Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n gwneud cais i weithio gyda phlant neu bobl agored i niwed, mae’n bosib y gofynnir i chi wneud cais am archwiliad cofnodion troseddol. Yma, cewch wybod sut mae gwneud cais, beth fydd angen i chi ei ddarparu a'r mathau gwahanol o archwiliadau cofnodion troseddol sydd ar gael.
Ffoniwch linell gymorth y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar
0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein:
I wneud cais am archwiliad, bydd angen i chi naill ai:
Os byddwch yn ffonio’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, bydd angen i chi roi enw a rhif y sefydliad sy'n gofyn i chi gael archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, a rhoi lefel yr archwiliad y bydd arnoch ei hangen. Bydd y sefydliad sy’n gofyn am yr archwiliad yn dweud wrthych pa lefel y bydd arnoch ei hangen. Yna, bydd ffurflen bapur yn cael ei hanfon atoch.
Ceir dau fath o archwiliad:
Yn ogystal â chwilio drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, bydd yr archwiliad uwch hefyd yn chwilio drwy’r canlynol:
Eich cyflogwr fydd yn penderfynu archwiliad ar ba lefel y mae ei angen.
Bydd angen i chi brofi pwy ydych chi fel rhan o'ch cais. Bydd rhaid i chi ddarparu dogfennau sy'n cadarnhau'r canlynol:
Bydd rhaid i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol. Ni dderbynnir llungopïau neu ddogfennau sydd wedi cael eu hargraffu o’r rhyngrwyd, er enghraifft cyfriflenni banc.
Bydd yr unigolyn a ofynnodd i chi lenwi'r ffurflen yn gwirio'r prawf o bwy ydych chi, neu'n eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu gwneud hyn. Bydd angen i chi ddangos tair dogfen o leiaf, fel y dangosir isod. Os nad oes gennych chi’r dogfennau angenrheidiol i gyd, cysylltwch â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol gan ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau.
Rhaid i chi ddarparu un o'r dogfennau canlynol:
Noder, os na allwch ddarparu unrhyw rai o’r dogfennau uchod, rhaid i chi ddarparu pump o'r rhestr isod.
Rhaid i chi ddarparu dau o’r canlynol hefyd:
Rhaid i ddogfennau â 1* fod wedi’u rhoi o fewn tri mis cyn dyddiad eich cais
Rhaid i ddogfennau â 2 ** fod wedi’u rhoi o fewn 12 mis cyn dyddiad eich cais
Gall dogfennau heb * fod yn hŷn na 12 mis, ond mae’n rhaid iddynt fod yn ddilys o hyd
Rhaid i ddogfennau â 1* fod wedi’u rhoi o fewn tri mis cyn dyddiad eich cais
Rhaid i ddogfennau â 2 ** fod wedi’u rhoi o fewn 12 mis cyn dyddiad eich cais
Gall dogfennau heb * fod yn hŷn na 12 mis, ond mae’n rhaid iddynt fod yn ddilys o hyd
Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r DU dros y pum mlynedd diwethaf, bydd angen i chi ddarparu eich cyfeiriad (neu gyfeiriadau) dramor.
Os ydych chi’n gwneud cais am archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a’ch bod yn byw dramor ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio cyfeiriad gohebu yr unigolyn a ofynnodd am eich archwiliad, sef eich cyflogwr yn ôl pob tebyg. Nodwch y cyfeiriad hwn fel eich prif gyfeiriad ar y ffurflen gais. Rhaid i chi hefyd nodi’r cyfeiriad lle rydych yn byw yn yr adran ‘cyfeiriadau eraill’ ar y ffurflen gais.
Mae archwiliad yn costio:
Mae’n bosib y bydd rhai sefydliadau yn talu am eich archwiliad, neu efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl prosesu ar gyfer eich archwiliad. Gofynnwch i’ch cyflogwr.
Bydd am ddim os ydych chi’n wirfoddolwr. Gofynnwch i'r sefydliad a wnaeth eich recriwtio a ydych chi'n gymwys.
Llinell gymorth y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
8.00 am hyd at 6.00 pm yn ystod yr wythnos
10.00 am hyd at 5.00 pm ar ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul ac ar wyliau cyhoeddus)
Mae rhif gwahanol ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni ellir delio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a dderbynnir ar y rhif hwn.
Ymgeiswyr trawsrywiol: ffôn 0151 676 1452 neu e-bost:
Ymholiadau Cymraeg: 0870 90 90 223
Caiff pob galwad i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ei recordio at ddibenion diogelwch a hyfforddi. Gofynnir cwestiynau diogelwch er mwyn sicrhau mai chi ydych chi.