Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dŵr: defnyddio llai yn y cartref

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr sydd angen cael ei rannu gan bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Gall prinder dŵr effeithio ar yr holl fywyd gwyllt a'r amgylchedd. Gallwch helpu drwy arbed dŵr yn eich cartref ac yn yr ardd.

Y mater ehangach

Mae llai o ddŵr ar gael i bob person yn y DU nag yn Sbaen neu Bortiwgal. Po fwyaf o ddŵr a ddefnyddir mewn cartrefi, y lleiaf bydd ar gael mewn afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd naturiol, gan fygwth bywyd gwyllt. Pan fydd lefelau dŵr mewn afonydd yn gostwng, gall adar golli eu ffynonellau bwyd, a gall lefelau ocsigen fynd yn beryglus o isel ar gyfer pysgod.

Mae trin dŵr domestig cyn ac ar ôl ei ddefnyddio, a'i gynhesu, hefyd yn defnyddio llawer o ynni ac mae hyn yn cyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd.

Fflysio llai o ddŵr i lawr y toiled

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn darparu 'hipos' am ddim i'w cwsmeriaid

Defnyddir tua thraean o ddŵr y cartref drwy fflysio toiledau. Mae'n debyg eich bod yn fflysio cymaint o ddŵr mewn diwrnod ag y byddwch yn ei yfed mewn mis cyfan. Ceir ffyrdd hawdd o leihau hyn:

  • gosodwch ddyfais dadleoli dŵr (a elwir weithiau'n 'hipo') yn nhanc dŵr toiled fflysh uchel - bydd y ddyfais hon yn lleihau un neu ddwy litr fel arfer ar faint o ddŵr a ddefnyddir ym mhob fflysh
  • pan fyddwch yn prynu toiled newydd, prynwch doiled sy'n arbed dŵr, neu sydd â fflysh isel neu fflysh ddeuol
  • gosodwch ddyfais fflysh amrywiol ar doiledau fflysh uchel sydd gennych yn barod - bydd hyn yn rhoi dewis i chi o ran faint o fflysh i'w ddefnyddio er mwyn helpu i arbed dŵr
  • taflwch wlân cotwm, cynnyrch glanweithiol a gwastraff arall i'r bin, ac nid i'r toiled

Arbed dŵr wrth fynd i'r gawod neu'r baddon

Gall cawod sydyn ddefnyddio llai o lawer o ddŵr na baddon. Fodd bynnag, gall cawodydd pwerus iawn ddefnyddio mwy o ddŵr na baddon mewn llai na phum munud.

I arbed dŵr, gallech ddefnyddio amserydd cawod i leihau'ch amser yn y gawod. Gallech hefyd osod pen cawod dŵr-effeithlon yn eich cawod. Gall hyn leihau faint o ddŵr y byddwch yn ei ddefnyddio hyd at 30 y cant heb orfod cyfaddawdu o ran pŵer y dŵr. Fodd bynnag, ni ddylid gosod y rhain ar gawodydd trydan, oherwydd gall achosi i'r dŵr orboethi.

Defnyddio offer dŵr-effeithlon

Mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Mae faint o ddŵr a ddefnyddir gan beiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad yn amrywio'n sylweddol.

Mae gan bob peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad label ynni Ewropeaidd (UE) sy'n nodi pa mor effeithlon ydyw wrth ddefnyddio dŵr ac ynni. Gradd 'A' yw'r fwyaf effeithlon a gradd 'G' yw'r lleiaf effeithlon, felly gall dewis yn ofalus arbed arian, dŵr ac ynni i chi. Gallech hefyd:

  • chwilio am beiriant golchi dillad sy'n defnyddio llai na 50 litr o ddŵr ym mhob golch
  • chwilio am beiriant golchi llestri sy'n defnyddio llai na 15 litr o ddŵr ym mhob golch
  • ceisio defnyddio'r peiriannau dim ond pan fyddant yn llawn - mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Gwella gwaith plymio

Mae tap sy'n diferu dim ond dau ddiferyn yr eiliad yn gwastraffu hyd at 26 litr o ddŵr y dydd. Gall gwaith plymio syml arbed llawer o ddŵr heb fod yn gostus:

  • trwsio y tapiau sy'n diferu neu'n gorlifo; dim ond ychydig geiniogau mae golchwr newydd yn ei gostio, a gellir ei osod mewn mater o funudau
  • gosod awyrydd neu ben chwistrell ar dapiau basn ymolchi - mae awyrydd yn cymysgu aer a dŵr a gall hyn leihau 50 y cant ar faint o ddŵr a ddefnyddir
  • bydd rhoi lagin ar eich pibellau allanol yn helpu i atal pibellau rhag byrstio a gollwng dŵr yn y gaeaf

Arbed dŵr yn yr ardd

Gall peipen gardd ddefnyddio fwy o ddŵr mewn awr na'r hyn y bydd teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn diwrnod. Mae rhai ffyrdd syml o arbed dŵr yn yr ardd yn cynnwys:

  • defnyddio can dŵr yn hytrach na phibell - bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o ddŵr a ddefnyddiwch yn eich gardd
  • prynu casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw - byddwch yn arbed dŵr o'r prif gyflenwad a'r ynni a ddefnyddir i'w drin

Osgoi tywallt dŵr yn syth i lawr y draen

Gallwch leihau gwastraff dŵr yn hawdd drwy wneud y canlynol:

  • casglu'r dŵr oer a ddaw cyn i dap boethi a'i ddefnyddio i roi dŵr i blanhigion
  • cadw jwg o ddŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap i gael dŵr oer
  • cau'r tapiau wrth frwsio eich dannedd neu eillio; gall hyn arbed pum litr y funud

Defnyddio dŵr llwyd a dŵr glaw

Gelwir unrhyw ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio yn y cartref, heblaw dŵr o doiledau, yn ddŵr llwyd. Gellir ail-ddefnyddio dŵr y gawod, dŵr y baddon a dŵr y basn ymolchi yn yr ardd. Mae canllawiau ar gyfer gwneud hyn yn cynnwys:

  • rhoi dŵr llwyd yn unig i blanhigion nad ydynt yn fwytadwy
  • sicrhau ei fod wedi oeri cyn i chi ei ddefnyddio
  • osgoi ei dywallt yn uniongyrchol ar ddeiliant

Gallwch hefyd gasglu dŵr glaw. Y ffordd symlaf o wneud hyn fydd defnyddio casgen ddŵr

Allweddumynediad llywodraeth y DU