Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithio mewn aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd

Os oes gennych hawl i weithio yn un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd a'ch bod yn cael eich trosglwyddo dros dro gan eich cyflogwr o un aelod-wladwriaeth yn yr UE i un arall, fe'ch gelwir yn 'weithiwr a anfonir i wlad arall i weithio' a bydd rhai o'ch telerau ac amodau cyflogaeth yn cael eu rheoleiddio gan y Gyfarwyddeb Gweithwyr a Anfonir i Wlad Arall i Weithio.

Yr hawl i weithio yn un o aelod-wladwriaethau’r UE

Fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd (UE) neu Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein (Ardal Economaidd Ewrop) mae gennych yr hawl i weithio yn unrhyw un o aelod-wladwriaethau. Nid oes angen caniatâd gwaith arnoch. Bydd hefyd gennych yr un hawliau â dinasyddion y wlad dan sylw mewn cyflyrau gweithio, materion cyflog a nawdd cymdeithasol.

Mae gwybodaeth ar weithio yn Ewrop ar gael gan y rhwydwaith swyddi EURES (Gwasanaethau Cyflogaeth Ewropeaidd). Gallwch ddefnyddio gwefan EURES i gofrestri eich CV, chwilio am waith neu ddod o hyd i wybodaeth ar fyw a gweithio yng ngwledydd yr UE a AEE.

Os hoffech gyngor ar ddod o hyd i waith dramor gallwch ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith ar 0113 307 8090.

Gweithwyr sy'n cael eu hanfon i wlad arall i weithio

Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich anfon i weithio i Aelod-Wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd am un o'r rhesymau canlynol:

  • mae gan eich cyflogwr swyddfeydd mewn gwlad arall
  • rydych yn cael eich trosglwyddo i gwmni cysylltiedig neu gwmni sy'n cael ei reoli gan eich cyflogwr (a elwir yn is-gwmni) mewn Aelod-Wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd
  • mae gan eich cyflogwr gontract i gyflenwi neu ddarparu gwasanaethau yn un o Aelod-Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd
  • rydych yn gweithio i fusnes cyflogaeth sy'n llogi gweithwyr i Aelod-Wladwiraeth arall yn yr UE, ond sy'n parhau i'ch cyflogi chi'n uniongyrchol

Gwarchodaeth i weithwyr sy'n cael eu hanfon i wlad arall i weithio

Rhaid i'ch cyflogwr gydymffurfio â'r telerau ac amodau cyflogaeth sylfaenol yn y wlad yr ydych wedi'i hanfon iddi i weithio. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os oes gan y wlad yr ydych yn cael eich anfon iddi isafswm cyflog uwch na'r cyflog a gewch gan eich cyflogwr, bydd gennych hawl i isafswm cyflog y wlad honno.

Nid oes dim i rwystro'ch cyflogwr rhag cynnig telerau ac amodau cyflogaeth mwy ffafriol i chi na'r isafswm a ddarperir gan y wlad yr ydych wedi'i hanfon iddi i weithio.

Dyma'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i weithwyr sy'n cael eu hanfon i wlad arall i weithio:

  • uchafswm cyfnodau gwaith a lleiafswm cyfnodau egwyl
  • isafswm gwyliau blynyddol â thâl
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • iechyd a diogelwch yn y gwaith
  • gwarchodaeth os ydych yn feichiog neu newydd roi genedigaeth
  • rhaid i ddynion a menywod gael eu trin yn gyfartal a dylid sicrhau darpariaethau eraill i wneud yn siŵr na cham-wahaniaethir yn erbyn neb

Cytundebau cenedlaethol ar y cyd

Mae hefyd yn bosib bod eich telerau ac amodau gwaith yn cael eu rheoleiddio gan gytundebau cenedlaethol ar y cyd a all fod yn berthnasol yn gyffredinol, er nad oes dim ar waith yn y DU.

Darpariaethau yswiriant gwladol a threth

Nid yw'r Gyfarwyddeb Gweithwyr a Anfonir i Wlad Arall i Weithio yn ymdrin â darpariaethau yswiriant gwladol a threth.

Os ydych chi'n gweithio yn y DU, bydd angen i chi gofrestru at ddibenion treth. Os oes gennych ffurflen E101 o'r wlad sydd fel arfer yn eich cyflogi, gallai hynny olygu y gallwch ddal ati i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol i'ch mamwlad.

I gael gwybod mwy am y ffurflen E101 neu am dreth a nawdd cymdeithasol os cewch eich anfon o'r DU neu i'r DU bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM

Ble mae cael cymorth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth' neu, os ydych yn aelod o undeb llafur, gallwch gael cymorth, cyngor a chefnogaeth ganddynt hwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU