Cegin fwy gwyrdd
Mae storio a choginio bwyd yn cymryd traean o'r trydan a ddefnyddiwn yn ein cartrefi, a pho fwyaf o ynni a ddefnyddiwch, y mwyaf y cyfrannwch i newid yn yr hinsawdd. Mae dewisiadau mwy gwyrdd ar gael i chi wrth brynu a defnyddio oergelloedd, rhewgelloedd a phoptai, neu hyd yn oed wrth wneud paned o de.
Prynu popty, tegell, oergell neu rewgell newydd sy'n arbed ynni
Wrth ddewis offer cegin, dyma rai pethau i'w hystyried:
- fel rheol, mae nwy yn ddewis mwy gwyrdd na thrydan ar gyfer coginio, gan ei fod yn cael llai o effaith o ran newid yn yr hinsawdd - yr eithriadau i'r rheol hon yw poptai microdon, gan eu bod yn fwy ynni-effeithlon na phoptai nwy neu drydan, a hobiau anwytho trydanol, sydd yr un mor ynni-effeithlon â hobiau nwy
- os oes angen popty trydan arnoch, mae'r label Ynni Ewropeaidd arnynt, felly chwiliwch am un gyda'r sgôr effeithlonrwydd ynni uchaf (nid yw'r cynllun yn berthnasol ar gyfer poptai nwy, ond y rhain yw'r dewis mwyaf gwyrdd beth bynnag)
- os ydych chi'n prynu oergell neu rewgell newydd, chwiliwch am un sydd â'r label Energy Saving Recommended - dim ond y cynhyrchion mwyaf ynni-effeithlon sy'n cael defnyddio hwn, sef fel arfer y 20 y cant gorau o'r rhai sydd ar gael
- mae label ynni'r Undeb Ewropeaidd (UE) hefyd yn berthnasol ar gyfer oergelloedd a rhewgelloedd - mae llawer o oergelloedd a rhewgelloedd yn y DU bellach wedi cael y 'radd A' am effeithlonrwydd ynni, felly gallwch yn awr ddewis A+ neu A++ i gael y modelau mwyaf effeithlon
- gall prynu'r oergell neu'r rhewgell leiaf sy'n bodloni eich anghenion wneud gwahaniaeth mawr - hyd yn oed pan mae'r ddau wedi cael gradd 'A', mae oergell-rhewgell maint mawr 'Americanaidd' yn defnyddio llawer mwy o ynni nag oergell-rhewgell maint arferol
- mae tegelli trydan yn defnyddio bron i draean o'r holl ynni a ddefnyddir gan gartref cyffredin ar gyfer coginio
- mae gan rai tegelli nodweddion diangen sy'n defnyddio mwy o drydan, fel goleuadau neu swyddogaethau 'cadw'n gynnes' - bydd osgoi'r defnyddwyr ynni ychwanegol hyn yn rhoi paned o de sy'n fwy gwyrdd
Gofalu am eich oergell a'ch rhewgell
Gall dadrewi eich oergell a'ch rhewgell eu helpu i redeg yn fwy effeithlon, gan arbed ynni ac arian.
Arbed dŵr
Dyma rai pethau i'w hystyried:
- mae label ynni'r Undeb Ewropeaidd (UE) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnydd dŵr, sy'n caniatáu i chi ddewis peiriant golchi llestri dŵr-effeithlon - mae'r ddolen isod yn rhestru peiriannau golchi llestri'r DU yn nhrefn effeithlonrwydd dŵr
- peidiwch ag anghofio awgrymiadau arbed dŵr yn y gegin, fel golchi ffrwythau a llysiau mewn powlen yn hytrach na dan dap sy'n rhedeg
Y mater ehangach
Mae coginio ac oeri bwyd yn defnyddio ynni, a chyda'i gilydd mae'r ynni hwn yn draean o'r trydan a ddefnyddiwn yn ein cartref. Mae dewisiadau mwy effeithlon yn golygu llai o ddefnydd ynni a llai o effeithiau newid yn yr hinsawdd.