Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynhyrchu neu brynu ynni gwyrdd

Gallwch ddefnyddio adnoddau naturiol fel yr haul, y gwynt neu ddŵr i gynhyrchu’ch ynni eich hun mewn ffordd sy’n fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy. Gelwir hyn yn ficrogynhyrchu. Gallwch hefyd ddefnyddio ynni isel mewn carbon ac ynni adnewyddadwy drwy brynu trydan sy’n fwy gwyrdd.


Beth yw microgynhyrchu?

Ystyr microgynhyrchu yw defnyddio technolegau ynni sy’n isel mewn carbon, megis paneli solar neu dyrbinau gwynt, i gynhyrchu trydan neu wres mewn cartrefi, yn ogystal â mewn adeiladau a ddefnyddir gan fusnesau ac adeiladau cymunedol. Mae’n darparu ffurf o ynni sy’n isel mewn carbon (neu’n ddi-garbon) ac yn lleihau’r defnydd o danwyddau ffosil sy’n niweidio’r amgylchedd. Gall hefyd arbed arian i chi ar eich biliau gwasanaeth.

Wrth ystyried a yw microgynhyrchu’n opsiwn i chi, cofiwch y gall y costau cychwynnol fod yn ddrud ac y gall gymryd amser hir i chi weld gwerth am eich arian. Ni fyddwch yn adennill arian ar yr holl osodiadau. Serch hynny, gallai microgynhyrchu godi gwerth eich eiddo, a dylid ystyried materion ariannol ochr yn ochr â materion amgylcheddol.

Technolegau microgynhyrchu

Am wybodaeth fanylach ynghylch technolegau microgynhyrchu penodol, defnyddiwch y dolenni isod:

Prynu trydan gwyrdd

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ar hyn o bryd, dim ond pedwar y cant o’n trydan sy'n drydan adnewyddadwy, neu’n drydan ‘gwyrdd’. Er hyn, disgwylir i’r ganran honno gynyddu dros y blynyddoedd nesaf.

Mae nifer o gwmnïau’n cynnig cyflenwi trydan ‘gwyrdd’. Mae pecynnau’n amrywio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth yr ydych yn ei brynu. Yn gyffredinol, fodd bynnag, bydd y pecynnau’n disgyn i ddau gategori:

  • tariff gwyrdd – lle bydd cyflenwr yn cael rhywfaint o’ch trydan o ffynhonnell adnewyddadwy neu ffynhonnell sy’n isel mewn carbon
  • cronfa werdd – lle bydd cyflenwr yn gwneud cyfraniad ariannol ar eich rhan i gefnogi prosiectau amgylcheddol neu ddatblygiadau adnewyddadwy ac isel mewn carbon

Mae eisoes yn ofynnol gan y gyfraith i gyflenwyr trydan gynhyrchu cyfran benodol o'u trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Felly wrth newid eich tariff yn dariff gwyrdd, holwch a yw hyn yn golygu bod ynni adnewyddadwy ychwanegol yn cael ei gynhyrchu y tu hwnt i’r gofyn cyfreithiol. Dim ond wedyn y bydd eich dewis o gyflenwr trydan yn arwain at gynnydd yn y trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn y DU.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU