Arbed ynni yn eich cartref
Mae'r ynni a ddefnyddir mewn cartrefi yn gyfrifol am dros chwarter gollyngiadau carbon deuocsid y DU, sef y prif nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Bydd defnyddio ynni'n fwy effeithlon a gwastraffu llai yn lleihau gollyngiadau carbon yn ogystal â'ch biliau tanwydd. Ar ben hynny, gallai sicrhau bod eich cartref mor effeithlon â phosib o ran ynni arbed £300 y flwyddyn i chi.
Diffoddwch eich offer – peidiwch â'u gadael yn y modd segur
Mae'r cartref cyffredin yn gwastraffu £30 y flwyddyn dim ond drwy adael offer yn y modd segur. Cofiwch:
- ni allwch ddiffodd y rhan fwyaf o nwyddau electronig dim ond drwy ddefnyddio'r rheolydd pell
- i ddiffodd offer yn gyfan gwbl, defnyddiwch y swits pŵer ar yr offer ei hun neu diffoddwch ef yn y plwg - bydd unrhyw offer sy'n cynnwys gwefrydd neu becyn pŵer allanol yn dal i ddefnyddio pŵer oni bai y caiff ei ddiffodd yn y plwg (gallwch ddweud oherwydd bydd y gwefrydd neu'r pecyn pŵer yn aros yn gynnes neu bydd golau arno)
Prynu offer ynni-effeithlon
Mae offer ynni-effeithlon yn hawdd dod o hyd iddynt ac nid ydynt yn ddrutach o reidrwydd:
- chwiliwch am offer sy'n dangos y label Energy Saving Recommended, gan fod y rhain ymysg yr 20 y cant mwyaf effeithlon sydd ar gael
- chwiliwch am labeli ynni'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar oergelloedd, rhewgelloedd a pheiriannau golchi, sy'n ei gwneud yn hawdd gweld pa mor ynni-effeithlon yw offer ar raddfa o A i G (A yw'r mwyaf effeithlon a G yw'r lleiaf effeithlon)
- pe bai pob cartref yn y DU yn gosod dim ond tri bwlb golau ynni-effeithlon, byddem yn arbed digon o ynni i bweru ein holl oleuadau stryd
Inswleiddio’ch cartref
Nid yw'r rhan fwyaf o gartrefi yn y DU wedi'u hinswleiddio i'r graddau a argymhellir, ac mae bron i hanner y gwres mewn cartref nodweddiadol yn cael ei golli drwy'r waliau a'r to.
- drwy inswleiddio eich cartref gallech arbed £180 y flwyddyn ar eich biliau gwres
- hyd yn oed os ydych wedi inswleiddio'ch atig, edrychwch pa mor drwchus yw'r deunydd. Drwy ychwanegu haen arall er mwyn iddo fod yn 270mm o drwch fel yr argymhellir, byddwch yn arbed ynni ac arian
Gosod system wresogi ynni-effeithlon
Pe bai pob cartref yn y wlad yn gosod boeler effeithlonrwydd uchel, byddai'r ynni a arbedid yn ddigon i ddarparu gwres a phŵer i bron ddwy filiwn o dai.
- gall eich boeler presennol ddefnyddio hyd at 40 y cant yn llai o ynni os yw'n cael ei reoli gyda thermostat effeithlon a falfiau gwresogydd thermostatig
- gallai prynu boeler newydd effeithlon ddefnyddio traean yn llai o ynni nag un 10 mlwydd oed
Y mater ehangach
Cynhyrchir y rhan fwyaf o'r ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi drwy ddefnyddio prosesau sy'n rhyddhau gollyngiadau CO2 i'r aer.
Gollyngiadau CO2 yw'r achos mwyaf sylweddol o newid yn yr hinsawdd, felly lleihau defnydd ynni eich cartref yw un o'r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.