O erddi mawr i blanhigion mewn potiau ar sil ffenestr, gellir gwneud pob cartref yn fwy caredig tuag at yr fywyd gwyllt. Mae annog adar, mamaliaid a phryfed i ymweld â'ch gardd ac i fyw ynddi yn helpu i ofalu am fywyd gwyllt yn y DU. Mae hefyd yn cadw meysydd glas gwerthfawr yn fyw a gall helpu i gadw rheolaeth ar blâu yn eich gardd drwy annog ysglyfaethwyr naturiol.
Ceir tua 15 miliwn o erddi ym Mhrydain. Yn Lloegr, maent yn gorchuddio ardal fwy na'r holl warchodfeydd natur i gyd gyda'i gilydd.
Mae annog bywyd gwyllt i ddod i'ch gardd yn cyfrannu at y gwaith o wneud iawn am golli cynefinoedd mewn lleoedd eraill. Mae pyllau mewn gerddi, er enghraifft, wedi helpu i ddiogelu bywyd dyfrol a bywyd amffibiaidd
Un ffordd o wneud i anifeiliaid deimlo'n gartrefol yn eich gardd yw creu llefydd i fywyd gwyllt fyw a nythu ynddynt. Mae creu amrywiaeth yn helpu i ddarparu cynefinoedd i wahanol anifeiliaid. Mae pryfed yn arbennig yn helpu i gadw'ch gardd yn iach – byddant yn peillio planhigion, yn bwyta pryfed eraill ac maen nhw eu hunain yn fwyd i'r adar. Dyma rai syniadau syml a all helpu:
Os nad ydych yn gallu llwytho'r ffeil PDF, mae'n bosib y gallwch gael taflen gan: Natural England, Enquiry Service, Northminster House, Peterborough, PE1 1UA. Ffoniwch 0845 600 3078 neu anfonwch e-bost at:enquiries@naturalengland.org.uk
Mae pyllau fel magnet i fywyd gwyllt. Maent yn denu llyffantod, brogaod, madfallod y dŵr, gweision y neidr a phryfed eraill. Mae pyllau hefyd yn darparu dŵr ar gyfer adar, ac mae'n syndod pa mor hawdd yw eu creu. Os nad oes gennych lawer o le, gallech hyd yn oed ddefnyddio hen sinc neu faddon.
Os nad ydych yn gallu llwytho'r ffeil PDF, mae'n bosib y gallwch ei gael ar ffurf taflen gan: Natural England, Enquiry Service, Northminster House, Peterborough, PE1 1UA. Ffoniwch 0845 600 3078 neu anfonwch e-bost at:enquiries@naturalengland.org.uk
Gallwch helpu bywyd gwyllt yn eich gardd drwy roi bwyd a rhywle i ymolchi iddynt:
Meddyliwch am fywyd gwyllt pan fyddwch yn prynu planhigion neu'n penderfynu beth i'w dyfu yn eich gardd. Dewiswch rai sy'n denu ac yn cadw amrywiaeth o bryfed ac anifeiliaid. Er enghraifft:
Mae plaladdwyr wedi'u creu i ladd a rheoli plâu, chwyn a ffyngau. Fodd bynnag, gallant hefyd ladd neu atal y bywyd gwyllt y carech ddenu i'ch gardd, gan gynnwys y bywyd gwyllt naturiol sy'n bwyta plâu, felly:
Rhowch gyfle i'r adar ddianc o afael eich cath drwy roi clychau ar goler y gath. Dylai hyn rybuddio adar bod eich anifail anwes o gwmpas. Mae'n well cael mwy nag un gloch oherwydd gall rhai cathod ddysgu i symud yn dawel pan mai dim ond un gloch sydd ar eu coler.