Yn ogystal â thechnoleg solar, gwynt a hydro, ceir tri math arall o dechnoleg rhad-ar-garbon y gall pobl eu defnyddio i gynhyrchu ynni yn eu cartrefi eu hunain, sef pympiau sy'n codi gwres o'r ddaear, bio-ynni a thechnoleg gwres ac ynni cyfunol (micro) neu micro-CHP.
Gellir defnyddio pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear (GSHPs) i ddarparu gwresogwyr aer ac, mewn rhai achosion, i gynhesu dŵr poeth ymlaen llaw yn y cartref. Maent yn defnyddio pibell fawr sy'n llawn dŵr a gwrthrewydd, sy’n creu cylch dan y ddaear, i ddal gwres sy'n codi o'r ddaear. Yna, bydd y gwres hwnnw’n cael ei drosglwyddo – gan weithio mewn ffordd groes i oergell fwy neu lai – i wresogyddion, i system wresogi dan y llawr neu i ddŵr er mwyn i chi gael dŵr poeth.
Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn tynnu sylw at rai materion y dylid eu hystyried ynghylch cael pwmp sy’n codi gwres o’r ddaear:
Bydd system chwech i wyth cilowat (kW) arferol yn costio rhwng £7,300 ac £11,800, yn ogystal â chost cysylltu â’r system ddosbarthu. Gall hyn amrywio yn ôl eiddo a lleoliad.
Mae Bio-ynni yn defnyddio biomas (defnydd organig) i gynhyrchu ynni mewn modd carbon niwtral. Mae'r CO2 sy'n cael ei ryddhau pan fydd ynni'n cael ei gynhyrchu o fiomas yn cael eu cydbwyso gan y CO2 sy'n cael ei amsugno wrth i'r tanwydd gael ei greu. Gelwir hyn yn broses carbon niwtral.
Mae’r bio-danwyddau hyn yn perthyn i ddau brif gategori:
Ar gyfer biomas a ddefnyddir ar raddfa fechan yn y cartref, daw’r tanwydd fel arfer o belenni pren, sglodion pren a logiau pren. Mae dwy brif ffordd o ddefnyddio biomas i wresogi eiddo domestig:
Stôf sy’n sefyll ar ei phen ei hun ac yn gwresogi ystafell. Gellir defnyddio logiau neu belenni yn danwydd ar eu cyfer. Yn gyffredinol byddant yn cynhyrchu rhwng chwech a 12kW, a gellir gosod boeler ôl ar rai modelau er mwyn gwresogi dŵr.
Boeleri sydd wedi’u cysylltu â systemau dŵr poeth a gwres canolog. Mae pelenni, logiau neu sglodion pren yn addas ar gyfer y rhain (rhaid eu bwydo i mewn i’r boeler â llaw) ac yn gyffredinol maent yn fwy na 15kW.
Dywed yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni y dylech ystyried y materion canlynol os ydych chi’n ystyried cael stôf neu foeler biomas. Bydd gosodwr achrededig yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad manylach am bethau eraill i’w hystyried.
Bydd gwresogyddion sy'n sefyll ar eu pen eu hunain mewn ystafell yn costio oddeutu £3,000 i’w gosod. Bydd cost boeleri yn amrywio yn dibynnu ar y tanwydd y dewisir ei ddefnyddio. Byddai’n costio rhwng oddeutu £5,500 a £12,000 i osod boeler pelenni 20kW cyffredin. Bydd boeler o’r maint hwnnw’n gwresogi tŷ pâr tair ystafell wely drwy’r flwyddyn. Byddai system tua’r un maint lle mae angen bwydo’r logiau i mewn iddi ychydig yn rhatach.
Gyda systemau biomas, yn wahanol i fathau eraill o ynni adnewyddadwy, mae angen i chi dalu am y tanwydd. Mae costau tanwydd yn gyffredinol yn dibynnu ar y pellter rhyngoch chi a’ch cyflenwr. Bydd y costau rhedeg yn rhatach os byddwch yn byw mewn ardal sydd heb gyflenwad nwy.
Mae micro-CHP yn dechnoleg newydd sy’n adfer ac yn defnyddio’r gwres a gynhyrchir pan gynhyrchir trydan. Bydd uned micro-CHP tebyg i foeler nwy yn darparu gwres ar gyfer gwresogi gwres a dŵr, yn yr un modd â boeler. Bydd hefyd yn darparu trydan ar gyfer goleuadau a pheiriannau domestig.
Mae gan y dechnoleg hon y potensial i fod yn ffordd effeithlon iawn o ddefnyddio tanwyddau ffosil, fel nwy naturiol. Yn ogystal â nwy, bydd cyfran sylweddol ohonynt yn llosgi tanwyddau amgen, adnewyddadwy. Nid yn unig y mae micro-CHP yn fwy effeithlon gan ei fod yn defnyddio gwres, mae hefyd yn osgoi’r colledion a geir wrth drosglwyddo a dosbarthu.
Mae’r systemau micro-CHP presennol yn fwyaf addas ar gyfer cartrefi mwy sy’n cynnwys tair ystafell wely neu ragor, neu dai hŷn lle byddai’n anodd gwella'r ffordd y mae wedi ei inswleiddio, fel tŷ â waliau brics cadarn. Mewn cartrefi o'r fath, mae gan y micro-CHP y potensial i arbed rhwng pump a deg y cant ar garbon. Mae gostyngiadau nodweddiadol oddeutu 200kg a 800kg o CO2 bob blwyddyn. Mae'r system sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnig llai o fanteision ar gyfer tai llai a mwy newydd.
I wneud y mwyaf o'r dechnoleg, rhaid gosod rhwydweithiau gwres (fel arfer drwy ddefnyddio dŵr drwy bibellau). Mae'r rhain yn ddrud - rhwng £500 ac £800 y KW y gellir ei gynhyrchu. Mae’r cyfnod arferol ar gyfer gweld gwerth am arian ar ôl buddsoddi mewn micro-CHP yn fwy na phum mlynedd. Fodd bynnag, bydd lefelau effeithlonrwydd uchel systemau micro-CHP yn arwain at ostyngiad yng nghyfanswm y tanwyddau a ddefnyddir. Ac mae defnyddio llai o danwydd yn golygu gostyngiad sylweddol ar gostau ynni.
Mae’n werth cofio bod y dechnoleg hon yn dal i gael ei datblygu ac nid yw’n ateb pob pwrpas. Felly, mae angen bod yn ofalus wrth wneud yn siŵr ei bod yn addas.
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod beth sydd ar gael: