Er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr, mae'n rhaid i asiantaethau cyflogaeth a busnesau ddilyn rheolau penodol.Cael gwybod lle i gael cymorth a beth i’w wneud os nad yw’ch asiantaeth cyflogaeth yn dilyn y rheolau.
Mae'r rheolau sy'n llywodraethu asiantaethau cyflogaeth yn berthnasol os:
Mae rhai pethau gwahanol yn y rheolau sy'n berthnasol, yn dibynnu ar a ydych yn chwilio am waith dros dro neu am waith parhaol.
Cymorth a chyngor i weithwyr asiantaeth
– 0800 917 2368
Os ydych yn weithiwr asiantaeth sy'n defnyddio asiantaeth, mae'n rhaid i'ch asiantaeth rhoi amodau ysgrifenedig o'ch cyflogaeth i chi cyn dechrau chwilio am waith ar eich cyfer. Dylai hyn gynnwys:
Mae’n rhaid i’ch asiantaeth:
Os caiff swydd newydd ei chynnig i chi, mae'n rhaid i'ch asiantaeth roi manylion ysgrifenedig llawn unrhyw swydd newydd o fewn tri diwrnod. Dylai hwn gynnwys:
Os ydych yn weithiwr asiantaeth sy'n defnyddio asiantaeth, ni chaiff eich asiantaeth wneud y canlynol:
Ni chaiff eich asiantaeth cyflogaeth godi ffi arnoch am ddod o hyd i waith i chi, neu geisio dod o hyd i waith ond gall godi ffi arnoch am wasanaethau ychwanegol nad ydynt yn ymwneud â chwilio am waith megis ysgrifennu CV. Fodd bynnag, ni chânt eich gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau am ffi, er enghraifft ysgrifennu CV, a gwneud hynny'n amod ar gyfer dod o hyd i waith i chi.
Os yw eich asiantaeth cyflogaeth yn darparu gwasanaethau y codir amdanynt, mae'n rhaid i chi gael manylion ysgrifenedig llawn am y gwasanaethau, gan gynnwys eich hawl i ganslo neu dynnu'n ôl o'r gwasanaethau a hyd y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid i chi ei roi. Gallwch ganslo unrhyw daliadau a dalwyd amdanynt heb gael dirwy, gan gynnwys unrhyw wasanaethau ar gyfer llety, cludiant neu hyfforddiant. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig o 10 diwrnod gwaith o leiaf i'r asiantaeth ganslo lle i fyw a rhybudd o bum niwrnod gwaith o leiaf ar gyfer unrhyw wasanaeth arall.
Os yw eich asiantaeth cyflogaeth yn dynodi cyfnod rhybudd hwy, yna mae'n torri'r gyfraith a dylech gwyno am yr asiantaeth. Mae hyn yr un mor berthnasol i weithwyr asiantaeth a cheiswyr gwaith sy'n defnyddio asiantaeth cyflogaeth i ddod o hyd i swydd newydd.
Gweithio dramor
Os cewch gynnig gwaith dramor yna mae'n rhaid i'ch asiantaeth sicrhau bod gan y cwmni cyflogi safle busnes yn y DU. Os nad oes ganddo, yna mae'n rhaid i'ch asiantaeth holi'r cwmni cyflogi am ddatganiad ysgrifenedig yn nodi na fydd y gwaith arfaethedig yn amharu ar eich diddordebau.
Os ydych yn chwilio am waith dramor gydag asiantaeth a'u bod wedi darparu teithio am ddim i chi gyda'r swydd, yna mae'n rhaid i'r asiantaeth hefyd dalu am eich taith yn ôl:
Os ydych yn derbyn swydd dramor dylech ddarllen y datganiad ysgrifenedig a ddarperir gan eich asiantaeth yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl glir ynghylch telerau ac amodau'r swydd cyn i chi adael
Os ydych chi dan 18 oed mae rheolau ychwanegol i'ch amddiffyn. Mae'n rhaid i asiantaeth sicrhau eich bod wedi cael canllawiau galwedigaethol gan y gwasanaeth gyrfaoedd lleol os disgwylir i chi weithio yn ystod oriau ysgol. Os yw'r asiantaeth yn trefnu swydd oddi cartref ar eich cyfer (ee dramor) yna mae'n rhaid iddi gael caniatâd ysgrifenedig gan eich rhiant neu'ch gwarcheidwad.
Os byddwch yn defnyddio asiantaethau cyflogaeth i ddod o hyd i waith yn y diwydiant adloniant neu'r diwydiant modelu, yna bydd rhywfaint o reolau gwahanol yn berthnasol i'r asiantaethau hynny.
Ceir gwahanol ffioedd y mae asiantaethau a chyflogwyr yn talu i’w gilydd weithiau. Ni ddylai ffi cael ei godi arnoch am unrhyw un o’r ffioedd canlynol.
Ffioedd dros dro i barhaol
Os yw eich cwmni cyflogi am roi swydd barhaol i chi, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu ffi 'dros dro i barhaol' i'ch asiantaeth cyflogaeth.
Os bydd eich cwmni cyflogi yn newid yr asiantaeth y mae'n ei defnyddio ond ei fod am i chi barhau i weithio iddo dros dro, yna efallai y bydd yn gofyn i chi newid neu gofrestru ag asiantaeth arall. Gallai eich asiantaeth flaenorol godi ffi dros dro ar eich cwmni cyflogi am eich trosglwyddo i asiantaeth arall.
Os yw eich cwmni cyflogi'n eich cyflwyno i fusnes arall sy'n eich cyflogi'n uniongyrchol, gallai eich asiantaeth godi ffi 'dros dro i drydydd parti' ar yr ail fusnes.
Os yw'r asiantaeth wedi torri telerau eich contract, cewch gymryd camau eich hun drwy'r llysoedd. Os bydd yr asiantaeth yn didynnu arian yn anghyfreithlon o'ch cyflog, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol.
Os mae’r asiantaeth wedi torri telerau eich contract, cewch gymryd camau eich hun drwy’r llysoedd. Os bydd yr asiantaeth yn didynnu arian yn anghyfreithlon o'ch cyflog, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol.
Gall y llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith rhoi cymorth i chi ar eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth. Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynghylch eich hawliau cyflogaeth fel gweithiwr asiantaeth gallwch ffonio’r llinell gymorth neu ddefnyddio ei ffurflen ar-lein.
Os hoffech wneud cwyn am asiantaeth cyflogaeth, dylech gwblhau ffurflen cwyn ar-lein yr Arolygiaeth Safonau'r Asiantaethau Cyflogi.