Mae bwyta ac yfed yn yr awyr agored yn boblogaidd dros ben yn y DU – mwynhaodd Prydeinwyr tua 100 miliwn barbeciw yn 2005 yn unig. Gallwch ddiogelu'r amgylchedd wrth groesawu gwesteion y tu allan, er enghraifft, drwy ddewis golosg wedi'i wneud o bren sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy, ac osgoi gwresogyddion awyr agored.
Mae gwisgo mwy o ddillad neu mynd i mewn pan fyddwch yn oer yn fwy gwyrdd na defnyddio gwresogydd awyr agored. Mae hyn oherwydd bod y gwresogyddion, sy'n cael eu pweru gan nwy neu drydan, yn defnyddio llawer o ynni ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Amcangyfrifir bod gwresogydd patio cyffredin yn gollwng yr un faint o garbon deuocsid â char cyffredin mewn diwrnod.
Wrth ddewis tanwydd i'ch barbiciw, ceisiwch brynu golosg a ddaw o goedwigoedd sydd wedi'u rheoli mewn modd cynaliadwy.
Chwiliwch am olosg gyda label sy'n profi ei fod wedi'i wneud o goed cynaliadwy. Er enghraifft, gellir canfod labeli'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) a chynlluniau'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) ar olosg cynaliadwy yn siopau'r stryd fawr.
Dyma beth allwch chi ei wneud:
Dim ond cyfran fychan o'r golosg a ddefnyddir ar ein barbiciws a wneir yn y DU. Gellir mewnforio golosg o gymaint â 12,000 milltir i ffwrdd, ac mae ei gludo'n arwain at ollyngiadau carbon sylweddol. Mae prynu golosg a gynhyrchwyd yn gynaliadwy'n helpu atal datgoedwigo a thorri coed anghyfreithlon.