Os na chaiff anghydfodau yn y gweithle eu datrys, gallant arwain at weithredu diwydiannol. Cael gwybod pa warchodaeth sydd i weithwyr a pha bryd y bydd hi'n berthnasol, a beth y gallwch ei wneud os cewch chi'ch cosbi am weithredu'n ddiwydiannol.
Fel arfer, bydd gweithredu diwydiannol yn digwydd pan nad oes modd datrys anghydfod yn y gweithle drwy negodi.
Mae tri phrif fath o weithredu diwydiannol:
"swyddogol"os bydd undeb llafur yn ei gefnogi'n ffurfiol a bod aelodau'r undeb hwnnw'n cymryd rhan ynddo.
Os ydych chi'n rhan o weithredu diwydiannol yn erbyn eich cyflogwyr, mae'n debygol y byddwch chi'n torri'ch contract cyflogaeth ac felly rydych chi'n annhebygol o gael tâl ar gyfer cyfnod y gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, byddwch wedi'ch gwarchod rhag cael eich diswyddo am gymryd camau diwydiannol, ar yr amod bod eich undeb yn dilyn y drefn gywir wrth drefnu'r gweithredu.
Mae gweithredu diwydiannol yn"swyddogol"
os bydd undeb llafur yn ei gefnogi'n ffurfiol a bod aelodau'r undeb hwnnw'n cymryd rhan ynddo.
Os ydych chi'n rhan o weithredu diwydiannol yn erbyn eich cyflogwyr, mae'n debygol y byddwch chi'n torri'ch contract cyflogaeth ac felly rydych chi'n annhebygol o gael tâl ar gyfer cyfnod y gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, byddwch wedi'ch gwarchod rhag cael eich diswyddo am gymryd camau diwydiannol, ar yr amod bod eich undeb yn dilyn y drefn gywir wrth drefnu'r gweithredu.
Dim ond os nad oes modd datrys anghydfod drwy ryw ddull arall y dylid gweithredu'n ddiwydiannol, gan y gall fod yn gostus ac yn niweidiol i'r ddwy ochr.
Mae'n debygol y bydd trefniadau ffurfiol ar gael ar gyfer datrys anghydfodau, a'r rheiny fel arfer yn cynnwys eich undeb.
Weithiau, fe all fod yn beth doeth dod â chymorth i mewn o'r tu allan. Gall cynghorwyr o Acas helpu cyflogwyr a chynrychiolwyr y gweithwyr i ddatrys anghydfodau mewn sawl gwahanol ffordd.
Byddwch wedi'ch gwarchod dan y gyfraith wrth gymryd camau gweithredu diwydiannol, ar yr amod:
Does dim gwarchodaeth ar gyfer:
Nid yw'r gyfraith yn gwarchod aelodau undeb sy'n gweithredu'n ddiwydiannol heb fod pleidlais gudd wedi'i chynnal. Rhaid cael craffwr annibynnol os cynhelir pleidlais ymhlith mwy na 50 o weithwyr. Os ceir cefnogaeth y mwyafrif, rhaid i'r gweithredu ddechrau o fewn pedair wythnos i'r bleidlais (neu wyth os bydd yr undeb a'r cyflogwyr yn cytuno).
Os nad ydych chi'n aelod o undeb llafur, yna, ni fydd y darpariaethau sy'n berthnasol i bleidlais gudd yn berthnasol. Dylech geisio cyngor arbenigol ynghylch pa reolau sy'n berthnasol i chi.
Os byddwch chi'n gweithredu'n ddiwydiannol, cofiwch:
Nid yw'r pwynt olaf yn berthnasol os dilynwyd y drefn gywir ar gyfer gweithredu diwydiannol a'ch bod yn cael eich diswyddo llai na 12 wythnos ar ôl i'r gweithredu ddechrau. Nid yw diwrnodau cloi-allan yn cyfri yn y 12 wythnos.
Ar ôl 12 wythnos o weithredu, bydd gennych yr hawl i ddwyn achos diswyddo annheg:
Os yw'r gweithredu'n swyddogol ond nad oes pleidlais gudd wedi'i chynnal neu fod y gweithredu heb ei warchod (er enghraifft, am mai gweithredu eilaidd ydyw) dim ond os cewch chi'ch diswyddo ac eraill sy'n cymryd rhan heb gael eu diswyddo y cewch chi ddwyn achos diswyddo annheg.
Does dim rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol os nad ydych chi'n dymuno gwneud (hyd yn oed os yw'r mwyafrif wedi pleidleisio o blaid). Ni chaiff eich undeb eich disgyblu am hyn nac am unrhyw reswm arall sydd 'heb ei gyfiawnhau'.
Os cewch chi'ch disgyblu am beidio â gweithredu neu am groesi llinell biced, fe gewch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol o fewn tri mis i'r disgyblu.
Gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol os tybiwch i chi gael eich diswyddo'n annheg neu'ch cam-drin gan eich cyflogwyr am gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.