Bydd angen i'ch cyflogwr wybod os yw'n gyfreithlon i chi weithio yn y DU ac a oes angen trwydded waith neu fisa arnoch. Bydd angen i chi ddangos prawf o'ch hawl i weithio.
Os ydych chi'n dymuno dod i'r DU i weithio, bydd eich hawl i wneud hynny'n dibynnu ar bwy ydych chi. Os nad ydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop, efallai y bydd angen fisa arnoch cyn teithio yma.
Os oes angen fisa arnoch, bydd rhaid i chi gael caniatâd gan swyddogion Cenhadaeth Dramor Prydain yn eich gwlad chi. Ar ôl cael eich clirio, caiff y dystysgrif caniatâd mynediad, neu'r fisa, ei rhoi yn eich pasport neu'ch dogfen teithio.
Os ydych chi'n dod o un o aelod wladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'r Swyddfa Gartref dan y Cynllun Cofrestru Gweithwyr o fewn un mis i ddechrau gweithio. Dyma'r gwledydd yr effeithir arnynt:
Cyfyngir ar y math o waith y caiff gweithwyr o Fwlgaria a Romania ei wneud.
Fodd bynnag, does dim angen i chi gofrestru i weithio yn y DU os ydych chi:
Ceir rhai amgylchiadau eraill lle na fyddai angen i chi gofrestru os ydych chi'n dod o un o'r gwladwriaethau newydd.
Fel gweithiwr asiantaeth neu weithiwr dros dro, bydd angen i chi gofrestru i weithio o fewn mis i ddechrau gweithio.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, efallai na fydd angen caniatâd arnoch i weithio yma tra'r ydych yn astudio. Os yw eich gwlad yn rhan o AEE, neu os ydych chi'n dod o'r Swistir, cewch weithio heb gyfyngiadau ar y math o waith a wnewch nac ar faint o waith a wnewch.
Fel arall, dylech edrych ar y stamp fisa yn eich pasport. Os yw'n dweud 'prohibited', ni chewch weithio yn y DU. Os yw'n rhoi hawl i chi ddod i'r DU neu aros yma fel myfyriwr, cewch weithio yma cyn belled ag nad ydych yn gwneud y canlynol:
Os ydych chi'n weithiwr medrus, yn entrepreneur, yn fuddsoddwr neu'n weithiwr ôl-astudio a'ch bod eisiau dod i'r Deyrnas Unedig neu aros yma am gyfnod hirach, dylech wneud cais am fisa'r Deyrnas Unedig dan haen gyntaf y system bwyntiau newydd. Bydd hyn yn berthnasol os ydych chi yma nawr dan y Rhaglen Mudwyr Medrus a gaeodd pan gyflwynwyd haen 1. Nid yw hyn yn berthnasol i ddinasyddion gwledydd AEE.
Cyflwynir haenau eraill i fyfyrwyr, gweithwyr medrus sydd wedi cael cynnig swydd a gweithwyr dros dro megis cerddorion, actorion a chwaraewyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Os ydych chi'n dod o un o wledydd AEE, bydd rhaid i chi ddangos eich pasport i ddarpar gyflogwyr, cerdyn adnabod cenedlaethol neu Drwydded Breswylio'r Swyddfa Gartref.
Gall cyflogwyr wynebu dirwyono unrhyw faint os byddant yn cyflogi gweithwyr anghyfreithlon, felly, rhaid iddynt sicrhau nad oes neb y maen nhw'n ei gyflogi'n gweithio'n anghyfreithlon yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn eu gwarchod eu hunain rhag deddfau gwahaniaethu, dylent drin pob ymgeisydd am swydd yn gyfartal. Felly, peidiwch â theimlo eich bod yn cael eich sarhau os gofynnir i chi brofi eich cenedligrwydd, hyd yn oed os yw hynny'n 'amlwg'. Gofynnir i frodorion y DU hyd yn oed roi prawf o'u cenedligrwydd.
Ceir nifer o gynlluniau a rhaglenni ar gyfer pobl sy'n dymuno gweithio yn y DU. Os nad ydych chi'n dod o un o wledydd AEE na'r Swistir, mae'n debygol y bydd angen trwydded waith i weithio yma.
Ceir chwe grŵp ar wahân ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gwaith cyffredin:
Chewch ch iddim gwneud cais am drwydded eich hun - bydd angen i'r cyflogwr sydd am eich cyflogi yn y DU wneud hynny ar eich rhan. Bydd hyd eich trwydded yn dibynnu ar y gwaith a wnewch a'r math o drwydded y gwnaethoch gais amdani. Er enghraifft, gellir cyhoeddi trwyddedau gwaith busnes a masnachol am hyd at bum mlynedd, ond dim ond hyd at 12 mis y cyhoeddir trwyddedau sector.
Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cymodi a Chymrodeddu (Acas) yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol a di-dâl am faterion hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol a di-dâl am faterion hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol roi cyngor diduedd a di-dâl. Gallwch ganfod eich swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.