Mae gan bobl sy'n gweithio yn y DU nifer o hawliau ac ymrwymiadau o ran cyflogaeth - cewch wybod yma beth ydynt a lle i gael mwy o wybodaeth.
I gael gwybod pa hawliau cyflogaeth sy'n berthnasol i chi, defnyddiwch y teclyn rhyngweithiol.
Ceir teclynnau rhyngweithiol eraill hefyd i helpu i gyfrifo faint o absenoldeb mamolaeth/tadolaeth y cewch ei gymryd, ac a ydych chi'n gymwys i wneud cais am batrwm gweithio hyblyg.
Os nad ydych chi'n dod o'r DU neu'r Undeb Ewropeaidd, bydd arnoch angen caniatâd i weithio fel arfer (gelwir hyn yn aml yn drwydded waith).
Mae llawer o ffyrdd i ddod o hyd i swydd: mae cysylltiadau personol, canolfannau gwaith, asiantaethau cyflogaeth a hysbysebion mewn papurau newydd yn ffyrdd cyffredin. Bydd gennych well siawns o gael swydd os cewch hyfforddiant i wella eich sgiliau.
Dysgwch am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio yn y DU. Gallwch lwytho arweiniad oddi ar y we mewn Pwyleg a Rwmaneg.
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y DU yn 'gyflogeion', ac mae ganddynt gontractau cyflogaeth. Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i'r rhain gynnwys telerau penodol, ac fel arfer ni ellir eu newid heb i chi gytuno.
Mae mathau eraill o weithwyr yn cynnwys gweithwyr asiantaeth, contractwyr a phobl hunangyflogedig. Mae eu telerau ac amodau hwy'n amrywio, ond mae gan bob gweithiwr rai hawliau sylfaenol penodol.
Mae gan bron bob gweithiwr yn y DU sydd dros 16 oed hawl gyfreithiol i gael lleiafswm cyflog bob awr. Mae'r swm yn dibynnu ar oed y gweithiwr, ond y prif Leiafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr dros 22 oed yw £5.52 yr awr o 1 Hydref 2007 ymlaen.
Mae'n debyg y bydd rhaid i chi dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, a bydd eich cyflogwr yn tynnu'r rhain o'ch cyflog. Efallai y didynnir pethau eraill o'ch cyflog, ond rhaid i chi gytuno â'r rhain yn ysgrifenedig. Dylai eich cyflogwr roi 'slip cyflog' i chi i ddangos beth a gymerwyd.
Os ydych chi i ffwrdd o'r gwaith am bedwar diwrnod neu fwy oherwydd afiechyd, mae'n debygol y gallwch gael Tâl Salwch Statudol o £75.40 yr wythnos hyd at 28 wythnos. Bydd angen tystysgrif meddyg arnoch ar gyfer unrhyw gyfnodau o salwch sy'n fwy na saith diwrnod.
Mae gan y DU reolau caeth o ran iechyd a diogelwch yn y gwaith. Rhaid i gyflogwyr ddarparu man diogel i weithio a sicrhau y caiff risgiau eu lleihau gymaint â phosibl. Mae gan weithwyr gyfrifoldeb i sicrhau na fyddant yn rhoi eu hunain na chyflogeion eraill mewn perygl.
Ceir cyfyngiadau i nifer yr oriau y gellir eich gorfodi i weithio, ond gallwch ddewis gweithio mwy na'r cyfyngiad os dymunwch. Mae gennych hawl gyfreithiol i gyfnod penodol o amser i ffwrdd bob wythnos, gan ddibynnu ar y gwaith a wnewch a'r oriau y byddwch yn eu gweithio. Mae hawl gennych hefyd i gael lleiafswm cyfnod o wyliau â thâl bob blwyddyn.
Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn am oriau hyblyg (hynny yw, i newid eich oriau neu batrwm shifft) os oes gennych chi blant dan chwech oed (neu 18 os yw'r plant yn anabl) neu os ydych yn gofalu am oedolyn (ond nid oes rhaid i'ch cyflogwr gytuno â'ch cais os oes rheswm busnes da pam na fyddai'n gweithio).
Mae gan y DU gyfreithiau llym ar wahaniaethu (h.y. trin rhywun yn wahanol heb reswm da). Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd rhywedd, tueddfryd rhywiol, anabledd, hil, lliw, tarddiad ethnig, neu grefydd ac ers mis Hydref 2006, mae wedi bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu oherwydd oed rhywun. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwrthod cyflogi rhywun oherwydd eu bod yn aelod, neu ddim yn aelod, o undeb llafur.
Mae gan y DU gyfreithiau llym ar wahaniaethu (h.y. trin rhywun yn wahanol heb reswm da). Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd rhywedd, tueddfryd rhywiol, anabledd, hil, lliw, tarddiad ethnig, neu grefydd ac ers mis Hydref 2006, mae wedi bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu oherwydd oed rhywun. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwrthod cyflogi rhywun oherwydd eu bod yn aelod, neu ddim yn aelod, o undeb llafur.
Ychydig iawn o gyfyngiadau sydd o ran gadael eich swydd a chael un arall, ond disgwylir i chi lynu at delerau eich contract, a hynny fel arfer drwy roi rhybudd priodol. Ceir cyfreithiau i'ch amddiffyn yn erbyn diswyddo annheg (colli eich swydd heb reswm da). Os caiff eich swydd ei dileu (eich diswyddo oherwydd diffyg gwaith i chi ei wneud), gallwch gael taliad os buoch yn y swydd am ddigon hir. Nid yw'r hawliau i gyd yn berthnasol i bob gweithiwr; er enghraifft, nid yw'r hawliau yn erbyn diswyddo annheg a thaliadau dileu swydd yn berthnasol i weithwyr asiantaeth fel arfer. Bydd angen i chi fod wedi gweithio i'ch cyflogwr ers cyfnod penodol o amser i fod yn gymwys ar gyfer rhai hawliau.
Mae undebau llafur yn sefydliadau i weithwyr sy'n darparu gwasanaethau, gan gynnwys siarad â chyflogwyr am gyflog ac amodau gwaith. Mae nifer o undebau'n cynnig cymorth ariannol, buddion salwch, addysg a chyngor cyfreithiol am ddim.
Os oes gennych chi broblemau yn y gwaith, ac os na roddir eich hawliau cyfreithiol i chi, mae amrywiaeth o ffyrdd o ddatrys hyn. Bydd llysoedd arbennig a elwir yn Dribiwnlysoedd Cyflogaeth (Tribiwnlysoedd Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) yn gwrando achosion sy'n ymwneud â phroblemau yn y gwaith, ond dylech geisio datrys problemau gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Mae gan y rhan fwyaf o gyflogwyr 'drefn gwyno' (h.y. gweithdrefn y cwmni ar gyfer cwynion) y gallwch ei defnyddio.
Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cymodi a Chymrodeddu (Acas) yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol a di-dâl am faterion hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.