Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Picedu a llinellau piced

Defnyddir picedu fel ffordd o gynyddu'r gefnogaeth i weithredu diwydiannol. Cael gwybod sut mae'r gyfraith ynghych picedu'n gweithio os ydych chi'n ystyried ymuno â llinell biced neu'n dymuno croesi un.

Beth yw picedu?

Picedu yw lle bydd gweithwyr sy'n ymwneud â gweithredu diwydiannol yn mynychu gweithle i gynyddu'r gefnogaeth i'w hachos drwy gyfleu gwybodaeth neu berswadio pobl eraill i beidio â gweithio neu beidio â chadw at ryw ran o'u contract cyflogaeth. Bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd pan fydd gweithwyr yn gwrthod cadw at ran o'u contract cyflogaeth.

Pobl sy'n hel y tu allan i fynedfa gweithle neu yn y cyffiniau yw llinell biced. Mae'r rhain yn cynnwys gweithwyr sydd ar streic, gweithwyr sy'n cael eu cloi allan gan eu cyflogwyr a chynrychiolwyr undebau llafur. Fe all gweithgareddau llinell biced fod wedi'u targedu at gydweithwyr sydd heb fod ar streic, gweithwyr sy'n gweithio yn lle'r rhai sydd ar streic neu gyflenwyr y cyflogwyr.

Os ydych chi'n meddwl am ymuno â llinell biced, dylech ofyn i'ch undeb am gyngor.

Cyfraith sifil a phicedu

Mae'n gyfreithlon i chi ymuno â llinell biced ar yr amod bod y picedu:

  • yn gysylltiedig ag anghydfod masnachol yr ydych yn rhan ohono
  • yn eich gweithle eich hun neu yn y cyffiniau
  • wedi'i ei gynnal mewn ffordd heddychlon

Os nad ydy'r uchod yn wir, gall cyflogwyr eich siwio chi neu'ch undeb am iawndal dan y gyfraith sifil. Os bydd eich cyflogwyr yn bygwth cymryd camau yn eich erbyn, dylech ofyn i dwrnai am gyngor. Bydd gan eich undeb dwrnai a all weithio ar eich rhan.

Picedu eilaidd

Os ydych chi'n weithiwr/wraig ar linell biced a'ch bod mewn anghydfod â'ch cyflogwyr, fe gewch geisio perswadio gweithwyr nad yw'r anghydfod yn effeithio arnynt i'ch cefnogi, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny'n heddychlon. Er enghraifft, fe gewch geisio perswadio gyrwyr lori cyflogwyr eraill i beidio â danfon cyflenwadau i'ch lle gwaith. Mae hyn yn berthnasol hefyd i gynrychiolwyr undebau llafur sy'n bresennol yn gyfreithlon ar linell biced.

Fodd bynnag, mae'n anghyfreithlon picedu eiddo cwmnïau eraill lle nad yw'r gweithwyr mewn anghydfod. Felly, er enghraifft, os ydych chi ar streic, ni ddylech fynd i eiddo cwsmeriaid eich cyflogwyr i annog eu gweithwyr i beidio â thrin nwyddau eich cyflogwyr. Gelwir picedu fel hyn yn 'bicedu eilaidd'.

Ni ddylai gweithgareddau picedu ymyrryd â gweithwyr sydd heb unrhyw gysylltiad ag anghydfod ond sy'n defnyddio'r un fynedfa â'r rheiny sydd ar streic. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn bloc o swyddfeydd a rennir gan nifer o wahanol gwmnïau, ddylech chi ddim ceisio picedu gweithwyr y cwmnïau eraill.

Y gyfraith droseddol a phicedu

Mae'n drosedd i bobl ar linell biced:

  • ddefnyddio geiriau bygythiol neu sarhaus neu ymddwyn mewn modd bygythiol tuag at bobl eraill sy'n mynd heibio yng nghyffiniau'r llinell biced
  • mynd ar ffordd pobl eraill sy'n ceisio mynd i mewn i'r adeiladau lle mae'r piced neu sy'n ceisio'i adael
  • bod ag arf bygythiol yn eu meddiant
  • gwneud difrod i eiddo, boed hynny'n fwriadol neu'n ddi-hid
  • beri neu fygwth peri torheddwch

Fe all yr heddlu fod yn bresennol wrth linell biced. Caiff yr heddlu gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol yn eu barn hwy i sicrhau bod y picedu'n heddychlon ac yn drefnus.

Picedu torfol

Pan fydd piced torfol, mae'r siawns o droseddau sifil a throseddol yn uwch. Os oes 20 neu fwy o bobl ar linell biced, caiff yr heddlu ddefnyddio pwerau arbennig sydd ganddynt os yw'n debygol o achosi anhrefn cyhoeddus difrifol neu ddifrod difrifol i eiddo.

Os yw'r heddlu'n bryderus bod bygythiad i ddiogelwch pobl eraill, fe gân nhw orchymyn y sawl sy'n picedu i roi'r gorau iddo, ac arestio unrhyw un sy'n gwrthod cydymffurfio. Argymhellir na ddylid cael mwy na chwech yn picedu y tu allan i fynedfa.

Croesi llinell biced

Bydd gennych yr hawl i groesi llinell biced os na fyddwch chi'n cefnogi'r gweithredu diwydiannol. Os ydych chi'n aelod o undeb a bod yr undeb yn eich disgyblu am groesi llinell biced, fe gewch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol.

Os yw eich cydweithwyr yn eich bygwth am groesi llinell biced, dylech ddweud wrth yr heddlu.

Os nad ydych wedi llwyddo i groesi llinell biced, mae angen i chi argyhoeddi eich cyflogwyr i chi wneud popeth rhesymol yn eich gallu i'w chroesi. Os bydd eich cyflogwyr yn meddwl na wnaethoch chi bob ymdrech, mae'n bosib y byddan nhw'n penderfynu eich bod wedi ymuno â'r gweithredu diwydiannol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid iddynt dalu i chi. Dylai eich undeb llafur allu rhoi canllawiau i chi am eich dyletswyddau cyfreithiol wrth bicedu.

Ble i gael cymorth

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU