Bydd gan weithwyr sy'n aelodau o undeb llafur a gydnabyddir gan eu cyflogwyr yr hawl statudol i gael nifer rhesymol o oriau o'r gwaith gyda thâl am ddyletswyddau a gweithgareddau arbennig sy'n ymwneud â'r undeb.
Os ydych chi'n gyflogedig ac yn swyddog (neu'n aelod etholedig megis stiward neu gynullydd) undeb llafur a gydnabyddir gan eich cyflogwyr, fe gewch amser rhesymol o'r gwaith i wneud rhai o ddyletswyddau'r undeb. Ymhlith y rhain, mae:
Os ydych chi'n gynrychiolydd dysgu i'ch undeb, bydd gennych yr hawl i gael amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer hyn yn ystod oriau gweithio, ar yr amod bod eich undeb wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwyr eich bod yn gynrychiolydd dysgu a bod eich undeb wedi'i gydnabod gan eich cyflogwyr.
Dyma'r dyletswyddau y caiff cynrychiolydd dysgu undeb gymryd amser o'r gwaith â thal ar eu cyfer:
Mae rhestr fanwl o enghreifftiau o ddyletswyddau perthnasol undeb llafur yng Nghod Gweithredu Acas.
Ar gyfer yr amser hwn, fe gewch yr un tâl ag y byddwch chi fel arfer yn ei gael. Os yw eich enillion yn amrywio, dylid seilio'r tâl ar eich enillion fesul awr ar gyfartaledd.
Caniateir i weithwyr sy'n aelodau o undeb cydnabyddedig gael amser rhesymol o'r gwaith heb dâl yn ystod y diwrnod gweithio i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r undeb neu i sgwrsio gydag un o gynrychiolwyr dysgu'r undeb. Fe gewch amser o'r gwaith ar gyfer:
Os ydych chi'n swyddog undeb, gallwch hefyd gael amser o'r gwaith heb dâl i fynd i gynadleddau a chyfarfodydd yr undeb, gan gynnwys pwyllgorau llunio-polisi'r undeb.
Er nad oes gennych hawl statudol i chi gael tâl am yr amser hwn, bydd rhai cyflogwyr yn dewis talu dan rai amgylchiadau. Mae'n bosibl y bydd eich contract cyflogaeth yn esbonio a oes gennych chi'r hawl i dâl ai peidio.
Gan na chewch chi fel arfer eich talu am amser o'r gwaith ar gyfer gweithgareddau'r undeb, yn aml iawn, fe'u cynhelir yn ystod amser egwyl, megis amser cinio.
Er mai gweithgarwch undeb llafur yw gweithredu diwydiannol, nid oes hawl gennych i gael amser o'r gwaith ar gyfer hyn. Fodd bynnag, bydd gan swyddogion yr undeb yr hawl i amser o'r gwaith i gymryd rhan mewn negodiadau i osgoi gweithredu diwydiannol.
Mae'n bwysig i swyddogion a chynrychiolwyr yr undeb, a chyflogwyr, fod yn rhesymol wrth ymdrin â cheisiadau am gael amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau'r undeb. Nid oes diffiniad cyfreithiol o'r hyn a olygir wrth amser rhesymol o'r gwaith. Rhaid i chi ystyried y math o gyflogwr/wraig, bod rhaid dal i gynhyrchu, pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y gwaith a faint o amser rydych chi eisoes wedi'i gael.
Os bydd pobl yn ceisio amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau a/neu weithgareddau undeb llafur, dylent roi cymaint o rybudd ag y bo modd i'w cyflogwyr a manylion pwrpas yr amser hwnnw a faint o amser y bydd ei angen.
Mae Cod Gweithredu Acas yn argymell bod gan undebau a chyflogwyr unigol gytundebau ffurfiol ynghylch amser o'r gwaith ar gyfer gweithgareddau'r undeb.
Os cewch chi'ch diswyddo am fynnu'ch hawliau i gael amser o'r gwaith ar gyfer gweithgareddau neu ddyletswyddau'r undeb, bydd hynny'n annheg. Yna, fe gewch fynd ag achos diswyddo annheg gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Fe gewch hefyd wneud cais i'r Tribiwnlys am orchymyn lliniaru dros dro, sy'n golygu bod rhaid i'ch cyflogwyr eich derbyn yn ôl nes y ceir penderfyniad am eich achos. Dylech ymgynghori â'ch swyddog undeb amser llawn am y drefn lliniaru dros dro.
Os nad yw eich cyflogwyr yn fodlon i chi gael amser rhesymol ar gyfer gweithgareddau neu ddyletswyddau'r undeb, neu os ydych chi'n swyddog neu'n gynrychiolydd dysgu undeb llafur ac nad yw eich cyflogwyr yn talu i chi am rywfaint neu'r cyfan o'r amser pan nad ydych wrth eich gwaith, bydd gennych sail dros gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol.
Cyn mynd â'r mater gerbron Tribiwnlys Diwydiannol, ceisiwch ddatrys y broblem drwy ei thrafod gyda'ch cyflogwyr, gan ddefnyddio gwasanaeth un o swyddogion amser llawn yr undeb o bosibl, neu holwch i weld a wnaiff eich cyflogwyr ddefnyddio gwasanaeth Acas. Ni ddylech gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth nes i bethau fynd i'r pen. Mae'n well ceisio datrys anghydfodau drwy drafod a chymodi.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chymrodeddu (Acas) yn cyhoeddi Cod Gweithredu ynghylch hawl pobl i gael amse ro'r gwaith ar gyfer dyletswyddau a gweithgareddau undeb, ac mae'n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.