Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rheoli plâu a chwyn: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae rhai plaleiddiaid yn cynnwys cemegion a all niweidio pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, a gallant fod yn beryglus os na chânt eu defnyddio'n gyfrifol. Ond mae'n bosibl cael gardd iach ffyniannus heb ddefnyddio plaleiddiaid oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.

Gofynnwch i'ch hun a oes gwir angen chwynladdwr arnoch

Cyn i chi brynu plaleiddiaid, gofynnwch i'ch hun a ydynt yn wirioneddol angenrheidiol. Oes rhaid i'ch lawnt fod yn hollol rhydd o lygad y dydd a dant y llew? A all eich ymylon ddioddef peth chwyn? Does dim rhaid i erddi fod yn berffaith i fod yn iach.

Ystyriwch ddewisiadau gwahanol i blaleiddiaid

Dyma rai syniadau ar gyfer rheoli plâu yn eich gardd heb orfod defnyddio plaleiddiaid:

  • gallwch dynnu malwod a phlâu eraill oddi ar blanhigion gyda'ch dwylo
  • ceisiwch dynnu chwyn allan, yn hytrach nag estyn am y plaleiddiaid
  • gallwch ddefnyddio trapiau cwrw i ddal gwlithod
  • ceisiwch orchuddio chwyn gyda chardfwrdd
  • gall gorchuddio planhigion ifanc yn ystod y nos eu hamddiffyn rhag plâu

Cynlluniwch eich planhigion i atal plâu

Gall cynllunio eich gardd helpu i leihau plâu:

  • ceisiwch blannu melyn y gors yn agos at lysiau, lle byddant yn atal llau'r coed a phryfed duon
  • gall plannu lafant yn agos at rosod atal pryfed gleision

Anogwch fwytawyr plâu naturiol

Mae ysglyfaethwyr megis buchod coch cwta'n bwyta plâu, felly maent yn wych i'w cael yn yr ardd. Gall defnyddio plaleiddiaid yn gyfrifol leihau'r niwed y mae rhai plaleiddiaid yn ei achosi i rai pryfaid sy'n dda i'w cael yn yr ardd.

Gallwch annog buchod coch cwta drwy blannu ychydig o ddanadl poethion neu adael darnau o blanhigion o gwmpas iddynt gysgu ynddynt dros y gaeaf.

Lawrlwythwch y daflen isod ar arddio mewn modd sy'n gyfeillgar wrth fywyd gwyllt, neu os na allwch lawrlwytho'r ffeil PDF, gallwch ofyn am gopi am ddim gan: Natural England, PO Box 1995, Wetherby, Gorllewin Swydd Efrog LS23 7XX

Ffôn: 0870 121 4177

Defnyddiwch blaleiddiaid yn ofalus

Dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio plaleiddiaid. Fodd bynnag, os gwelwch fod angen un arnoch, mae'n bwysig eich bod yn ei ddefnyddio, ei storio a'i waredu yn y ffordd iawn. Ceisiwch gyngor gan eich canolfan arddio neu adwerthwr arall ynglŷn â'r cynnyrch mwyaf addas. Wrth eu defnyddio:

  • cofiwch ddarllen y label ar y plaleiddiad a dilyn y cyfarwyddiadau'n union
  • peidiwch â cheisio gwneud y plaleiddiad yn gryfach drwy ddefnyddio mwy nag y mae'r cyfarwyddiadau'n ei ddweud – gallai hyn niweidio eich gardd
  • golchwch eich dwylo ar ôl gorffen defnyddio'r plaleiddiad bob amser
  • storiwch unrhyw blaleiddiaid nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ddiogel oddi wrth anifeiliaid anwes a phlant, gan sicrhau bod y cynhwysydd wedi'i selio'n iawn
  • peidiwch byth â thywallt plaleiddiaid heb eu defnyddio i lawr y draen – mae'n anghyfreithlon a bydd yn gwenwyno ffynonellau dŵr
  • gall eich cyngor lleol ddweud wrthych sut y gallwch waredu plaleiddiaid yn ddiogel yn eich ardal chi
  • caiff rhai plaleiddiaid eu gwahardd rhag cael eu defnyddio, felly os ydych chi'n ystyried defnyddio plaleiddiad a brynwyd beth amser yn ôl, gallwch ddefnyddio'r ddolen isod i wirio ei fod yn dal yn gymeradwy i'w ddefnyddio

Y mater ehangach

Er eu bod wedi'u creu i ladd plâu a chwyn, gall rhai plaleiddiaid niweidio pobl, bywyd gwyllt a phlanhigion. Gallant hefyd lygru dŵr a gwenwyno bywyd dyfrol. Mae'n costio miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i dynnu gwaddod plaleiddiaid o ddŵr yfed.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU