Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tyrbinau gwynt

Bydd tyrbinau gwynt yn defnyddio’r gwynt i gylchdroi llafnau sydd yna'n troi rotor – ac yn creu trydan. Maent yn amrywio o dyrbinau bach iawn sy’n cyflenwi ynni ar gyfer systemau gwefru batris (er enghraifft, ar gychod neu mewn cartrefi), i grŵp o dyrbinau ar ffermydd gwynt sy’n cyflenwi trydan i’r grid cenedlaethol.

Sut mae'n gweithio?

Mae pŵer gwynt ar raddfa fach yn arbennig o addas ar gyfer lleoedd anghysbell lle mae dulliau confensiynol o gynhyrchu trydan yn ddrud neu’n anymarferol

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gall tyrbinau unigol amrywio o ran eu maint, a gall faint o bŵer a gynhyrchir ganddynt amrywio o ychydig gannoedd o watiau i ddau neu dri megawat (mae un MW yn gyfwerth â 1,000 kW). Fel canllaw, byddai system nodweddiadol ar gyfer y cartref yn 2.5 i 6 cilowat (kW) yn dibynnu ar leoliad a maint y tŷ.

Mae pŵer gwynt ar raddfa fach yn arbennig o addas ar gyfer lleoedd anghysbell lle mae dulliau confensiynol o gynhyrchu trydan yn ddrud neu’n anymarferol.

Bydd y rhan fwyaf o dyrbinau gwynt bach yn cynhyrchu trydan cerrynt uniongyrchol sy’n cael ei storio mewn batri. Mae angen i’r cerrynt uniongyrchol gael ei drosi’n gerrynt eiledol ar gyfer trydan prif gyflenwad. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi gael rheolydd i ddargyfeirio pŵer i ffynhonnell ddefnyddiol arall (ar gyfer gwresogyddion dŵr ac/neu ystafelloedd) pan fydd y batri wedi’i wefru’n llawn.

Gellir hefyd rhoi systemau gwynt ar waith lle mae cyswllt â’r grid eisoes wedi’i sefydlu. Bydd teclyn rheoli a gwrth-droi arbennig yn trosi’r trydan cerrynt uniongyrchol yn drydan cerrynt eiledol. Gellir allgludo unrhyw drydan sydd dros ben neu heb ei ddefnyddio i’r grid a’i werthu i gwmni lleol sy'n cyflenwi trydan.

Mae’n gyffredin cyfuno’r system hon â generadur disel i'w defnyddio mewn cyfnodau pan fydd cyflymder y gwynt yn araf. Bydd system sy’n cyfuno disel a gwynt yn fwy effeithlon ac yn fwy hyblyg na system disel yn unig.

Beth yw'r ffactorau ymarferol?

Mae’n syniad da gosod y tyrbin yn uchel ar fast neu dŵr, oherwydd bydd cyflymder y gwynt yn gynt po uchaf yr ydyw. Y safle delfrydol fyddai ar fryn gwastad ac agored, lle na fyddai’n rhaid i’r tyrbin wynebu gormod o dyrfedd a lle nad oes rhwystrau fel coed mawr, tai neu adeiladu eraill.

Mae tyrbinau gwynt bach y gellir eu hintegreiddio i adeiladau ar gael hefyd. Mae’r rhain yn addas ar gyfer lleoliadau trefol, i’w gosod mewn cartrefi neu adeiladau eraill.

Cyn bwrw ymlaen, yn ddelfrydol, dylech drefnu bod asesiad proffesiynol yn cael ei gynnal o gyflymder y gwynt yn lleol, a hynny am flwyddyn lawn yn yr union le yr ydych yn bwriadu gosod y tyrbin. Y rheswm am hyn yw bod y trydan a gynhyrchir yn ddibynnol iawn ar gyflymder a chyfeiriad y gwynt. Dywed yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni mai dim ond os bodlonir yr amodau canlynol y dylech ystyried cael tyrbin gwynt:

  • mae cyflymder cyfartalog y gwynt yn lleol, a thros gyfnod o flwyddyn, yn 6m/e neu fwy
  • nid oes unrhyw rwystrau mawr gerllaw megis adeiladau, coed neu fryniau sy’n debygol o ostwng cyflymder y gwynt neu beri mwy o dyrfedd

Mae’n rhaid i chi hefyd ystyried materion yn ymwneud â chadwraeth a chynllunio, megis yr effaith weledol a’r sŵn. Fel arfer, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol i osod system.

Faint mae’n ei gostio?

Bydd systemau hyd at 1kW yn costio tua £1,500, ond byddai systemau mwy o ryw 2.5kW i 6kW yn costio rhwng £10,000 a £25,000 i chi eu gosod.

Byddai’r costau hyn yn cynnwys y tyrbin, y mast, teclynnau gwrth-droi, lle i storio batri (os oes angen) yn ogystal â chostau gosod. Ond mae’n bwysig cofio bod costau bob amser yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y system, ei maint a’i math.

Cynnal a chadw

Gall oes tyrbin fod yn 20 mlynedd ond bydd angen eu harchwilio bob rhyw flwyddyn neu ddwy er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n effeithiol. Ar gyfer systemau storio ar fatri, bydd batri’n para am chwech i ddeg mlynedd, yn dibynnu ar y math, felly mae’n bosib y bydd angen eu newid ryw dro yn ystod oes y system.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU