y busnes y caniateir hyn.
Mae'r gyfraith yn eich gwarchod rhag harasio neu erlid oherwydd eich rhywioldeb neu'r ffordd y 'gwelir' eich rhywioldeb. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n cael eich bwlio'n fwriadol neu'n anfwriadol, neu os oes diwylliant cyffredinol o ddiffyg parch (er enghraifft, un lle gwneir jôcs homoffobig). Gall yr harasio ddigwydd yn y gwaith neu mewn sefyllfa gysylltiedig â gwaith (er enghraifft, digwyddiad cymdeithasol y tu allan i'r gweithle).
Rydych hefyd wedi'ch gwarchod rhag harasio am y rheswm eich bod yn gysylltiedig â pherson arall. Er enghraifft, os oes gennych ffrind sy'n lesbiad, does dim rhaid i chi oddef jôcs gan weithwyr eraill amdani.
Mae hawl gennych hefyd i beidio â chael eich erlid. Mae hyn yn golygu na ddylid eich trin yn llai ffafriol oherwydd i chi gwyno (neu fod yn rhan o gŵyn) am wahaniaethu ar sail tueddfryd rhywiol.
Mae'n bosib eich bod yn gweithio gyda chydweithwyr a chanddynt farn gref am eich tueddfryd rhywiol oherwydd eu crefydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y cânt eich bwlio neu aflonyddu arnoch chi. Yn y gweithle, mae gan bawb yr hawl i'w trin gyda pharch, waeth beth fo'u tueddfryd rhywiol.
Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am fanylion tueddfryd rhywiol gweithwyr - naill ai at ddibenion monitro neu fel rhan o holiadur cyfle cyfartal. Ond, does dim rhaid i chi roi'r wybodaeth hon.
Os tybiwch fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, wedi'ch erlid neu aflonyddu arnoch yn y gwaith oherwydd eich tueddfryd rhywiol, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr neu'ch swyddog personél. Os ydych chi'n perthyn i undeb llafur, gallwch gysylltu â'ch cynrychiolydd undeb. Os na allwch chi ddatrys y mater yn anffurfiol, cewch ddilyn y drefn gwyno yn eich contract cyflogaeth. Cadwch gofnod ysgrifenedig o unrhyw harasio i'w ddangos i'ch cyflogwyr.
Os byddwch chi'n anhapus gyda'r ffordd y bydd eich cyflogwyr yn ymdrin â'ch cŵyn, gallwch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Os cawsoch chi'ch diswyddo oherwydd eich tueddfryd rhywiol, gallwch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth, waeth ers faint rydych chi'n gweithio yno.
Os teimlwch na chynigiwyd swydd i chi oherwydd eich tueddfryd rhywiol, gallwch fynd â'r mater at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Cynghori ynghylch materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.