Mae angen i fusnesau, y llywodraeth a'r cyhoedd i gyd wneud mwy a chydweithio'n agosach i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu eich helpu i weithredu mewn amryw o ffyrdd er mwyn lleihau gollyngiadau CO2 - yn awr ac i'r dyfodol. Ymhlith y rhain, mae’r canlynol:
Mae'r llywodraeth wedi gosod nifer o dargedau iddi hi ei hun - gan gynnwys lleihau gollyngiadau carbon 30 y cant erbyn 2020. Mae targedau eraill yn cynnwys ailgylchu 75 y cant o'i gwastraff a lleihau'r dŵr a ddefnyddir ganddi 25 y cant erbyn 2020.
Mae'r llywodraeth hefyd yn cymryd camau i leihau ei gollyngiadau yn sgil teithio, megis gyrru a hedfan. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).