Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bylbiau golau arbed ynni

Un ffordd o arbed ynni yn eich cartref yw defnyddio bylbiau golau arbed ynni. Gall y rhain bara hyd at 10 gwaith yn hirach na bylbiau traddodiadol a gallan nhw hefyd arbed arian i chi ar eich biliau trydan. Dysgwch fwy am sut mae’r bylbiau hyn yn gweithio a sut mae eu hailgylchu.

Beth sydd o'i le ar fylbiau golau traddodiadol?

Mae bylbiau golau traddodiadol yn aneffeithlon iawn am drosi trydan yn olau, oherwydd maen nhw’n gwastraffu 95 y cant o’r trydan maen nhw’n ei ddefnyddio wrth gynhyrchu gwres.

Mae’r ynni hwn sy’n cael ei wastraffu yn ychwanegu at eich ôl troed carbon, felly yn ogystal ag arbed arian i chi, bydd lleihau faint o ynni a ddefnyddiwch chi i oleuo eich cartref hefyd yn helpu i achub y blaned.

I helpu i leihau allyriadau carbon y DU, bydd bylbiau golau 100 wat yn cael eu tynnu o’r siopau o fis Medi 2009 ymlaen. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd bylbiau 75 wat a 60 wat hefyd yn cael eu tynnu oddi ar y silffoedd. Erbyn 2012, bydd pob bwlb 40 wat a 25 wat yn diflannu o'r siopau.

Arbed arian gyda bylbiau golau arbed ynni

Gallai bylbiau arbed ynni arbed hyd at £37 y flwyddyn i chi

Mae bylbiau golau arbed ynni hefyd yn cael eu galw’n oleuadau fflwroleuol cywasgedig. Maen nhw’n ffitio mewn ffitiadau golau safonol ac maen nhw 80 y cant yn fwy effeithlon am droi ynni yn olau.

Gall goleuadau fflwroleuol cywasgedig bara hyd at 10 gwaith yn hirach na bylbiau golau cyffredin, felly gallan nhw arbed hyd at £37 y flwyddyn i chi os defnyddiwch chi nhw drwy eich tŷ i gyd.

Gallech chi hefyd ddefnyddio bylbiau halogen yn lle bylbiau golau traddodiadol. Dydy’r rhain ddim mor effeithlon â goleuadau fflwroleuol cywasgedig, ond maen nhw’n dal i ddefnyddio rhwng 25 a 40 y cant yn llai o ynni na bylbiau golau traddodiadol.

Sut mae ailgylchu bylbiau golau arbed ynni

Mae bylbiau arbed ynni yn cynnwys ychydig bach o fercwri – dim ond digon i orchuddio blaen beiro. Does dim modd i’r mercwri ddod allan o fwlb golau wrth iddo gael ei ddefnyddio, ond rhaid i chi fod yn ofalus wrth eu hailgylchu.

Ddylech chi ddim taflu bylbiau fflwroleuol cywasgedig gyda sbwriel arferol, nac i’r biniau ailgylchu gwastraff tai sy’n cael eu darparu gan eich cyngor lleol, oherwydd gallai'r mercwri ddianc os caiff y bwlb ei dorri.

Yn y rhan fwyaf o’r DU, mae modd ailgylchu bylbiau fflwroleuol cywasgedig yn eich canolfan gwastraff ac ailgylchu leol. Gallwch chi ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf drwy gysylltu â'ch cyngor lleol.

I gael gwybod rhagor am y mercwri sydd mewn bylbiau golau, holwch Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Sut mae delio â bwlb golau fflwroleuol cywasgedig sydd wedi torri

Os byddwch chi’n torri bwlb golau fflwroleuol cywasgedig gartref, dylech chi agor y ffenestri am 15 munud a gadael i'r ystafell awyru. Dylech chi gasglu darnau’r bwlb sydd wedi torri yn ofalus gan ddefnyddio papur cegin (nid brwsh na sugnydd llwch), a dylech chi wisgo menig rwber i amddiffyn eich dwylo.

Wedyn, defnyddiwch glwt llaith i lanhau’r man lle’r oedd y bwlb, a rhowch y darnau o wydr a'r clwt mewn bag plastig a'i selio.

Ddylech chi ddim taflu’r bag gyda sbwriel arferol y cartref, ond mynd ag ef i'ch canolfan gwastraff ac ailgylchu leol.

Yw bylbiau golau arbed ynni yn ddiogel?

Mae pob bwlb arbed ynni yn ddiogel i’w ddefnyddio yn y cartref. Fodd bynnag, efallai y bydd y golau uwch fioled sy’n dod o’r bylbiau yn effeithio ar rai pobl sy’n defnyddio'r goleuadau hyn yn agos am fwy nag awr ar y tro.

Gall goleuadau fflwroleuol cywasgedig hefyd effeithio ar bobl sydd â rhai mathau o gyflyrau sensitif i olau. Gallwch chi weld rhagor o fanylion am y risgiau iechyd hyn mewn adroddiad ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae rhagor o fanylion am y cyngor diogelwch ar gyfer goleuadau fflwroleuol cywasgedig ar gael ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU