Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i gael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth

Nid oes un peth sy'n penderfynu'n llwyr ar eich statws cyflogaeth. Os oes anghydfod rhyngoch chi a'r person neu'r cwmni yr ydych yn gweithio iddo ynghylch eich statws, bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn gwneud penderfyniad ar sail holl amgylchiadau'r achos.

Sut i gael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth ar gyfer hawliau cyflogaeth

Ac ystyried eich statws cyflogaeth caiff y math o bethau y bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn chwilio amdanynt eu rhannu i bedwar prif gategori. Os nad ydych yn siŵr ai gweithiwr ynteu gyflogai ydych chi neu a ydych yn hunangyflogedig, ceisiwch ateb y cwestiynau isod sydd wedi'u rhannu i gategorïau.

Os byddwch chi'n ateb 'gwir' i'r rhan fwyaf o'r cwestiynau, yna, mae'n fwy tebygol eich bod yn hunangyflogedig. Os byddwch chi'n ateb 'na' i'r rhan fwyaf o'r cwestiynau, yna mae'n debygol mai cyflogai ydych chi. Os byddwch chi'n ateb yn gadarnhaol i rai o'r cwestiynau ac nid ydych mewn busnes eich hun, mae'n debyg yr ystyrir chi'n weithiwr yn hytrach na chyflogai.

Ceisiwch feddwl amdano fel graddfa lithro, gyda 'chyflogai' ar y naill ben, a 'gwirioneddol hunangyflogedig' ar y pen arall.

Categori un: dan reolaeth

I ba raddau y mae'r cyflogwyr yn penderfynu pa dasgau y byddwch chi'n eu gwneud a sut:

  • ai chi sydd â'r gair olaf o ran sut mae'r busnes yn cael ei redeg?
  • a allwch chi ddewis gwneud y gwaith eich hun, ynteu anfon rhywun arall?
  • a allwch chi ddewis pa bryd a sut y byddwch chi'n gweithio?

Categori dau: integreiddio

I ba raddau rydych chi'n rhan o'r sefydliad:

  • os oes angen help arnoch chi, ai chi sy'n gyfrifol am gyflogi pobl eraill a phennu eu telerau cyflogaeth?
  • a ydych chi'n cael eich eithrio o faterion mewnol y cwmni megis hyfforddiant corfforaethol a chyfarfodydd staff?
  • a ydych chi wedi'ch eithrio rhag trefn ddisgyblu'ch cwmni fel na all neb ei defnyddio i gymryd camau yn eich erbyn?
  • a ydych chi wedi'ch eithrio rhag derbyn buddiannau'r cwmni a bod yn rhan o'i gynlluniau pensiwn?

Categori tri: cyfrifoldebau’r ddwy ochr

I ba raddau y mae disgwyl i'ch cyflogwyr gynnig gwaith i chi ac i ba raddau y mae disgwyl i chi wneud y gwaith hwnnw:

  • ai dim ond pan fydd gwaith ar gael y bydd eich cyflogwr yn cynnig gwaith i chi?
  • a allwch chi ddewis pa bryd a sut y byddwch chi'n gweithio pan gynigir gwaith i chi?

Categori pedwar: realiti economaidd

I ba raddau rydych chi'n ysgwyddo'r risg ariannol:

  • a ydych chi'n gyfrifol am dalu'r colledion yn ogystal ag am gymryd yr elw?
  • a ydych chi'n gyfrifol am gywiro gwaith anfoddhaol ar eich traul eich hun?
  • a oes rhaid i chi gyflwyno anfoneb i'r cwmni am eich cyflog?
  • a fyddwch chi'n cael tâl penodol am ddarn o waith (gan gynnwys deunyddiau a llafur)?
  • a fyddwch chi'n darparu'r prif eitemau o gyfarpar sydd eu hangen i wneud y gwaith?
  • a fyddwch chi'n gweithio i nifer o gyflogwyr gwahanol?

Cofiwch mai canllawiau yw'r rhain yn unig ac mai dim ond gan Dribiwnlys Cyflogaeth neu lys y gallwch gael ateb pendant. Dylech gael cyngor gan arbenigwr os ydych chi'n ansicr. Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol a diduedd am ddim a all gynnig arweiniad i chi ar bob mater sy'n ymwneud â'ch statws cyflogaeth.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os byddwch chi'n anghytuno â'ch cyflogwyr am eich statws a'r hawliau cysylltiedig, ceisiwch ddatrys y mater gyda nhw'n uniongyrchol gyntaf. Er enghraifft, os bydd eich cyflogwr yn gwrthod tâl gwyliau i chi gan ddweud eich bod yn hunangyflogedig. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU