Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Nwyddau trydanol: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae angen llawer o ynni a deunyddiau crai i gynhyrchu cyfrifiaduron, setiau teledu a theclynnau electronig, ac mae delio â gwastraff electronig yn mynd yn fwy a mwy o her. Drwy ddefnyddio llai o ynni, a chael gwared ar offer nad oes mo'u hangen arnoch yn ofalus, gallwch leihau effaith niweidiol nwyddau electronig ar yr amgylchedd.

Dal eich gafael am fwy o amser

Bydd mwy na 6 miliwn o eitemau trydanol yn cael eu taflu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Tra bydd cyfrifiadur yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio, bydd yn defnyddio cymaint ag oddeutu deg gwaith ei bwysau mewn tanwyddau ffosil a chemegau. Dyma beth allwch chi ei wneud:

  • ystyried cynyddu faint o gof (RAM) sydd yn eich cyfrifiadur neu newid y ddisg galed yn hytrach na phrynu cyfrifiadur newydd
  • does dim angen i chi gael ffôn symudol newydd bob blwyddyn mae digon o gadmiwm mewn ffôn symudol sy'n cael ei daflu i lygru 600,000 litr o ddŵr, a bydd y rhan fwyaf o ffonau yn para am bum mlynedd o leiaf
  • peidiwch â chymryd bod angen monitor newydd arnoch wrth brynu cyfrifiadur newydd mae monitorau'n cynnwys cemegau sy'n anodd eu gwaredu'n ddiogel

Prynu offer ynni-effeithlon

Pethau i’w cofio:

  • gorau po leiaf – bydd teledu fawr yn defnyddio mwy o ynni nag un fach
  • pan fyddwch yn prynu peiriannau newydd ar gyfer eich swyddfa, holwch yr adwerthwr a ydynt yn cydymffurfio â gofynion Energy Star ar gyfer cyfrifiaduron, monitorau, peiriannau ffacs a pheiriannau sganio
  • chwiliwch am y label TCO ar fonitorau
  • edrychwch am y label Energy Saving Recommended os ydych chi'n prynu teledu digidol integredig (IDTV), neu bydd rhai modelau'n dangos yr Ecolabel Ewropeaidd

Meddyliwch cyn argraffu

Peidiwch ag argraffu os nad oes gwir angen i chi wneud hynny oherwydd bydd hyn yn arbed ynni, papur ac inc. Dyma rai o'r pethau eraill y gallwch eu gwneud:

  • argraffu ar y ddwy ochr er mwyn arbed papur
  • ailgylchu papur gwastraff, a defnyddio papur wedi'i ailgylchu
  • clicio ar y dewisiadau 'drafft' neu 'economi' wrth argraffu er mwyn arbed inc
  • ail-lenwi neu ailgylchu cetris inc

Canfod cartref newydd i'ch teclynnau – neu eu hailgylchu

Bydd nwyddau electronig yn aml yn cynnwys cemegau niweidiol megis plwm, deunyddiau atal fflamau wedi'u brominadu, cadmiwm ac arian byw. Gall y rhain achosi llygredd os na chânt eu gwaredu mewn dull priodol. Dyma beth allwch chi ei wneud:

  • ceisio dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer dyfeisiadau nad oes mo'u hangen arnoch drwy eu rhoi i elusen neu sefydliad priodol arall mae dros hanner yr eitemau electronig sy'n cael eu taflu yn dal i weithio neu'n hawdd eu trwsio
  • mynd ag eitemau na ellir eu defnyddio i ganolfan ailgylchu lle gellir tynnu deunyddiau gwerthfawr neu niweidiol ohonynt yn ddiogel, a'u hailddefnyddio neu'u gwaredu. Bydd ailgylchu deunyddiau craidd fel alwminiwm o gyfrifiaduron yn arbed deunyddiau craidd ac ynni
  • os ydych chi'n ailgylchu cyfrifiadur, cychwynnwch drwy wneud yn siŵr eich bod yn dileu'n barhaol bob ffeil a rhaglen sydd ar y ddisg galed
  • pan fyddwch yn prynu teclyn trydanol newydd dylech ofyn i'r siop gymryd eich hen un, neu ddweud wrthych ble gallwch fynd ag ef i'w ailgylchu – mae hyn yn rhan o'r rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE)

Arbedwch ynni – neu diffoddwch ef

Bydd eitemau electronig sy'n cael eu gadael yn y modd segur, a theclynnau gwifrio ffonau symudol sy'n cael eu gadael yn y plwg, yn defnyddio ynni. Gallwch wneud y canlynol:

  • tynnu eich gwefrwyr o'r plygiau: bydd gwefrwyr ffonau symudol a gwefrwyr gliniaduron yn defnyddio ynni pan fyddant yn y soced hyd yn oed os nad ydynt wedi'u cysylltu â'ch ffôn neu'ch cyfrifiadur
  • dewis offer cyfrifiadur sy'n ynni-effeithlon: er enghraifft, dim ond tua un chweched o'r ynni a ddefnyddir gan gyfrifiaduron desg y mae gliniaduron ond yn ei ddefnyddio
  • bydd diffodd eich monitor pan fyddwch yn gadael eich cyfrifiadur, a defnyddio'r nodweddion arbed ynni sydd arno yn lleihau'n sylweddol faint o ynni a ddefnyddir ganddo
  • ceisiwch ddiffodd teledu ar y set neu yn y plwg, yn hytrach na drwy ddefnyddio'r teclyn newid sianelau

Ailwefru eich batris

Bydd 600 miliwn o fatris yn cael eu taflu bob blwyddyn, a'r rheini'n cynnwys sylweddau peryglus megis cadiwm yn ogystal â metelau gwerthfawr.

  • defnyddiwch fatris y gellir eu hailwefru pan fo modd: mae angen 50 gwaith gymaint o ynni i wneud batri na'r ynni trydanol y bydd y batri ei hun yn ei gynhyrchu
  • ceisiwch brynu batris NiMH (metal hydrid nicel) y gellir eu hailwefru - maent yn para'n hirach ac yn peri llai o niwed i'r amgylchedd na'r batris nicel cadmiwm (NiCD) hŷn
  • ailgylchwch y batris nad oes mo'u hangen arnoch pan fydd hynny'n bosib
  • mae teclynnau gwynt neu solar megis radios a fflachlampau'n eich galluogi i hepgor batris yn gyfan gwbl

Y mater ehangach

Erbyn hyn, mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd yn rhaid i gynhyrchwyr gymryd hen nwyddau electronig yn ôl, neu fynd â nhw i safle casglu am ddim
Mae angen llawer o ynni i gynhyrchu offer electronig – sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Gwneir setiau teledu a nwyddau electronig eraill o gopr, plwm a haearn yn ogystal â phlastig. Gall gwaredu'r offer yn derfynol arwain at ryddhau cemegau peryglus megis deuocsinau. Bydd pob dinesydd cyffredin yn y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 3.3 tunnell o wastraff electronig yn ystod ei oes

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU