Mae hi yn erbyn y gyfraith i'r sawl sy'n eich cyflogi wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil. Rydych hefyd wedi'ch gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail hil yn ystod pob cam o'r broses gyflogi.
Dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976, mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn eich erbyn ar sail hil. Mae hil yn cynnwys:
Dan y Ddeddf, does dim ots os bydd rhywun yn gwahaniaethu'n fwriadol ai peidio. Yr hyn sy'n cyfri yw hyn - a yw'r ffordd y mae'ch cyflogwyr yn gweithredu'n golygu eich bod yn cael eich trin yn anffafriol oherwydd eich hil?
Mae'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn gwarchod pob grup hil, waeth beth yw eu hil, eu lliw, eu cenedl, eu cred grefyddol, na'u tarddiad cenedlaethol neu ethnig.
Mae'r cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith yn ymwneud â phob rhan o gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys recriwtio, telerau ac amodau, cyflog a buddiannau, statws, cyfleoedd hyfforddi, dyrchafu a throsglwyddo, a hefyd dileu swydd a diswyddo.
Mae'r gyfraith yn caniatáu cyfyngu swydd i bobl o grup hil neu ethnig penodol os oes 'gofyniad galwedigaethol dilys'. Enghraifft amlwg yw lle bo angen actor du ar gyfer ffilm neu raglen deledu.
Ceir pedwar prif fath o wahaniaethu:
Fe all cyflogwyr sy'n gwrthod rhoi terfyn ar wahaniaethu, harasio a bwlio gan eu gweithwyr fod yn torri'r gyfraith.
Gweithredu cadarnhaol yw lle bydd cyflogwyr yn rhoi cymorth neu anogaeth i grup hil penodol. Dim ond pan nad oes cynrychiolaeth deg o grup hil penodol ymhlith y rheiny sy'n gwneud gwaith penodol neu'n llenwi swyddi penodol yng ngweithlu'r cyflogwyr y caniateir hyn.
Caniateir i'r cyflogwyr hefyd ddarparu hyfforddiant arbennig ar gyfer aelodau o'r grup hil hwnnw. Gallant hefyd annog aelodau o'r grup hil i wneud cais am gael gwneud y gwaith neu lenwi'r swyddi (ee drwy ddweud y bydd croeso arbennig i'w ceisiadau).
Nid yw hyn yn golygu y caiff cyflogwyr wahaniaethu o blaid aelodau'r grup pan ddaw hi'n adeg dewis pobl i wneud y gwaith neu i lenwi'r swyddi. Byddai hynny'n wahaniaethu anghyfreithlon.
Nid yw gweithredu cadarnhaol yr un fath â 'gwahaniaethu cadarnhaol', sef pan fydd aelodau o grup hil yn cael eu trin yn fwy ffafriol. Mae gwahaniaethu cadarnhaol yn anghyfreithlon.
Os teimlwch fod rhywun arall sy'n gweithio gyda chi neu aelod o'r tîm rheoli ar wahân i'ch bos yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, mynnwch sgwrs â'r bos sy'n eich goruchwylio ac esbonio'ch pryderon. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur) - mae'n bosib y gallai hwnnw/honno helpu hefyd.
Os yw eich rheolwr/wraig llinell neu'ch goruchwylydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn, mynnwch sgwrs â'u bos nhw neu ag adran adnoddau dynol y cwmni.
Byddwch yn glir yn eich meddwl am yr hyn yr ydych yn ei ystyried yn wahaniaethu, ac os oes angen, rhowch enghreifftiau ar bapur. Bydd gan lawer o gyflogwyr bolisi cyfle cyfartal, a dylech ofyn am gael gweld copi ohono.
Dylech hefyd gael sgwrs gyda'ch cyflogwyr os dywedir wrthych am weithredu mewn ffordd sydd yn eich barn chi'n wahaniaethol - er enghraifft, os dywedir wrthych chi am drin rhywun yn wahanol oherwydd eu hil, eu lliw, eu cenedligrwydd, eu hethnigrwydd neu eu tarddiad cenedlaethol.
Os na fydd eich cyflogwyr yn barod i'ch helpu, mae'n bosib y bydd angen i chi gwyno drwy gyfrwng trefn gwyno eich lle gwaith. Ni ddylech gael eich erlid am gwyno, gan y byddai hynny'n wahaniaethu.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, cewch fynd ag achos o wahaniaethu ar sail hil at Dribiwnlys Cyflogaeth. Fe allech gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol neu'ch Cyngor Cydraddoldeb Hiliol lleol, os oes un, i gael cyngor.
Cewch fynd â'ch achos at Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae'n bosib yr hoffech chi gael cyngor cyn gwneud hyn.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Cynghori ynghylch amodau eich contract
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.