Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Systemau pŵer hydro (dŵr) bach

Os oes gennych ffynhonnell addas o ddŵr, bydd gosod system pŵer hydro  yn eich galluogi i greu ynni gwyrdd, glân. Mae systemau pŵer hydro yn trawsnewid yr ynni posib sydd mewn dŵr i droi tyrbin a fydd yn ei dro yn cynhyrchu trydan.

Sut mae'n gweithio?

Mae gwelliannau mewn technoleg generaduron a thyrbinau bach yn golygu bod cynlluniau hydro bach yn ffordd ddeniadol o gynhyrchu trydan

Gellir cynhyrchu pŵer o ffrwd fechan hyd yn oed, a bydd peiriant hydro micro (bach) fel arfer yn cynhyrchu llai na 100 cilowat (kW). Mae systemau’n amrywio o ychydig gannoedd o watiau (y gellir eu defnyddio â batris efallai) ar gyfer cynlluniau yn y cartref, i fwy na 25kW ar gyfer cynlluniau masnachol.

Dywed yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni bod gwelliannau mewn technoleg generaduron a thyrbinau bach yn golygu bod cynlluniau hydro bach yn ffordd ddeniadol o gynhyrchu trydan.

Gellir cysylltu systemau hydro â’r grid cenedlaethol sy’n cynhyrchu trydan, neu gall fod yn system bŵer unigol nad yw’n rhan o’r grid. Mewn system sydd wedi’i chysylltu â'r grid, gellir gwerthu unrhyw drydan a gynhyrchir ond nas defnyddir i gwmnïau trydan.

Mewn system hydro nad yw’n rhan o’r grid, gellir cyflenwi trydan drwy fatri neu’n uniongyrchol i’r dyfeisiadau sy’n cael eu pweru gan y system. Efallai y bydd angen system bŵer wrth gefn i unioni unrhyw amrywiadau yn llif y dŵr yn ystod y flwyddyn.

Beth yw'r ffactorau ymarferol?

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gyda phŵer hydro, mae’n ofynnol bod ffynhonnell ddŵr yn weddol agos at y man lle byddwch yn defnyddio’r trydan a gynhyrchir, neu at gysylltiad grid addas.

Mae faint o ynni a gynhyrchir yn dibynnu ar ba mor gyflym yw llif y dŵr ac ar ba mor bell y mae’n llifo – felly mae angen cael llif cyflym o gryn uchder. Gyda systemau bach mae tua hanner pŵer y dŵr mewn gwirionedd yn cael ei drawsnewid yn bŵer trydanol.

Bydd angen i chi gael sgwrs â’r awdurdodau cynllunio perthnasol i wneud yn siŵr bod y safle a’r cynllun yn dderbyniol ac i gael gwybod am unrhyw ganiatâd arall sy’n ofynnol.

Faint mae’n ei gostio?

Mae costau hydro’n dibynnu llawer iawn ar y safle ac ar y trydan a gynhyrchir. Ar gyfer systemau bach sy’n defnyddio pwll neu gored, gallai’r costau fod oddeutu £4,000 i bob kW a osodwyd hyd at ryw 10kW – a byddai'n gostwng yn ôl kW ar gyfer cynlluniau mwy.

Ar gyfer systemau canolig eu maint, ceir cost sefydlog o tua £10,000 ac yna tua £2,500 y kW hyd at oddeutu 10kW – felly, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gallai cynllun 5kW nodweddiadol ar gyfer y cartref gostio rhwng £20,000 a £25,000.

Gwybodaeth am grantiau a chymhellion ariannol eraill

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod beth sydd ar gael:

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU