Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dulliau mwy gwyrdd o lanhau

Caiff dros £1 biliwn ei wario ar gynhyrchion glanhau bob blwyddyn yn y DU, ond mae nifer o gynhyrchion glanhau modern yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Gall dethol a defnyddio cynhyrchion glanhau yn ofalus wneud gwahaniaeth.

Glanhau eich tŷ mewn modd cyfeillgar

Mae golchi dillad ar 30 gradd yr un mor effeithiol

Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud:

  • peidiwch â bod yn rhy hael â'ch hylif a phowdwr glanhau a golchi – peidiwch â defnyddio mwy na'r hyn a awgrymir y mae ei angen arnoch, a defnyddiwch y cynnyrch glanhau gwanaf ar gyfer y gwaith
  • defnyddiwch y dogn lleiaf posib yn dibynnu ar ba mor galed yw'r dŵr yn eich ardal chi
  • mae golchi dillad ar 30 gradd yn arbed ynni, ac mae'r un mor effeithiol wrth olchi llwyth o ddillad budr arferol
  • pan fydd yn bosib, ceisiwch olchi'ch dillad yn y peiriant golchi yn hytrach na'u sychlanhau; mae rhai cemegau sychlanhau yn wenwynig ac yn cynnwys sylweddau sy'n disbyddu'r oson
  • darllenwch y label a dilyn y cyngor priodol ynghylch storio a gwaredu'r cynhyrchion glanhau
  • ailgylchwch ddeunyddiau plastig, cardbord a phecynnau metel yn ôl label y cynnyrch
  • peidiwch â thywallt cynhyrchion glanhau i lawr y draen yn ddiangen - cofiwch fod eich gwastraff yn cyrraedd y môr a'r afonydd

Pa gynhyrchion glanhau ddylech chi eu prynu?

Dyma rai pethau i feddwl amdanynt:

  • bydd dewis cynhyrchion crynodedig pan fydd hynny'n bosib yn helpu'r amgylchedd drwy arbed costau pecynnu a chostau chludo
  • bydd prynu systemau ail-lenwi hefyd yn helpu i ddefnyddio llai o ddeunydd pecynnu

Edrych ar y logo

Mae Ecolabel yr Undeb Ewropeaidd yn gwarantu y bydd y cynnyrch yn peri llai o berygl i'r amgylchedd ac i iechyd pobl, neu'n atal y perygl hwnnw.

Glanhau heb gemegau

Nid yw pob cemegyn a geir mewn cynhyrchion glanhau yn peri niwed i'r amgylchedd, ond os ydych yn dymuno peidio â'u defnyddio, efallai y byddwch yn synnu o glywed y gellir defnyddio nifer o eitemau a ddefnyddir o ddydd i ddydd i greu hylifau glanhau effeithiol. Er enghraifft, mae finegr a dŵr cynnes yn gwneud glanhawr ffenestri gwych, a gellir defnyddio halen i sgwrio llestri budr.

Y mater ehangach

Mae rhai cemegau yn cyrraedd yr afonydd a'r môr

Mae'r holl bethau sy'n mynd i lawr y draen yn ein tai – o'r sinc, o'r toiled, o'r peiriant golchi ac o'r baddon – yn llifo i garthffosydd. Yna bydd y dŵr gwastraff yn llifo i weithfeydd trin carthffosiaeth, ac yma caiff ei drin a'i ddychwelyd i ddŵr: afonydd, llynnoedd a moroedd. Bydd y rhan fwyaf o'r cemegau sydd mewn dŵr gwastraff yn cael eu tynnu ohono wrth drin y dŵr, ond mae'n anochel y bydd rhywfaint yn cyrraedd yr afonydd a'r môr, lle gallant beri niwed i fywyd gwyllt.

Bellach mae pobl yn dod i gysylltiad â mwy o sylweddau cemegol nag erioed. Mae nifer ohonynt yn cynnig llawer o fuddion i'r gymdeithas, ond mae rhai o'r cemegau hyn yn cronni yn yr amgylchedd. Er bod systemau da ar waith i brofi cemegau newydd a'r cemegau hynny sydd eisoes ar y farchnad, peth synhwyrol yw peidio â defnyddio mwy nag sydd angen; mae hyn yn golygu na fydd pobl na'r amgylchedd mor agored i'r cemegau hynny.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU