Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwrandawiad Tribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych chi wedi cyflwyno achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth, mae’n bosib y cewch wrandawiad. Cewch wybod yma beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad ac ar ôl i’r dyfarniad gael ei wneud, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch eich hawl i apelio yn erbyn penderfyniad.

Y gwrandawiad

Bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn eich hysbysu o ddyddiad eich gwrandawiad. Does dim rhaid i chi fod yn bresennol. Os penderfynwch beidio â mynychu’r gwrandawiad, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Tribiwnlys Cyflogaeth eich bod am i'r achos gael ei wrando yn eich absenoldeb.

Wrth baratoi at y gwrandawiad, sicrhewch fod gennych yr holl ddogfennau y bwriadwch eu defnyddio. Fel arfer, mae'n help edrych ar bethau yn ôl dyddiad er mwyn cael dilyniant o ddigwyddiadau. Os ydych am ddefnyddio unrhyw ddogfennau, bydd angen i chi roi rhybudd i’r ochr arall o leiaf saith niwrnod cyn y gwrandawiad.

Yn y gwrandawiad, byddwch chi (neu eich cynrychiolwr) a'ch cyflogwr yn cyflwyno'ch achos gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth ac yn ateb cwestiynau. Cewch fynd â thystion i'r gwrandawiad ac fe allan nhw roi tystiolaeth i gefnogi'ch achos. Os bydd unrhyw dystion yr hoffech eu cael yno yn gwrthod mynd, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol.

Gallwch gynrychioli'ch hun a bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn ceisio gwneud pethau'n glir i chi. Mae'r trefniadau'n eithaf anffurfiol.

Nid oes cyllid cymorth cyfreithiol ar gael yng Nghymru a Lloegr ac mae cymorth cyfreithiol yn brin yn yr Alban. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, mae'n bosib y bydd eich undeb llafur yn talu am gyfreithiwr. Bydd rhai yswirwyr cartrefi'n talu costau cyfreithiol rhesymol; dylech ddarllen eich dogfennau polisi.

Yn wahanol i lysoedd eraill, ni fydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth fel arfer yn gorchymyn i'r naill ochr neu'r llall dalu costau oni bai fod un o'r canlynol yn wir:

  • maent yn penderfynu i chi neu'ch cyflogwr weithredu'n afresymol wrth gyflwyno'r achos gerbron y Tribiwnlys   
  • bu unrhyw gynrychiolwyr yn y gwrandawiad yn ymddwyn yn afresymol

Os byddwch yn ennill

Gall y Tribiwnlys Cyflogaeth roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu iawndal. Mae'r iawndal yn unrhyw swm ar gyfer gwahaniaethu neu ddiswyddo ar sail iechyd a diogelwch.

Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, mae'r dyfarniad yn cynnwys:

  • y dyfarniad sylfaenol, a gyfrifir ar sail eich oed ac ers faint yr ydych wedi gwasanaethu
  • dyfarniad gwneud iawn, hyd at derfyn penodol a gaiff ei adolygu bob blwyddyn (er mai yn anaml iawn y rhoddir yr uchafswm)

Gallai'r Tribiwnlys Cyflogaeth roi dyfarniad ychwanegol ar ben y ddau ddyfarniad uchod. Dyfarnir hwn os yw'n gorchymyn i'ch cyflogwr eich ail-gyflogi ond nad yw'ch cyflogwr yn cydymffurfio.

Ar gyfer diswyddo anghyfiawn neu achosion eraill o dor-contract, gellir dyfarnu hyd at £25,000.

Adennill (recoupment)

Os ydych chi wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm ers y digwyddiad efallai y bydd modd i chi gael iawn.

Mae adennill yn atal talu arian ddwywaith. Mae'n golygu y gallai eich cyflogwr dynnu rhywfaint neu'r cyfan o'r swm y gwnaethoch ei hawlio mewn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm o'r iawndal a ddyfarnwyd i chi gan y Tribiwnlys Cyflogaeth a'i ad-dalu i'r Ganolfan Byd Gwaith.

Gweithredir y rheol hon pan fydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn rhoi dyfarniad o arian am ddiswyddo annheg ac, os yw'n berthnasol, os nad yw'ch cyflogwr yn gwneud y canlynol:

  • gwneud taliad mewn achos o iawndal am ddileu swydd
  • talu eich cyflog yn ystod cyfnod pan nad oeddech yn y gwaith oherwydd materion meddygol neu am eich bod ar gyfnod mamolaeth
  • talu 'dyfarniad gwarchodol' i chi os yw'ch swydd yn cael ei dileu, neu ar fin cael ei dileu
  • ymgynghori â chynrychiolwyr yn y gweithle mewn sefyllfaoedd lle bydd mwy nag un unigolyn yn colli ei swydd

Iawndal

Bwriad yr iawndal yw digolledu'r unigolyn am enillion a gollwyd. Does dim taliad am frifo teimladau, ac eithrio mewn achosion camwahaniaethu. Rhaid i chi ddangos i Dribiwnlys Cyflogaeth eich bod wedi ceisio sicrhau'r golled leiaf bosib, er enghraifft, drwy gael swydd arall neu hawlio budd-daliadau.

Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ystyried p'un ai a ydych chi a'ch cyflogwr wedi dilyn egwyddorion Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu a chwyno (y Cod).

Os nad ydych wedi dilyn y Cod, nid yw'n eich gwneud chi na'ch cyflogwr yn atebol (yn gyfreithiol gyfrifol) i fynd gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth yn awtomatig. Fodd bynnag, gall Tribiwnlys Cyflogaeth addasu eich dyfarniad iawndal o hyd at 25 y cant os teimlant eich bod chi neu’ch cyflogwr wedi ymddwyn yn afresymol.

Os byddwch yn colli

Gallwch ofyn i’r Tribiwnlys Cyflogaeth adolygu ei benderfyniad, er bod y sail dros allu gwneud hynny'n gyfyngedig. Bwriad adolygu yw naill ai:

  • i gywiro camgymeriad neu ddamwain benodol iawn o ran cynnal gwrandawiad Tribiwnlys
  • i ddelio â thystiolaeth newydd berthnasol nad oedd ar gael yn gyffredinol ar adeg y gwrandawiad gwreiddiol

Gallwch ystyried gofyn i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth am apêl ar y sail bod y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol. Ni fydd y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn ystyried eich cais os ydych yn credu bod y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi gwneud y penderfyniad ‘anghywir’. Wrth apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, mae gennych hawl i gymorth cyfreithiol.

Gellir dyfarnu costau o hyd at £10,000 mewn amgylchiadau eithriadol os yw Tribiwnlys Cyflogaeth yn meddwl eich bod wedi gweithredu'n afresymol wrth fwrw ymlaen â'ch achos neu wrth gynnal eich achos. Gelwir y rhain yn dreuliau yn yr Alban.

Tribiwnlysoedd yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, ceir trefniadau gwahanol ar gyfer datrys anghydfodau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhain gan wefan nidirect.

Allweddumynediad llywodraeth y DU