Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Archwiliadau cyn cyflogi

Pan fyddwch chi'n dechrau swydd newydd, mae'n bosibl y bydd eich cyflogwyr yn dymuno gwneud nifer o archwiliadau i weld a ydych chi'n addas - ond bydd gennych hawliau penodol yn ystod y broses hon.

Beth fydd eich cyflogwyr am ei weld

Dogfennau adnabod

Cyn i chi ddechrau gweithio i gyflogwyr newydd, mae'n debyg y byddan nhw am gael prawf fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.

Bydd rhaid i chi naill ai ddangos dogfen neu gyfuniad o ddogfennau i gadarnhau eich bod yn gymwys (er enghraifft, pasport yr UE, neu fisa drwydded gwaith os nad ydych chi'n frodor). Dylai eich cyflogwyr allu dweud wrthych pa ddogfennau y mae angen i chi eu dangos iddyn nhw.

Mae’r dogfennau y bydd angen arnoch yn dibynnu ar os ydych yn weithiwr, cyflogai neu hunan-gyflogedig.

Geirdaon

Fe all cynnig swydd ddibynnu ar fod cyflogwyr yn cael geirda gan eich cyflogwyr cyfredol, ac o bosibl gan gyflogwyr blaenorol hefyd.

Mathau o archwiliadau

Bydd y math o archwiliad a wneir gan gyflogwyr yn dibynnu ar y swydd.

Archwilio i gefndir

Os yw swydd yn gysylltiedig â diogelwch, mae'n bosib y bydd cyflogwyr am gynnal archwiliad i gefndir yr ymgeisydd. Ar gyfer rhai swyddi yn y maes ariannol, mae'n bosib hefyd y byddan nhw'n edrych ar eich hanes credyd. Dylai cyflogwyr drin pob ymgeisydd am swydd yn yr un modd yn ystod y broses recriwtio.

Monitro cyfle cyfartal

Does dim cyfraith yn erbyn casglu gwybodaeth ynghylch hil ac ethnigrwydd wrth recriwtio. Bydd llawer o sefydliadau'n dewis gwneud hyn er mwyn monitro effeithiolrwydd eu polisi cyfle cyfartal. fodd bynnag, does dim rhaid i chi roi'r wybodaeth hon os nad ydych chi'n dymuno gwneud.

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn archwilio'n fwy manwl i'ch cefndir chi nag i gefndir neb arall oherwydd eich ethnigrwydd, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol dan y deddfau gwahaniaethu ar sail hil. Chaiff cyflogwyr mo'ch trin yn wahanol am eich bod yn 'dramorwr o ran eich golwg' neu am fod gennych enw sy'n 'swnio'n ddieithr'.

Hefyd ni chaiff cyflogwyr mo’ch trin yn wahanol oherwydd eich rhyw, statws priodasol, tueddfryd rhywiol neu grefydd. Er enghraifft, os ydych yn ferch, nid ddylech gael eich gofyn os ydych yn bwriadu cael plant yn fuan, oherwydd gall hyn cael ei defnyddio i wahaniaethu mewn ffafr o geisiwr gwrywaidd.

Archwiliadau iechyd

Mae'n bosib y bydd rhaid i chi gael archwiliad iechyd os yw hynny'n un o ofynion y swydd (er enghraifft, cael prawf llygaid ar gyfer swydd gyrru). Dylid dweud wrthych am unrhyw archwiliad iechyd pan gynigir y swydd i chi drwy lythyr.

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn gofyn i chi am adroddiad meddygol, ond os felly, rhaid bod ganddynt bolisïau i sicrhau ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel.

Os ydych chi'n anabl, ni ddylid defnyddio'ch anabledd fel rheswm dros eich dewis chi'n benodol ar gyfer prawf iechyd, heb reswm da. Os gwneir hynny, ac na chewch chi'r swydd o ganlyniad i hynny, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol. Mae'n anghyfreithlon trin person anabl yn llai ffafriol am eu bod yn anabl. Nid yw hynny'n golygu y bydd wastad yn anghyfreithlon i gyflogwyr ofyn i berson anabl gael archwiliad iechyd, hyd yn oed os na ofynnir i ymgeiswyr eraill. Bydd hyn yn dibynnu ar natur eich anabledd ac anghenion y swydd.

Gwirio cymwysterau

Os bydd angen cymwysterau penodol, hyfforddiant neu drwyddedau arnoch ar gyfer swydd, caiff eich cyflogwyr ofyn i chi brofi eu bod gennych. Dylent roi gwybod i chi a ydyn nhw'n gwneud yr archwiliadau hyn ac a ydyn nhw'n bwriadu cadw copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol yn eu ffeiliau.

Archwiliadau cofnodion troseddol

Bydd rhai cyflogwyr am sicrhau a oes gennych gofnod troseddol ai peidio. Bydd rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau os byddwch chi'n gwneud cais am swydd:

  • fel cyfrifydd neu fargyfreithiwr/wraig
  • yn yr heddlu
  • gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed
  • gwaith sy'n ymwneud â gweinyddu cyfiawnder neu reoleiddio ariannol

Rhaid i gyflogwyr fod wedi'u cofrestru gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol er mwyn archwilio cofnodion troseddol. A dibynnu ar lefel yr archwiliad, codir ffi o naill ai £31 neu £36. Gall cyflogwyr ofyn i chi dalu'r gost.

Cynnig swydd ac wedyn tynnu'r cynnig yn ôl

Mae gan gyflogwyr yr hawl i gynnig swydd ac wedyn tynnu'r cynnig swydd yn ôl ar ôl i chi ei derbyn os bydd canlyniadau unrhyw archwiliad a gynhaliwyd arnoch yn anfoddhaol, cyn belled a'ch bod yn ymwybodol cyn i chi dderbyn y swydd bod amodau ynghlwm wrth y cynnig.

Materion sy'n ymwneud â diogelu data

Dim ond y wybodaeth sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol i'r archwiliad dan sylw y dylai cyflogwyr ei cheisio. Rhaid i'ch cyflogwyr hefyd sicrhau bod unrhyw ffordd y defnyddir gwybodaeth bersonol amdanoch yn cydymffurfio ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998.

Rhaid cadw eich cofnodion cyflogaeth yn ddiogel ac, oni chedwir hwy'n unol â'r gofynion statudol, rhaid cael gwared â hwy'n ddiogel pan fyddwch chi'n gadael eich cyflogwyr. Mae gennych hawl i weld y wybodaeth a gedwir amdanoch. Rhaid i gyflogwyr adael i chi weld y wybodaeth o fewn 40 diwrnod i'ch cais ac mae'n bosib y codir ffi o hyd at £10 arnoch.

Ble i gael cymorth

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Mae’r Asiantaeth Cydberthynas Lafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar holl hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU