Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwastraff ac ailgylchu: canllaw cyflym

Gellir ailgylchu bron i ddwy ran o dair o sbwriel y cartref, sy'n arbed ynni a deunydd crai. Gallwch hefyd wneud hyd yn oed mwy drwy osgoi gwastraff yn y lle cyntaf, neu drwy atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau.

1. Lleihau gwastraff

Gall ailgylchu helpu i arbed deunydd ac ynni, ond mae lleihau gwastraff yn y lle cyntaf hyd yn oed yn well – er enghraifft, osgoi gormod o becynnu a bagiau plastig diangen, neu brynu cynhyrchion y gallwch eu hailddefnyddio yn hytrach nag eitemau tafladwy.

2. Ailddefnyddio ac atgyweirio

Golyga atgyweirio neu ailddefnyddio eitemau y byddant yn para'n hirach ac na fydd angen cael eitemau newydd yn eu lle mor fuan. Hyd yn oed pan fyddwch wedi gorffen gyda rhywbeth, yn aml bydd rhywun arall yn gallu ei ddefnyddio – pam na werthwch ef, ei roi i elusen neu ei roi i rywun arall drwy gynlluniau rhannu fel Freecycle a Systemau Masnachu Cyfnewid Lleol (LETS)?

3. Ailgylchu

Os nad ydych chi eisoes wedi dechrau, darganfyddwch sut i ailgylchu eich gwastraff.

4. Ailgylchwch fwy!

Gall teulu nodweddiadol ddyblu neu hyd yn oed dreblu faint maen nhw'n ei ailgylchu. Mae'r rhan fwyaf o gynghorau'n casglu papur, gwydr a phlastig oddi ar garreg y drws, ac weithiau mwy o ddeunydd y gellir ei ailgylchu. Gall safleoedd mwynder dinesig hefyd dderbyn llawer o ddeunyddiau eraill i'w hailgylchu – popeth o bren, esgidiau, tecstiliau a setiau teledu, i offer trydanol, bylbiau golau ac oergelloedd/rhewgelloedd.

5. Compostio gwastraff eich gardd a'ch cegin

Mae mwy na thraean sbwriel cartref yn organig, gan gynnwys gwastraff o'r ardd a'r gegin. Os caiff ei anfon i safle tirlenwi, bydd gwastraff organig yn cynhyrchu methan sy'n cael effeithiau cryf o ran newid yn yr hinsawdd. Os caiff ei gompostio, gellir osgoi'r effeithiau newid yn yr hinsawdd ac arbed lle gwerthfawr mewn safleoedd tirlenwi.

6. Cael gwared ar eitemau gwastraff peryglus yn ddiogel a chyfrifol

Mae rhai eitemau'n cynnwys deunydd peryglus ac mae angen cael gwared arnynt yn ofalus er mwyn osgoi problemau amgylcheddol megis llygredd dŵr. Er enghraifft, mae angen cael gwared ar baent, batris, offer trydanol ac olew mewn cyfleuster priodol.

7. Prynu cynnyrch wedi'i ailgylchu

Mae cynhyrchion a wneir o nwyddau wedi'u hailgylchu'n arbed deunydd crai ac yn cwblhau'r cylch drwy gynyddu'r galw am ddeunydd wedi'i ailgylchu. Yn ogystal â chynnyrch papur, gallwch brynu eitemau cartref a ffasiwn wedi'u hailgylchu megis bagiau ysgwydd, hambyrddau plastig, casys pensiliau a ffoil alwminiwm.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU