Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymhellion ariannol i gynhyrchu’ch ynni eich hun ar gyfer eich cartref

Gallwch helpu i leihau’ch gollyngiadau carbon a gostwng eich biliau tanwydd drwy gynhyrchu ynni glân a gwyrdd yn eich cartref. Erbyn hyn gall deiliaid cartrefi wneud cais am grantiau o hyd at £2,500 ar gyfer pob adeilad er mwyn cyfrannu at y gost o osod technolegau microgynhyrchu ardystiedig megis paneli solar a boeleri biomas. Gallwch hefyd hawlio gwobrau ariannol eraill am gynhyrchu’ch trydan eich hun.

Y grant microgynhyrchu

Mae’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio – drwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni – yn darparu grantiau o hyd at £2,500 yr eiddo i ddeiliad cartrefi er mwyn cyfrannu at y gost o roi technolegau microgynhyrchu ar waith drwy Gam 1 y Rhaglen Adeiladau Isel mewn Carbon.

I fod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i chi gyflawni rhai mesurau effeithlonrwydd ynni, dewis gosodwr ardystiedig a chynnyrch ardystiedig a siarad â’ch awdurdod lleol am ofynion cynllunio cyn gwneud cais am grant.

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein cewch wybod ar unwaith a fu cais am grant yn llwyddiannus ai peidio.

Beth ydy gwerth y grantiau?

Dyma lefel presennol y grantiau ar gyfer gwahanol dechnolegau:

Technoleg

Uchafswm y grant

Ffotofoltaigau solar (paneli solar)

Uchafswm o £2,000 am bob cilowat (kW) y gellir ei gynhyrchu, yn amodol ar uchafswm cyffredinol o £2,500 neu 50 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Tyrbinau gwynt

Uchafswm o £1,000 am bob cilowat (kW) y gellir ei gynhyrchu, yn amodol ar uchafswm cyffredinol o £2,500 neu 30 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Hydro bach

Uchafswm o £1,000 am bob cilowat (kW) y gellir ei gynhyrchu, yn amodol ar uchafswm cyffredinol o £2,500 neu 30 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

System solar i wresogi dŵr

Cyfanswm cyffredinol o £400 neu 30 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear

Cyfanswm cyffredinol o £1,200 neu 30 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Gwresogydd/stôf pelenni pren awtomataidd

Cyfanswm cyffredinol o £600 neu 20 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Systemau boeleri sy’n defnyddio pren fel tanwydd

Cyfanswm cyffredinol o £1,500 neu 30 y cant o’r costau cymwys perthnasol, pa un bynnag yw’r isaf

Gallwch wneud cais am arian ar gyfer hyd at dair technoleg wahanol ar un adeilad, gydag uchafswm o dri gwahanol adeilad yn cael arian (rhaid i’r rhain gael eu cyflwyno mewn ceisiadau ar wahân). Mae uchafswm o £2,500 o arian ar gael ar gyfer rhoi’r dechnoleg ar waith ym mhob cyfeiriad.

Beth y mae'n rhaid i mi ei wneud cyn gwneud cais?

Cyn gwneud cais efallai y bydd angen i chi addasu’ch cartref i wneud yn siŵr:

  • bod y groglofft i gyd wedi’i hinsiwleiddio’n briodol fel ei bod yn diwallu rheoliadau cynllunio presennol (ee 270mm o ddefnydd inswleiddio gwlân mwynol neu ddefnydd addas arall)
  • eich bod wedi inswleiddio waliau ceudod (os oes gennych waliau ceudod)
  • bod gennych fylbiau golau ynni isel yn yr holl ffitiadau golau priodol
  • bod gennych reolyddion sylfaenol ar gyfer eich system wresogi, a'r rheini'n cynnwys rhaglen neu amserydd a thermostat ystafell.

Argymhellir hefyd eich bod yn cynnal archwiliad ynni yn eich cartref er mwyn asesu pa fesuriadau yw'r mwyaf addas ar gyfer eich cartref chi. Gallwch hefyd ffonio canolfan wybodaeth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 i gael cyfarwyddyd am fesurau effeithlonrwydd ynni a grantiau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael yn eich ardal.

Sut mae'r broses yn gweithio?

Dyma ganllaw cam wrth gam i’r broses

1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflawni’r mesurau effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer y rhaglen a’ch bod wedi cael caniatâd cynllunio os oes angen. O dymor y gwanwyn 2008 ymlaen ni fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosodiadau microgynhyrchu sydd ddim yn cael llawer o effaith, os o gwbl, y tu allan i'r eiddo. Bydd gofyn eich bod hefyd fod wedi cael amcan bris gan osodwr achrededig. Bydd y cynllun Ardystio Microgynhyrchu yn darparu ardystiad annibynnol o gynhyrchion a gwasanaethau microgynhyrchu i gwsmeriaid, yn ogystal â llwybr ar gyfer cwynion.

2. Gwnewch gais ar-lein

3. Ar ôl cael llythyr dros yr e-bost yn cynnig grant, archebwch yr offer a mynd ati i ddechrau rhoi’r dechnoleg ar waith. Bydd cyfnod dilysrwydd y grant yn amrywio yn ôl y dechnoleg

4. Ar ôl gosod y dechnoleg a thalu’r gosodwr, gallwch gyflwyno’r dogfennau hawlio i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

5. Bydd y cais am grant yn cael ei wirio ac os yw mewn trefn caiff y grant ei roi o fewn 25 diwrnod gwaith o dderbyn yr holl ddogfennau

Cymhellion ariannol eraill ar gyfer microgynhyrchu

Gallwch hefyd gael eich gwobrwyo'n ariannol am gynhyrchu trydan, megis gyda Thystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy neu dystysgrifau eraill sy’n gysylltiedig ag ynni gwyrdd.

Efallai y bydd modd i chi hawlio grantiau eraill – holwch eich cyngor neu'ch Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol.

Gallwch hefyd werthu unrhyw drydan sydd dros ben yn ôl i’r grid cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyflenwr trydan.

Hefyd, mae rhai banciau a sefydliadau eraill yn cynnig ‘grantiau gwyrdd’ i helpu i roi’r technolegau ar waith.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU