Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Inswleiddio a gwresogi eich cartref yn effeithlon

Ynni a ddefnyddir mewn cartrefi sy'n gyfrifol am fwy na chwarter gollyngiadau carbon y DU ac mae 80 y cant o hyn ar gyfer gwresogi. Gall inswleiddio da, boeleri mwy effeithiol a throi'r thermostat i lawr helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau llygredd aer a gostwng biliau ynni a gall hefyd ychwanegu at werth eich cartref.

Rheolwch eich gwresogi

Gallwch leihau swm syfrdanol o'r ynni y byddwch yn ei wastraffu drwy reoli eich gwres canolog yn ofalus. Gallai'r pethau y gallech eu gwneud gynnwys:

  • thermostatau ar gyfer gwresogi a dŵr poeth
  • falfiau gwresogydd gyda thermostatau
  • amseryddion electronig

Gall dilyn ychydig o gamau syml dalu ar ei ganfed yn ariannol ac yn amgylcheddol:

  • wrth ddefnyddio'r amserydd, dylid gwneud yn siŵr mai dim ond pan fyddwch ei angen y mae'r gwres yn dod ymlaen
  • pan fyddwch yn symud tŷ, gofynnwch i'r landlord neu'r bobl sy'n symud ddangos i chi sut mae'r botymau rheoli'n gweithio
  • os ydych yn gosod boeler neu silindr dŵr poeth newydd, gofynnwch i'r sawl sy'n ei osod egluro'r botymau rheoli i chi – a gofynnwch am ymweliad dilynol
  • drwy ostwng dim ond 1 gradd Celsius ar eich thermostat, gallech arbed cymaint â 10 y cant ar filiau gwresogi

Dewis boeler sy'n defnyddio ynni'n effeithlon

Defnyddir dros 80 y cant o ynni'r cartref ar gyfer gwresogi a chael dŵr poeth, felly gall boeler sy'n defnyddio ynni yn fwy effeithlon wneud byd o wahaniaeth. Cadwch olwg am label Energy Saving Recommended wrth ddewis boeler newydd - dim ond ar y cynhyrchion sydd ymhlith y rhai mwyaf ynni-effeithlon y gellir defnyddio hwn, sef yr 20 y cant gorau ar y farchnad fel arfer.

Inswleiddio eich waliau a'ch atig

Y man cychwyn gorau yw edrych ar y ffordd y mae eich waliau a'ch to wedi eu hinswleiddio – collir dros hanner y gwres mewn cartref cyffredin drwy un o'r llwybrau hyn.

  • mae inswleiddio waliau ceudod yn costio oddeutu £260 a gallai dorri cymaint â £160 oddi ar eich biliau ynni bob blwyddyn
  • gellir inswleiddio tŷ tair ystafell wely cyffredin mewn cwpl o oriau a gellir ei wneud o'r tu allan
  • mae angen i'ch adeilad gael waliau ceudod – gallwch inswleiddio waliau solet hefyd ond mae hyn yn brosiect mwy a drutach
  • gallwch arbed hyd at £220 bob blwyddyn drwy inswleiddio'r atig – mae'n costio oddeutu £230 ac yn hawdd ei osod – gallwch wneud y gwaith eich hun hyd yn oed
  • os ydych eisoes wedi inswleiddio'r atig, gall ychwanegu haen arall, i gael 270 mm o drwch, olygu bod eich cartref yn colli llai fyth o ynni

Ffyrdd eraill o gadw gwres

Er mai waliau a thoeau sy'n bennaf gyfrifol am golli gwres, gallwch wneud pethau eraill hefyd:

  • gall gwydr dwbl leihau hyd at hanner y gwres a gollir drwy ffenestri
  • inswleiddio eich tanc dŵr poeth
  • lagio eich pibellau
  • gosod stripiau atal drafft o amgylch ffenestri a drysau – os gallwch deimlo aer oer yn dod i mewn, mae'n golygu bod aer cynnes yn mynd allan yr un ffordd
  • os oes seler yn eich cartref, gall inswleiddio dan y llawr helpu i gadw'r gwres

Newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi

Weithiau, gall ynni adnewyddadwy fod yn opsiwn ar gyfer gwresogi a phweru cartrefi, a gall wneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Dilynwch y dolenni ar ddiwedd yr adran hon i gael gwybod mwy am ba mor ymarferol yw defnyddio gwahanol dechnolegau ynni adnewyddadwy. Dyma'r nodweddion mwyaf cyffredin:

  • mae pŵer solar yn defnyddio ynni'r haul naill ai i wresogi dŵr yn uniongyrchol (gwresogi dŵr gydag ynni solar) neu i gynhyrchu trydan (Ffotofoltaig neu Solar PV)
  • gellir defnyddio pŵer gwynt i gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio tyrbinau
  • gellir defnyddio dŵr sy'n rhedeg hefyd i gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio tyrbin
  • gellir llosgi biomas (cynhyrchion planhigion neu wastraff anifeiliaid) i wresogi eich cartref yn uniongyrchol neu i wresogi dŵr - y tanwydd mwyaf cyffredin yw pren, ond gellir defnyddio olewau planhigion, siwgr câns a chnydau eraill (os ydych yn byw mewn ardal rheoli mwg, gallwch gael cyngor am ba danwyddau y gallwch eu llosgi gan eich cyngor lleol)
  • mae pympiau gwres o'r ddaear yn defnyddio gwres sydd wedi'i storio yn y ddaear i wresogi cartrefi neu ddŵr yn uniongyrchol - caiff dŵr ei bwmpio drwy bibellau sydd wedi'u claddu yn y ddaear a chaiff gwres ei ddal a'i drosglwyddo i reiddiaduron neu i danc dŵr poeth

Y mater ehangach

Ynni a ddefnyddir yn y cartref sy'n gyfrifol am fwy na chwarter gollyngiadau carbon y DU. Lleihau faint o ynni a ddefnyddiwch i wresogi yw un o'r pethau mwyaf y gallwch ei wneud i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU