Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Siediau, tai gwydr a dodrefn gardd: dewisiadau mwy gwyrdd

Gall dewis siediau a dodrefn gardd sydd wedi'u gwneud o bren a gynhyrchwyd yn gynaliadwy helpu i atal torri coed anghyfreithlon a datgoedwigo. Mae nifer o bethau eraill y gallwch eu gwneud i helpu'r amgylchedd a chael y mwyaf o'ch gardd.

Dewis deunydd cynaliadwy ar gyfer siediau a dodrefn

Caiff rhai coed poblogaidd ar gyfer siediau a dodrefn gardd eu cynaeafu mewn modd anghynaliadwy - ac weithiau'n angyfreithlon - o goedwigoedd hynafol.

Gellir canfod cynhyrchion pren cynaliadwy'n hawdd mewn adwerthwyr ar y stryd fawr drwy edrych am label o gynllun ardystio coedwig, megis y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), cynlluniau'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), mae'r ddau ohonynt yn sicrhau bod y pren yn cael ei brynu'n gyfreithlon.

Gallech hefyd ofyn i'ch manwerthwr a ydynt yn stocio cynhyrchion pren ardystiedig. Mae'r Pwynt Arbenigedd Canolog ar Gaffael Coed yn rhestru'r cynlluniau ardystio dibynadwy a cheir enghreifftiau o'i labeli ar y wefan.

Peidio gwresogi tai gwydr

Os ydych chi'n defnyddio tŷ gwydr i dyfu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun, rydych chi eisoes yn gwneud rhywbeth i'r amgylchedd drwy leihau'r ynni sydd ei angen i gludo a storio bwyd i'r siopau.

Fodd bynnag, gall gwresogi tŷ gwydr dros fisoedd y gaeaf fod yn wastraffus. Nid yw tai gwydr wedi'u hinswleiddio'n dda, ac mae cynhyrchu'r ynni a ddefnyddir i'w gwresogi'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Gallai bod yn ofalus wrth adeiladu a defnyddio eich tŷ gwydr gael gwared â'r angen am wresogi yn y gaeaf yn gyfangwbl:

  • cadwch wydr eich tŷ gwydr yn lân, yn enwedig lle mae cwareli'n gorgyffwrdd; oherwydd bydd hyd yn oed baw normal yn lleihau lefelau golau'n ddramatig ac yn lleihau'r gwresogi naturiol o'r haul
  • rhowch eich tŷ gwydr mewn man golau sy'n cael haul drwy'r dydd ac nid yng nghysgod coed na waliau
  • bydd angen llai o wresogi mewn tŷ gwydr ar-bwys sy'n rhannu wal gyda'ch tŷ
  • mae tai gwydr sy'n sefyll ar eu pen eu hunain gyda'r rhan isaf wedi'i gwneud o frics neu bren yn cadw gwres yn well na rhai sy'n wydr i gyd
  • seliwch fylchau o gwmpas cwareli neu ddrysau sydd ddim yn ffitio'n dda er mwyn atal gwres rhag dianc
  • ystyriwch symud planhigion llai gwydn i'r tŷ dros y gaeaf yn hytrach na gwresogi'r tŷ gwydr cyfan er eu mwyn

Dewis gorchuddion yn ofalus

Yn aml, mae farneisiau, paent a thriniaeth pren a ddefnyddir ar ffensys a dodrefn awyr agored yn cynnwys cyfansoddion organig anweddol (VOCs), sy'n achosi llygredd aer sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd.

Wrth ddewis paent, farnais neu driniaeth pren, ceisiwch ddod o hyd i'r un â'r effaith lleiaf posibl ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud:

  • dylai labeli cynnyrch ddangos y cynnwys VOC: dewiswch yr un â'r lleiaf o VOC ynddo
  • mae llai o effaith gan baent 'naturiol' neu 'naturiol i gyd', paent llaeth a gwyngalch na phaent arferol
  • edrychwch i weld a oes rhybudd perygl ar label y cynnyrch - os yw'r dewis gennych, dewiswch gynnyrch heb rybudd perygl
  • gwaredwch baent, farneisiau a thriniaeth pren yn briodol, oherwydd gallant fod yn beryglus - cysylltwch â'ch cyngor am gyfarwyddyd ar waredu

Defnyddio deunydd wedi'i adfer a'i ailgylchu

Bydd defnyddio deunydd wedi'i adfer neu ei ailgylchu'n helpu i arbed y deunydd crai a'r ynni a ddefnyddir i wneud eitemau newydd, a lleihau gwastraff:

  • os ydych chi'n cynllunio decin neu flychau plannu pren, ystyriwch ddefnyddio pren wedi'i adfer o iard goed
  • gwnewch eich cynwysyddion planhigion eich hunain o wrthrychau diddorol neu anarferol sy'n cael eu taflu allan, megis baddonau, sinciau, neu hen sosbenni copr
  • dewiswch addurniadau haearn bwrw a adferwyd, os yw'n bosib
  • chwiliwch am gynhyrchion sydd â labeli'n dweud eu bod yn defnyddio pren, metel neu blastig wedi'i ailgylchu

Annog bywyd gwyllt gyda'ch sied neu'ch garej

Anogwch fwsogl a phlanhigion eraill i dyfu ar do eich sied neu'ch garej – mae toeau fflat yn arbennig o addas. Gall to byw:

  • inswleiddio'r ystafell oddi tano, gan arbed ynni ar wresogi ac oeri
  • darparu cynefin i bryfed a bywyd gwyllt arall
  • gwella ymddangosiad yr adeilad

Gellir defnyddio siediau ac adeiladau eraill yn yr ardd i greu lle i fywyd gwyllt mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, drwy osod blychau nythu neu annog planhigion sy'n dringo.

Os na allwch lwytho'r ffeil PDF oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod, gallwch ofyn am gopi am ddim gan: Natural England, Blwch Post 1995, Wetherby, Gorllewin Swydd Efrog LS23 7XX

Rhif Ffôn: 0870 1214 177

Y mater ehangach

Mae tanwydd a losgir i wresogi tai gwydr yn ychwanegu at ein gollyngiadau carbon deuocsid – y prif nwy tŷ gwydr.

Mae torri pren caled yn anghyfreithlon mewn coedwigoedd glaw yn cyfrannu at ddatgoedwigo, sydd ar hyn o bryd yn achosi 20 y cant o ollyngiadau carbon y byd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU