Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dodrefn, ffitiadau a lloriau mwy gwyrdd

Defnyddir swm syfrdanol o ynni a dŵr i gynhyrchu dodrefn a lloriau. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ddewis pren a dodrefn a gynhyrchwyd yn gynaliadwy, a gosod ffitiadau ynni a dŵr effeithlon yn eich cartref.

Y mater ehangach

Gall pren neu ddodrefn sydd wedi cael ei wneud o goed sydd wedi'u torri'n anghyfreithlon gyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd

Gall eich dewis chi o ddodrefn ar gyfer eich cartref gael effaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft, gall pren neu ddodrefn sydd wedi cael ei wneud o goed sydd wedi'u torri'n anghyfreithlon arwain at golli cynefinoedd a chyfrannu tuag at newid yn yr hinsawdd. Gall dewis ffitiadau dŵr neu olau llai effeithlon yn y cartref gostio mwy o arian i chi eu cynnal a gallant hefyd wastraffu ynni.

Gallwch leihau eich effaith ar yr amgylchedd drwy ddewis yn ofalus pan fyddwch yn prynu dodrefn a ffitiadau ar gyfer eich cartref.

Prynwch ddodrefn a lloriau sy'n para

Mae angen ynni ac adnoddau i gynhyrchu lloriau a dodrefn a gall hyn beri niwed i'r amgylchedd mewn ffyrdd eraill. Gallwch helpu drwy:

  • brynu cynnyrch a fydd yn para yn hytrach na chynnyrch y bydd rhaid newid yn aml, os oes gennych chi'r dewis
  • ystyried deunyddiau ail-law, deunyddiau a adferwyd neu rai adnewyddadwy pan fyddwch yn penderfynu prynu gosodiadau a ffitiadau newydd

Ailddefnyddiwch ac adnewyddwch ddodrefn a lloriau

Ystyriwch opsiynau eraill yn hytrach na phrynu cynhyrchion newydd:

  • gall adnewyddu hen loriau pren edrych yn wych ac ychwanegu at werth eich cartref
  • mae defnyddio byrddau llawr a adferwyd yn hytrach na phrynu rhai newydd yn arbed adnoddau gwerthfawr
  • mae prynu dodrefn ail-law, cael hen ddodrefn neu gyfnewid eitemau yn dda i'r amgylchedd gan ei fod yn arbed defnyddio deunyddiau newydd

Dewiswch gynhyrchion pren o ffynonellau cynaliadwy

Gallwch ddod o hyd i ddodrefn neu loriau pren wedi'u gwneud o bren a gynhyrchwyd mewn modd cynaliadwy mewn siopau neu ar y rhyngrwyd.

Chwiliwch am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), neu gynlluniau ardystio coedwigoedd eraill. Gallwch ofyn i'ch adwerthwr am gynlluniau ardystio

Byddwch yn ymwybodol o driniaethau a gorffeniadau

Edrych am baent gyda’r cynnwys VOC lleiaf posibl

Mae sawl math o baent, gludyddion a farneisiau yn gollwng cyfansoddion organig anweddol (VOCs). Gallant niweidio'r amgylchedd drwy adweithio gyda chemegau eraill i gynhyrchu'r hyn a elwir yn oson ar lefel yr arwyneb.

Pan fyddwch yn dewis triniaeth, glud neu farnais, edrychwch ar y labeli cynnyrch i weld faint o VOC sydd yn y cynnyrch. Ceisiwch ddod o hyd i'r un gyda'r cynnwys VOC lleiaf posibl.

Gosodwch ffitiadau sy'n arbed dŵr

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i arbed dŵr wrth osod ffitiadau newydd:

  • gosod taenellwyr cawod sy'n defnyddio llai o ddŵr
  • dewis awyrydd neu ffitiadau chwistrell ar dapiau basn golchi dwylo
  • gosod fflysh isel neu fflysh deuol ar eich toiledau

Dewiswch opsiynau goleuo rhad-ar-ynni

Gall bylbiau golau rhad-ar-ynni ddefnyddio bum gwaith yn llai o drydan na bylbiau golau confensiynol, sy'n golygu llai o ollyngiadau carbon. Byddant yn gweithio mewn ffitiadau a lampau arferol.

  • erbyn hyn, mae bylbiau rhad-ar-ynni ar gael yn eang am brisiau isel (gan gynnwys mewn archfarchnadoedd)
  • bydd bwlb rhad-ar-ynni 20 wat, 12,000 awr yn arbed oddeutu £60 yn ystod ei oes o'i gymharu â bwlb confensiynol 100 wat cyfatebol
  • gallwch brynu bylbiau golau rhad-ar-ynni sy'n edrych yn debyg i hen fylbiau ac sy'n cynhyrchu golau o'r un lliw
  • ceir gwybodaeth ar becynnau'r rhan fwyaf o fylbiau rhad-ar-ynni ynglŷn â'u disgleirdeb o'u cymharu â bylbiau arferol
  • ni ellir defnyddio llawer o'r bylbiau rhad-ar-ynni sydd ar werth â switshis pylu golau, ond mae mwy a mwy o'r rhain ar gael y dyddiau hyn
  • peidiwch ag anghofio diffodd goleuadau ynni isel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio

Ailgylchwch pan fo'n bosib

Yma cewch wybod sut mae ailgylchu'ch hen bethau nad oes arnynt eu heisiau arnoch chi mwyach:

  • yn hytrach na thaflu hen ddodrefn, ceisiwch eu rhoi i siop elusen neu eu hailgylchu
  • defnyddiwch hen loriau pren i wneud bin compost neu i greu gwelyau wedi'u codi yn eich gardd neu'ch rhandir
  • ail-ddefnyddiwch hen garped yn yr ardd er mwyn rheoli chwyn neu i gadw eich bin compost yn gynnes

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU