Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Gweithwyr asiantaeth: gweithwyr sy'n feichiog a mamau newydd

Mae gan weithwyr asiantaeth sy'n feichiog a mamau newydd rai hawliau cyflogaeth eisoes. Mae hawliau newydd o 1 Hydref 2011 yn eich diogelu ymhellach i sicrhau na wahaniaethir yn eich erbyn am eich bod yn feichiog. Mynnwch wybod beth ydynt.

Mesurau diogelu presennol

Mae darpariaethau i'ch diogelu yn bodoli eisoes. Mae'r rhain yn berthnasol i'r canlynol:

  • gweithwyr sy'n feichiog
  • merched sydd wedi rhoi genedigaeth yn y chwe mis diwethaf
  • merched sy'n bwydo ar y fron

Bydd angen i chi ddweud wrth yr asiantaeth eich bod yn feichiog yn gyntaf ac ysgrifennu at yr huriwr lle rydych yn gweithio

Beth sy'n digwydd os bydd risg i'ch iechyd?

Os bydd yr huriwr yn nodi risg, bydd angen iddo wneud addasiad os bydd hynny'n rhesymol. Os na fydd hynny'n rhesymol dylai eich asiantaeth gynnig gwaith arall i chi os bydd gwaith addas ar gael. Dylech gael eich talu ar o leiaf yr un gyfradd tan ddiwedd yr aseiniad.

Ni fyddwch yn gymwys os byddwch wedi gwrthod gwaith addas yn afresymol. Os na fydd unrhyw waith addas ar gael mae'n ofynnol i'r asiantaeth eich talu ar yr un gyfradd tan ddiwedd cyfnod yr aseiniad a derfynwyd. Os na fydd y dyddiad gorffen yn hysbys, mae'n rhaid i'r asiantaeth eich talu tan ddiwedd cyfnod tebygol yr aseiniad a derfynwyd.

Apwyntiadau cynenedigol

Os ydych yn weithiwr asiantaeth sy'n feichiog ar aseiniad ar ôl cwblhau'r cyfnod cymhwyso o 12 wythnos rydych yn gallu cymryd absenoldeb â thâl er mwyn mynd i:

  • apwyntiadau meddygol cynenedigol
  • dosbarthiadau cynenedigol

Os bydd angen i chi gymryd amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau cynenedigol byddwch yn parhau i gael eich talu ar yr un gyfradd fesul awr arferol ar ôl 12 wythnos yn yr un swydd. Mae hyn yn cynnwys hyd yr apwyntiad a'r amser y mae'n ei gymryd i deithio i'r apwyntiad ac yn ôl os bydd yn ystod eich oriau gwaith arferol.

Ceisiwch osgoi trefnu amser i ffwrdd o'r gwaith os byddwch yn gallu trefnu dosbarthiadau neu archwiliadau y tu allan i oriau gwaith yn rhesymol.

Enghreifftiau o wahaniaethu

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o wahaniaethu ar y sail eich bod yn feichiog:

  • bod asiantaeth yn gwrthod rhoi aseiniad i chi
  • bod huriwr yn gwrthod eich derbyn
  • bod aseiniad yn cael ei derfynu

Gall asiantaeth wahaniaethu'n anuniongyrchol yn eich erbyn:

  • os bydd yn gwrthod eich rhoi ar ei llyfrau
  • os mai dim ond aseiniadau byr iawn y bydd yn eu cynnig i chi a'i bod yn cynnig aseiniadau hirach i weithwyr asiantaeth eraill

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd huriwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn drwy wrthod gadael i chi ddychwelyd i'ch swydd dros dro yn dilyn absenoldeb o ganlyniad i famolaeth.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU