Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Annog bywyd gwyllt yn eich gardd

Mae annog adar, mamaliaid a phryfed i ymweld â'ch gardd ac i fyw ynddi yn helpu i ofalu am fywyd gwyllt yn y Deyrnas Unedig, yn gwneud yn siŵr bod meysydd glas gwerthfawr yn ffynnu, ac yn gallu helpu i gadw rheolaeth ar blâu drwy annog ysglyfaethwyr naturiol. O erddi mawr i ychydig blanhigion mewn potiau ar sil ffenestr, gellir gwneud pob cartref yn fwy caredig tuag at yr amgylchedd.

Rhoi lloches i fywyd gwyllt yn eich gardd

Un ffordd o wneud i anifeiliaid deimlo'n gartrefol yn eich gardd yw creu llefydd i fywyd gwyllt fyw a nythu ynddynt. Mae creu amrywiaeth yn helpu i ddarparu cynefinoedd i wahanol anifeiliaid. Mae pryfed yn arbennig yn helpu i gadw'ch gardd yn iach – byddant yn peillio planhigion, yn bwyta pryfed eraill ac maen nhw eu hunain yn fwyd i'r adar. Dyma rai syniadau syml a all helpu:

  • gall gadael boncyffion wedi pydru mewn cornel yn eich gardd wneud cartref i ddraenogod a phryfed
  • wrth dyllu boncyffion a changhennau wedi'u tocio, gellir rhoi lloches a lle i nythu i bryfed
  • mae bywyd gwyllt yn ffynnu pan nad oes neb na dim yn tarfu arno, felly, os oes modd, ceisiwch adael llonydd i un rhan o'ch gardd - gall mannau sydd wedi gordyfu roi lle i anifeiliaid fel draenogod neu lwynogod hyd yn oed gael seibiant, neu fynd i gysgu dros y gaeaf
  • mae blychau ar gyfer adar ac ystlumod yn annog creaduriaid i nythu a gorffwys yn eich gardd

Os na allwch lwytho'r ffeiliau PDF hyn oddi ar y we, gallwch ofyn am gopi am ddim gan: Natural England, PO Box 1995, Wetherby, Gorllewin Swydd Efrog LS23 7XX neu ffonio 0870 1214177.

Creu pwll

Mae pyllau fel magned i fywyd gwyllt. Maent yn denu llyffantod, brogaod, madfallod y dŵr, gweision y neidr a phryfed eraill, a hefyd yn darparu dŵr ar gyfer yr adar. Mae'n syndod pa mor hawdd yw creu un hefyd. Os nad oes gennych lawer o le, gallech hyd yn oed ddefnyddio hen sinc neu fath.

Os na allwch lwytho'r ffeil PDF hon oddi ar y we, gallwch ofyn am gopi am ddim gan:

Natural England, Blwch Post 1995, Wetherby, Gorllewin Swydd Efrog LS23 7XX

Rhif ffôn: 0870 1214 177

Rhowch fwyd i'r anifeiliaid

  • denwch adar i'ch gardd drwy gynnig bwyd iddynt – gallech ddefnyddio byrddau a theclynnau bwydo adar, ond gwnewch yn siŵr nad ydych yn eu gosod mewn llefydd ble gall cathod eu cyrraedd, nac yn eu rhoi ger llwyni pigog, er mwyn rhwystro ysglyfaethwyr blewog rhag eu dal
  • glanhewch fyrddau adar yn rheolaidd a pheidiwch â gadael bwyd yno i bydru
  • daliwch ati i fwydo'r adar yn rheolaidd – bydd adar yn dod i ddibynnu ar y bwyd a ddarperir iddynt a gallant ddioddef os byddant yn gwastraffu eu hegni'n hedfan i chwilio am fwyd sydd ddim yna
  • dewiswch blanhigion sy'n blodeuo ac yn cynhyrchu hadau neu ffrwythau ar wahanol adegau o'r flwyddyn, fel y gall pryfed, adar ac anifeiliaid gael bwyd ym mhob tymor
  • mae angen i adar ymolchi'n aml i gadw'u plu yn daclus felly gall bath bach i'r adar fod yn werthfawr dros ben wrth ddenu adar 

Plannu planhigion gyda golwg ar fywyd gwyllt

Meddyliwch am fywyd gwyllt pan fyddwch yn prynu planhigion, neu'n penderfynu beth i'w dyfu yn eich gardd – dewiswch rai sy'n denu ac yn cadw amrywiaeth o bryfed ac anifeiliaid. Er enghraifft:

  • bydd hadau blodau'r haul yn darparu bwyd i adar ar ôl i'r blodau farw
  • mae lafant yn denu gwenyn
  • mae buddleia yn ardderchog ar gyfer gloÿnnod byw a gwenyn
  • daw gwyfynod at driaglog coch (red valerian), gwyddfid a phlanhigion sy'n blodeuo yn y nos
  • mae'r eiddew/iorwg brodorol yn un o'r planhigion gorau ar gyfer bywyd gwyllt, ac yn fanteisiol i adar, mamaliaid, gloÿnnod byw, gwenyn, pryfed hofran a phryfed defnyddiol eraill

Dim ond os yw'n mynd i'r pen y dylech ddefnyddio plaladdwyr

Gall plaladdwyr, sydd wedi'u cynllunio i ladd a rheoli plâu, chwyn a ffyngau, hefyd ladd bywyd gwyllt yr ydych am ei ddenu i'ch gardd, neu beri i fywyd gwyllt gadw draw oddi yno. Mae hynny'n cynnwys y bywyd gwyllt naturiol sy'n bwyta plâu, felly:

  • ceisiwch osgoi defnyddio cemegau pan fydd modd
  • gwnewch yn siŵr nad yw plaladdwyr neu gemegau peryglus o baent neu orffeniadau yn mynd i byllau - gallant wenwyno'r hyn sy'n byw yn y dŵr

Rheoli'ch cath

Rhowch gyfle i'r adar ddianc o afael eich cath drwy roi clychau ar ei choler. Dylai hyn rybuddio adar bod eich anifail anwes o gwmpas. Mae'n well cael mwy nag un gloch oherwydd gall rhai cathod ddysgu i symud yn dawel pan mai dim ond un gloch sydd ar eu coler.

Y mater ehangach

Ceir oddeutu 15m o erddi ym Mhrydain, a'r rheini, yn Lloegr, yn gorchuddio ardal fwy nag ardaloedd ein gwarchodfeydd natur i gyd gyda'i gilydd.

Mae annog bywyd gwyllt i ddod i'n gerddi yn cyfrannu at y gwaith o wneud iawn am golli cynefinoedd mewn lleoedd eraill. Mae pyllau mewn gerddi, er enghraifft, wedi helpu i ddiogelu bywyd dyfrol a bywyd amffibiaidd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU