Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i undebau llafur

Nod undebau llafur yw cynrychioli buddiannau pobl yn y gwaith a negodi gyda chyflogwyr dros well amodau a thelerau i'w haelodau.

Beth yw undeb llafur?

Grŵp o weithwyr sydd wedi'u trefnu yw undeb llafur. Prif nod undeb llafur yw gwarchod a hybu buddiannau ei aelodau.

Yn aml iawn, bydd undeb yn negodi cytundebau gyda chyflogwyr ynghylch cyflogau ac amodau. Weithiau, bydd hefyd yn darparu cyngor cyfreithiol, cymorth ariannol, buddiannau salwch a chyfleusterau addysg.

Cydnabod undebau llafur

Bydd cyflogwyr sy'n cydnabod undeb(au), yn negodi gyda'r undeb(au) hynny ynghylch cyflog ac amodau'r gweithwyr.

Bydd llawer o gytundebau cydnabod yn cael eu gwneud yn wirfoddol, weithiau gyda chymorth Acas. Oni ellir cael cytundeb a bod y sefydliad yn cyflogi mwy nag 20 o bobl, fe all undeb wneud cais am gydnabyddiaeth statudol. Er mwyn gwneud hynny, rhaid iddo yn y lle cyntaf ysgrifennu at gyflogwyr i ofyn am gydnabyddiaeth.

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, gall yr undeb ofyn i'r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog am benderfyniad. Wrth ystyried cais yr undeb, rhaid i'r Pwyllgor asesu llawer o'r ffactorau sy'n cynnwys nifer aelodau'r undeb a phresenoldeb unrhyw undebau eraill. Yn aml, bydd y Pwyllgor yn trefnu pleidlais gudd ymhlith y gweithlu yr effeithir arno i benderfynu a ddylid cydnabod yr undeb ai peidio.

Drwy gydol y broses, mae'r pwyslais ar sicrhau cytundeb gwirfoddol.

Cydfargeinio

Os bydd cyflogwyr yn cydnabod undeb yn ffurfiol, gall yr undeb negodi gyda'r cyflogwyr ynghylch y telerau a'r amodau. Gelwir hyn yn 'gydfargeinio'.

Er mwyn i'r drefn gydfargeinio weithio, rhaid i undebau a chyflogwyr gytuno ar sut y mae'r trefniant am weithio. Mae'n bosibl y byddan nhw, er enghraifft, yn llunio cytundebau ar gyfer didynnu taliadau aelodaeth yr undeb o gyflogau'r aelodau, pwy sydd i gynrychioli'r gweithwyr wrth negodi a pha mor aml y cynhelir cyfarfodydd.

Mae'r ddau gytundeb hyn ynghylch y drefn a'r cytundebau rhwng cyflogwyr ac undebau sy'n newid telerau'r gweithwyr (er enghraifft, cynyddu'r cyflog) yn cael eu galw'n 'gytundebau ar y cyd'. Mae'n debyg y bydd eich contract cyflogaeth yn nodi pa gytundebau ar y cyd sy'n berthnasol i chi. Mae'n bosibl y bydd undeb yn negodi ar eich rhan, hyd yn oed os nad ydych chi'n aelod.

Ymuno ag undeb llafur

Pam ymuno ag undeb?

Bydd rhai gweithwyr yn ymuno ag undeb llafur oherwydd eu bod yn credu y gall undeb:

  • negodi gwell tâl
  • negodi gwell amodau gweithio, megis mwy o wyliau neu well iechyd a diogelwch
  • darparu hyfforddiant ar gyfer sgiliau newydd
  • rhoi cyngor a chefnogaeth gyffredinol

Mae gan aelodau undeb yr hawl i gael cynrychiolydd undeb gyda nhw mewn gwrandawiad disgyblu neu gwyno (er nad oes rhaid i undebau llafur ddarparu'r gwasanaeth hwn). Mae gan bawb a gyflogir, yn aelodau undeb ai peidio, yr hawl i gael cydweithiwr/wraig gyda nhw.

Mae gan undebau cydnabyddedig hefyd gyda hawliau i ymgynghoriad ble mae dileu swydd neu drosglwyddiad busnes wedi eu cynnig.

Mae yna gost tanysgrifiad rheolaidd ar gyfer aelodaeth undeb. Efallai bydd cyfraddau gwahanol yn gymwys i hyfforddeion a phobl ran-amser. Ni fydd undebau fel arfer yn helpu gyda phroblemau oedd cyn dyddiad ymuno.

Sut i ymuno

Os ydych chi'n awyddus i ymuno ag undeb cydnabyddedig yn eich gweithle, fe allech fynd at gynrychiolydd i ofyn am wybodaeth, y stiward er enghraifft. Fel arall, holwch y TUC i gael gwybod pa undeb sy'n berthnasol i chi.

Hawliau cysylltiedig ag undebau llafur

Yn ôl y gyfraith, mae gennych yr hawl i ymuno ag undeb llafur ym mhle bynnag rydych chi'n gweithio. Mae hyn yn wir boed yr undeb wedi'i gydnabod ai peidio.

Rydych wedi'ch gwarchod rhag cael eich rhoi dan anfantais am fod yn aelod o undeb. Yn benodol, mae'n anghyfreithlon defnyddio'r ffaith eich bod yn aelod o undeb llafur fel rheswm dros y canlynol:

  • gwrthod swydd i chi
  • eich diswyddo
  • eich dewis ar gyfer dileu swydd

Yn ôl y gyfraith, mae gennych yr hawl i beidio ag ymuno ag undeb llafur. Mae gennych chi'r un warchodaeth ag sydd gan aelodau o undeb. Yn benodol, ni chaiff cyflogwyr bellach ddefnyddio 'siop gaeedig' (sef, gwneud i bawb ymuno â'r undeb sydd orau gan y cyflogwyr).

Ni chaiff cyflogwyr dynnu arian oddi arnoch, er enghraifft, ar gyfer undeb neu elusen, yn lle tâl aelodaeth undeb, heb eich caniatâd.

Gweithgareddau undebau llafur

Pan fydd cyflogwyr yn cydnabod undeb, bydd gan aelodau'r hawl i gael amser o'r gwaith ar adeg briodol i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r undeb llafur. Gall y rhain gynnwys:

  • pleidleisio mewn pleidlais gudd ynghylch gweithredu diwydiannol
  • pleidleisio yn etholiadau'r undeb
  • cyfarfod i drafod materion brys
  • mynychu'r gynhadledd flynyddol

Nid oes gennych yr hawl i gael eich talu am unrhyw amser a gymerwyd ar gyfer gweithgaredd undeb llafur.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd..

Gall Cyngres yr Undebau Llafur darparu gwybodaeth ar undebau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU