Gall cynhyrchu ynni glân a gwyrdd ar gyfer yr adeiladau yn ein cymuned helpu i leihau ein gollyngiadau carbon a gostwng biliau tanwydd. Erbyn hyn, gall grwpiau di-elw wneud cais am grantiau o hyd at £1miliwn ar gyfer pob safle er mwyn cyfrannu at y gost o roi technolegau microgynhyrchu ardystiedig megis ffotofoltaegau solar a boeleri biomas ar waith. Mae gwobrau ariannol eraill ar gael hefyd am gynhyrchu trydan.
Mae’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn darparu grantiau o hyd at £1 miliwn y safle i fudiadau di-elw er mwyn cyfrannu at y gost o roi technolegau microgynhyrchu ar waith. Cyflwynir y grant drwy’r Sefydliad Ymchwil Adeiladau fel rhan o Gam 2 y Rhaglen Adeiladau Isel mewn Carbon.
Mae grantiau ar gyfer rhoi’r technolegau migrogynhyrchu hyn ar waith ar gael i adeiladau yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys ysgolion, ysbytai, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol) a chyrff elusennol.
Mae lefelau’r grant ar gyfer y sector di-elw yn amrywio yn ôl technoleg ac yn cyfrannu at gyfanswm y gost o’u gosod (heb gynnwys TAW) fel a ganlyn:
|
Technoleg |
Canran |
|---|---|
|
Biomas |
35 y cant |
|
Pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear |
35 y cant |
|
Ffotofoltaigau solar |
50 y cant |
|
Systemau Gwresogi Solar |
30 y cant |
|
Tyrbinau gwynt |
30 y cant |
Gall mudiadau wneud cais am uchafswm o £1 miliwn mewn grantiau ar gyfer pob safle. Gall safle gynnwys mwy nag un eiddo a gellir cael cymorth grant ar gyfer uchafswm o dri math o dechnoleg cymwys ym mhob eiddo. Gall un mudiad gyflwyno mwy nag un cais ar gyfer gwahanol safleoedd.
Rhaid i’r dechnoleg gael ei chyflenwi a’i rhoi ar waith gan Gyflenwyr Fframweithiau Cam 2 y Rhaglen Adeiladau Isel mewn Carbon.
Gall grwpiau sy’n cynhyrchu ynni fanteisio ar wobrau eraill am wneud hynny: