Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Labeli cynnyrch pren

Ceir amryw o gynlluniau labelu i'ch helpu i ddewis cynhyrchion pren sydd wedi'u cynhyrchu mewn ffordd sy'n garedig at yr amgylchedd. Dyma ddwy enghraifft o'r labeli yr ydych yn fwyaf tebygol o'u gweld.

Y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth

Image of the Forest Stewardship Council trademark

Mae Nod Masnach y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth yn dangos:

  • bod y pren a ddefnyddir i wneud cynnyrch yn dod o goedwig a gaiff ei rheoli'n dda yn unol â safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd llym
  • bod y goedwig y daeth y pren ohoni wedi cael ei harchwilio a'i gwerthuso'n annibynnol yn unol â'r egwyddorion a'r meini prawf ar gyfer rheoli coedwigoedd y cytunwyd arnynt ac y'u cymeradwywyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth

Rhaglenni er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd

Logo of the Programme for the Endorsement of Forest Certification schemes (PEFC)

Mae logo'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd i'w weld yma. Mae'r logo hwn yn tystio y daw cynhyrchion pren a phapur o goedwigoedd a reolir mewn modd sy'n helpu i'w cynnal ac yn lleihau'r niwed i'r amgylchedd.

Cynlluniau ardystio cymeradwy eraill

Ar hyn o bryd, mae pum cynllun ardystio wedi'u cymeradwyo fel cynlluniau sy'n bodloni gofynion llywodraeth y DU ar gyfer pren cyfreithiol a chynaliadwy, gan gynnwys y ddau fwyaf cyffredin a welir uchod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU