Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cwyn yn y gwaith

Os ydych chi wedi gwneud cwyn yn y gwaith a bod eich cyflogwr wedi dod i benderfyniad, gallwch chi gael gwybodaeth am wneud apêl. Mae’n bosibl y bydd ffyrdd eraill o ddatrys y broblem.

Apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr

Os nad ydych chi’n fodlon â phenderfyniad eich cyflogwr ynglŷn â'ch cwyn, neu os ydych chi’n meddwl bod diffyg yn y weithdrefn, dylid bod modd i chi apelio.

Rhaid i chi gyflwyno'ch apêl heb ddim oedi afresymol. Dylai eich cyflogwr roi digon o amser i chi apelio. Os na fydd yn gwneud hynny, apeliwch beth bynnag, a dywedwch y byddwch chi’n darparu mwy o wybodaeth maes o law.

Gwnewch ymdrech i ddilyn gweithdrefnau eich cyflogwr. Bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn ystyried hyn wrth benderfynu ar ei ddyfarniad, os byddwch chi’n gwneud hawliad tribiwnlys cyflogaeth.

Ysgrifennwch at eich cyflogwr i ddweud eich bod chi’n apelio yn erbyn ei benderfyniad, gan esbonio pam nad ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad. Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod arall i drafod eich apêl. Lle bo modd, dylai rheolwr gwahanol ac uwch ddelio â’r apêl.

Mae'r gwrandawiad apêl yn debyg i'r cyfarfod gwreiddiol, ac mae gennych chi hawl eto i gael cydymaith. Yn dilyn y cyfarfod apelio hwn, rhaid i’r cyflogwr ddweud wrthych chi beth yw ei benderfyniad. Dyma benderfyniad terfynol eich cyflogwr.

Ystyried opsiynau eraill

Os byddwch chi’n dal yn anfodlon â phenderfyniad eich cyflogwr, efallai byddwch am ystyried ffyrdd eraill o ddatrys eich cwyn.

Gellir cael rhagor o arweiniad am weithdrefnau cwyno yn 'Disgyblu a chwyno yn y gwaith: Canllaw Acas'. Paratowyd y canllaw hwn gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) i helpu cyflogwyr a gweithwyr i wneud y canlynol:

  • deall Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu a chwyno
  • adlewyrchu hynny yn eu gweithdrefnau a'u hymddygiad

Os na fydd hyn yn briodol, gallech chi ystyried gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Dylech chi fod yn ymwybodol y bydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ystyried Cod Acas wrth ystyried achosion o gwyno.

Peidio â dilyn egwyddorion cwyno

Os na fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn dilyn yr egwyddorion hyn, ni wnaiff y Tribiwnlys Cyflogaeth eich gwneud chi na’ch cyflogwr yn atebol yn awtomatig (yn gyfreithiol gyfrifol) am fethu gwneud hynny.

Fodd bynnag, os bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn cyfiawnhau eich hawliad, efallai bydd y swm a ddyfernir i chi yn cael ei addasu hyd at 25 y cant i adlewyrchu unrhyw fethiant afresymol i ddilyn y Cod, naill ai gennych chi neu gan eich cyflogwr.

Diogelwch wrth wneud cwyn

Ddylech chi ddim cael eich diswyddo na’ch rhoi dan anfantais, e.e. peidio â chael dyrchafiad am wneud cwyn dilys am un o'ch hawliau cyflogaeth statudol, megis gwahaniaethu.

Mae'r gyfraith hefyd yn eich amddiffyn rhag cael eich trin yn annheg/colli eich swydd os byddwch chi’n datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd neu'n 'chwythu'r chwiban'.

Gogledd Iwerddon

Mae gan Ogledd Iwerddon ei gweithdrefnau datrys anghydfod ei hun. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y rhain o wefan nidirect.

Ble mae cael cymorth

Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU