Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pridd a gwrtaith: dewisiadau mwy gwyrdd

Dim ond yn y 1950au y dechreuwyd defnyddio mawn yn gyffredinol mewn gerddi, ond mae ei ddefnydd wedi cynyddu, gan arwain at ddinistrio llawer o gynefinau naturiol. Yn ffodus, mae dewisiadau gwahanol i fawn, sy'n gweithio lawn cystal neu hyd yn oed yn well.

Mynd heb fawn yn yr ardd

Prynu cynhyrchion heb fawn

Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn ar gael yn siopau'r stryd fawr a chanolfannau garddio. Sicrhewch fod y bag yn dweud "heb fawn" neu gofynnwch i gynorthwy-ydd os nad yw'n amlwg.

Mae dewis pethau heblaw am fawn wrth brynu pridd a gwrtaith yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i wneud eich gardd yn fwy gwyrdd. Dyma ddefnyddiau cyffredin mawn yn yr ardd, a'r dewisiadau gwahanol sydd ar gael ichi:

Mwlts
Os ydych chi'n chwilio am fwlts (deunydd i'w osod ar ben pridd i gadw chwyn i lawr a chadw gwlybaniaeth), mae rhisgl neu ddail wedi marw'n gweithio'n llawer gwell na mawn, sy'n torri i lawr yn rhy hawdd.

Cyfryngau tyfu
Edrychwch am risgl a gwastraff pren neu gompost o fadarch pan ydych chi eisiau tyfu planhigion ac eginblanhigion - gall y rhain weithio cystal â mawn, cyn belled â'ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau bwydo a dyfrhau.

Cyflyrwyr pridd

Ceisiwch wella eich pridd gyda chyflyrwyr sydd wedi'u gwneud o wastraff pren, dail wedi marw, tail o fferm neu gompost cartref.

Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn ar gael yn siopau'r stryd fawr a chanolfannau garddio. Sicrhewch fod y bag yn dweud "heb fawn" neu gofynnwch i gynorthwy-ydd os nad yw'n amlwg.

Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn cynhyrchu taflen gyda gwybodaeth am lle i brynu cynhyrchion heb fawn, a gallant ddweud wrthych ynghylch ymweld â gwarchodfa tir mawn yn agos atoch er mwyn i chi weld beth ydych chi wedi helpu i ofalu amdano. Os na allwch lwytho’r ddogfen PDF, gallwch ofyn am gopi o:

Ffôn: 0870 036 7711

Os na allwch lwytho’r ddogfen PDF ar gompostio a garddio heb fawn, gallwch ofyn am gopi o: Natural England, Blwch Post 1995, Wetherby, Gorllewin Swydd Efrog, LS23 7XX

Ffôn: 0870 121 4177

Dechrau gwneud eich gwrtaith eich hun

Os oes gennych fin compost, neu os ydych yn sefydlu tomen gompost, gallwch ddefnyddio gwastraff eich cegin a'ch gardd i wella eich pridd. Mae'n ffordd fwy gwyrdd o arddio oherwydd:

  • gallwch osgoi defnyddio mawn
  • nid oes rhaid i chi ddibynnu ar wrtaith artiffisial, sy'n cymryd llawer o ynni i'w wneud ac yn gallu achosi llygredd dŵr
  • byddwch yn taflu llai i ffwrdd
  • gallwch hefyd arbed arian

Mae rhai cynghorau'n darparu biniau compostio neu'n eu gwerthu am brisiau isel.

Y mater ehangach

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol polisi o arddio heb fawn, ac mae pob planhigyn y mae’r ymddiriedolaeth yn gwerthu yn cael ei dyfu heb ei ddefnyddio

Mae corsydd mawn yn darparu cynefinau bywyd gwyllt unigryw ac maent yn werthfawr gan eu bod yn storio carbon. Yn fyd-eang, mae corsydd mawn yn dal mwy o garbon na choedwigoedd y byd. Pan gaiff mawn ei echdynnu, rhyddheir carbon i'r atmosffer, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Mae rhannau mawr o'r cynefinau pwysig hyn wedi'u niweidio yn y DU a thramor gan ddefnydd masnachol o fawn. Er bod rhai mawndiroedd yn y DU bellach wedi'u gwarchod, mae llawer yn Ewrop sydd heb eu gwarchod, ac o'r fan hyn y daw'r rhan fwyaf o'r mawn yn ein gerddi.

Additional links

Arbed Arian Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach

Gwybodaeth a chyngor ynghylch sut i gadw'n gynnes y gaeaf hwn a pha gymorth ariannol sydd ar gael

Allweddumynediad llywodraeth y DU