Os oes gennych chi broblem yn y gwaith nad oes modd ei datrys, gallwch chi ystyried cyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Cyn i chi gyflwyno hawliad, dylech chi edrych i weld a allwch chi wneud hawliad ai peidio, a beth yw’r broses. Dylech chi geisio cyngor arbenigol cyn cyflwyno hawliad.
Cyn i chi gyflwyno hawliad, byddai’n syniad da ceisio cyngor arbenigol, yn enwedig ynglŷn â'r canlynol:
Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Er gwaethaf ymdrechion rhesymol i ddatrys eich problem, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn debygol o gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Yn y sefyllfa hon, gallwch chi neu’ch cyflogwr ofyn i gymodwr Acas siarad â’r ddau ohonoch chi a cheisio’ch helpu chi i ddod i gytundeb.
Mae Acas yn cynnig gwasanaeth cymodi cynnar yn rhad ac am ddim a elwir yn ‘gymodi cyn-hawlio’. Gall hyn eich helpu chi a’ch cyflogwr i ddod o hyd i ffordd o ddatrys y mater ac osgoi'r angen am hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth. Os hoffech chi gael gwybod a yw'r gwasanaeth hwn yn addas i'ch sefyllfa chi, dylech chi gysylltu â llinell gymorth Acas.
Llwythwch y ffurflen hawlio i Dribiwnlys Cyflogaeth (ET1) a chanllawiau pellach i lawr
Os byddwch chi’n penderfynu cyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, dylech chi lenwi ffurflen hawlio i Dribiwnlys Cyflogaeth, a elwir yn ET1. Gall eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol eich helpu chi i lenwi’r ffurflen.
Gallwch chi gael ffurflen hawlio ET1 o:
Dylech chi ddefnyddio’r ffurflen ET1 i roi gwybodaeth am y canlynol:
Dylech chi nodi'n glir yr holl wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cwyn. Lle bo angen, dylech chi gadarnhau a ydych chi wedi dilyn gweithdrefnau eich cyflogwr ai peidio. Ar ôl i chi lenwi’ch ffurflen, fe’ch cynghorir i’w cadw gyda’ch cofnodion chi.
Mae llyfryn y Tribiwnlys Cyflogaeth, ‘Cyflwyno hawliad’ yn rhoi rhagor o gymorth i chi am yr wybodaeth y dylech chi ei darparu.
Anfonwch eich ffurflen ET1 i’r swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth berthnasol. Mae rhestr o swyddfeydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn y llyfryn ‘Cyflwyno hawliad’, neu ar gael gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd. Os dydych chi ddim yn siŵr at ba swyddfa y dylech chi anfon eich ffurflen hawlio, cysylltwch â llinell ymholiadau'r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar 08457 959 775. Bydd hawliadau a gyflwynir ar-lein yn cael eu hanfon i’r swyddfa gywir yn awtomatig.
Bydd y swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth yn anfon copi o'r ffurflen at eich cyflogwr ac, yn y rhan fwyaf o achosion, at Acas. Yna bydd gan eich cyflogwr 28 diwrnod i ymateb.
Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn cadarnhau a oes modd iddynt ddelio â’ch hawliad ai peidio. Os bydd unrhyw amheuaeth, efallai y bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i egluro’r sefyllfa. Fel arfer, Barnwr Cyflogaeth yn eistedd ar ei ben ei hun fydd yn gwrando.
Bydd y Barnwr Cyflogaeth hefyd yn ystyried a oes gobaith rhesymol i'ch hawliad lwyddo ai peidio. Os yw o’r gred mai ychydig o obaith rhesymol sydd i’ch hawliad lwyddo, efallai y bydd yn gorchymyn eich bod yn talu hyd at £500 o flaendal i barhau â'ch hawliad. Os byddwch chi'n colli, efallai caiff y blaendal ei ddefnyddio i helpu i ad-dalu costau neu dreuliau eich cyflogwr am amddiffyn yr achos.
Os bydd yr achos yn mynd yn ei flaen, gellir cynnal adolygiadau cyn gwrandawiad neu drafodaethau rheoli achos i egluro unrhyw faterion sydd ar ôl. Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth hefyd ofyn i chi neu’ch cyflogwr am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hawliad.
Ar ôl i chi gyflwyno hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, gallai Acas ddal i'ch helpu chi a'ch cyflogwr i ddod o hyd i ffyrdd o setlo'r achos cyn gwrandawiad.
Gall setlo fod yn haws na chyflwyno hawliad, ond:
Chi sydd i benderfynu bob amser a ydych chi am setlo eich achos ai peidio. Efallai y bydd eich cyflogwr weithiau’n rhoi llawer o bwysau arnoch chi i dderbyn. Er enghraifft, efallai y bydd yn dweud na chewch chi ddim byd os na wnewch chi dderbyn cynnig yn y fan a’r lle. Dylech chi gofio mai chi piau'r dewis bob amser. Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi dderbyn cynnig setliad ai peidio, ystyriwch gael cyngor arbenigol.
Os gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno ynghylch sut mae datrys eich hawliad, gallwch chi lunio cytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol i ‘waredu’ (gorffen) yr hawliad. Bydd y cytundeb yn un o’r canlynol:
Efallai na fydd modd i chi gytuno ar setliad, ac y byddwch chi’n penderfynu nad ydych chi am fwrw ymlaen â’ch hawliad. Os felly, gallwch chi dynnu eich hawliad yn ôl unrhyw bryd cyn y gwrandawiad.
Fodd bynnag, os tynnwch chi’ch hawliad yn ôl ar y funud olaf, efallai y bydd eich cyflogwr yn gwneud cais am gostau ar sail ymddygiad afresymol o ran y ffordd y cynhalioch chi eich achos.