Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Technoleg solar

Bydd technoleg solar yn defnyddio ynni'r haul i greu trydan neu i wresogi dŵr ymlaen llaw yn eich cartref. Bydd paneli solar a systemau solar ar gyfer gwresogi dŵr yn caniatáu i chi greu ynni glân a gwyrdd, ac yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Systemau Ffotofoltaig Solar

Bydd systemau ffotofoltaigau solar – a elwir yn aml yn baneli solar – yn defnyddio ynni’r haul i gynhyrchu trydan. Golau dydd, yn hytrach na goleuni uniongyrchol o’r haul, y bydd ei angen ar ffotofoltaigau solar i gynhyrchu trydan.

Sut mae'n gweithio?

Pan fydd goleuni’n disgleirio ar y panel bydd yn creu maes trydanol ar draws haenau o silicon yn y gell, gan beri i drydan lifo. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, y mwyaf tanbaid yw’r goleuni, y mwyaf y bydd llif y trydan. Gellir defnyddio’r pŵer yn syth neu ei gysylltu’n ôl â’r grid pŵer.

Beth y mae’n ei olygu?

Gallwch ddefnyddio systemau ffotofoltaigau solar ar adeilad sydd â tho neu wal sydd â’i wyneb o fewn 90 gradd i’r de, cyn belled nad oes adeiladau eraill neu goed mawr yn bwrw'u cysgod drostynt. Os yw arwyneb y to mewn cysgod am rannau o’r diwrnod, bydd llai o drydan yn cael ei gynhyrchu.

Nid yw paneli solar yn ysgafn ac mae’n rhaid i’r to fod yn ddigon cryf i gynnal eu pwysau, yn enwedig os gosodir y paneli ar deils sydd yno'n barod.

Erbyn hyn maent yn amrywio o ran siâp a lliw, o ‘deils solar' llwyd sy’n edrych fel teils sy’n cael eu rhoi ar do, i baneli a chelloedd tryloyw y gallwch eu rhoi ar ystafelloedd haul a gwydr i ddarparu cysgod yn ogystal â chynhyrchu trydan.

Caniatâd cynllunio

Bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio gan rai awdurdodau lleol cyn y cewch osod system ffotofoltaigau solar, yn enwedig mewn ardal cadwraeth ac ar adeiladau rhestredig. Dylech bob amser holi eich awdurdod lleol am faterion cynllunio cyn gosod system. Gall cael caniatâd cynllunio ar ôl rhoi’r system yn ei lle fod yn anodd ac yn ddrud.

Faint mae’n ei gostio?

Gall system arferol a roddir yn y cartref gostio oddeutu £5,000 i £8,000 am bob cilowat (kW), gyda’r rhan fwyaf o systemau ar gyfer y cartref yn 1.5 i 3kW fel arfer. Gall system o’r fath gynhyrchu tua hanner gofynion trydanol eiddo domestig.

Mae teils solar yn costio mwy na’r paneli confensiynol, ac mae paneli sy’n cael eu hintegreiddio i do yn ddrytach na’r rheini sy’n gorwedd ar ben y to. Os ydych chi'n bwriadu gwneud llawer o waith atgyweirio ar eich to, efallai ei bod yn werth i chi edrych ar deils ffotofoltaig oherwydd gellir eu gosod yn erbyn cost y teils ar gyfer y to.

Cynnal a chadw

Ychydig iawn o waith cynnal a chadw fydd ar systemau sy’n cael eu cysylltu â’r grid. Y prif beth y bydd angen ei wneud yw sicrhau bod y paneli’n cael eu cadw’n weddol lân ac nad yw cysgod coed wedi dod yn broblem. Er hynny, dylai gwifrau a chydrannau’r system gael eu harchwilio’n rheolaidd gan dechnegydd cymwys. Bydd angen cynnal a chadw cydrannau eraill o systemau unigol (nad ydynt wedi'u cysylltu â'r grid), megis y batris.

System solar i wresogi dŵr

Mae systemau gwresogi solar yn defnyddio ynni o'r haul i wresogi ystafelloedd neu i wresogi dŵr ymlaen llaw er mwyn i chi gael dŵr poeth. Ceir dau fath – tiwbiau solar neu blatiau solar gwastad – sy’n casglu golau’r haul.

Sut mae'n gweithio?

Ceir tair prif gydran er mwyn cael dŵr poeth yn y cartref:

  • paneli solar
  • system trosglwyddo gwres
  • silindr dŵr poeth

Bydd paneli solar - neu gasglwyr - yn cael eu gosod ar eich to. Byddant yn casglu gwres o belydrau’r haul. Pan fydd dŵr yn mynd drwy’r platiau neu’r tiwbiau solar bydd yn cael ei wresogi ac yna’n cael ei bwmpio i’ch boeler neu’ch silindr dŵr poeth. Mae’r system trosglwyddo gwres yn defnyddio’r gwres a gasglwyd i wresogi dŵr. Bydd silindr dŵr poeth yn storio’r dŵr poeth a wresogir yn ystod y dydd ac yn ei gyflenwi pan fydd arnoch angen ei ddefnyddio yn nes ymlaen.

Yn ystod yr haf, gall system fel arfer ddarparu ar gyfer eich holl anghenion o ran dŵr poeth, ac ar gyfer tua hanner eich anghenion yn ystod gweddill y flwyddyn. Er enghraifft, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, petai gennych dŷ pâr tair ystafell wely, gallai’r system wresogi solar ddiwallu hyd at draean eich anghenion o ran dŵr poeth.

Beth y mae’n ei olygu?

Yn ddelfrydol, bydd angen i dair neu bedwar metr sgwâr o'ch to fod yn edrych o’r de-ddwyrain i'r de-orllewin a bod golau'r haul yn disgleirio arno am y rhan fwyaf o'r diwrnod. Yn ogystal â hyn, bydd arnoch angen lle i roi silindr dŵr ychwanegol os bydd angen. Eto, dylech bob amser holi eich awdurdod lleol am faterion cynllunio cyn gosod system.

Faint mae’n ei gostio?

Y gost nodweddiadol ar gyfer rhoi system ddomestig yn ei lle yw £3,200 i £4,500. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gallai system solar sy’n gwresogi dŵr arbed hyd at £40 y flwyddyn i chi ar eich biliau dŵr poeth.

Cynnal a chadw

Yn gyffredinol, ceir gwarant 10 mlynedd gyda systemau solar sy’n gwresogi dŵr, ac ni fydd angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt. Dylai deilydd y cartref archwilio’r system bob blwyddyn a dylid trefnu i osodwr proffesiynol archwilio’r system yn fanylach bob tair i bum mlynedd (holwch y sawl a gyflenwodd eich system i gael gwybod yn union beth yw’r gofynion cynnal a chadw).

Gwybodaeth am grantiau a chymhellion ariannol eraill

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod beth sydd ar gael:

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU