Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Garddwyr: ffyrdd i fod yn fwy gwyrdd    

Gallwch helpu’r amgylchedd fel garddwr drwy greu lle i fywyd gwyllt neu gynhyrchu bwyd eich hunan. Gallwch helpu i arbed dŵr, ac ailgylchu eitemau’r cartref nad ydych eisiau a gwastraff bwyd. Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i wneud eich gardd yn fwy gwyrdd.

1. Cael gwared ar y mawn

Helpwch i amddiffyn corsydd mawn amgylcheddol werthfawr drwy ddewis mwlts, deunydd gwella pridd a gwrtaith heb fawn sydd lawn cystal neu'n well na mawn.

Mae digonedd o gynhyrchion heb fawn ar gael yn siopau'r stryd fawr a chanolfannau garddio. Sicrhewch fod y bag yn dweud "heb fawn" neu gofynnwch i gynorthwy-ydd os nad yw'n amlwg.

2. Defnyddio plaleiddiaid yn gyfrifol, ac fel dewis olaf yn unig

Gall rhai plaleiddiaid niweidio pobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Defnyddiwch hwy fel dewis olaf yn unig,a gweithiwch gyda natur i reoli plâu a chwyn yn lle hynny.

3. Cael casgen ddŵr

Mae miloedd o litrau o ddŵr yn disgyn ar do tŷ cyffredin bob blwyddyn. Gallwch arbed dŵr o'r prif gyflenwad yn hawdd drwy gasglu dŵr glaw i'w ddefnyddio ar eich gardd. Yn aml, bydd cwmnïau dŵr a chynghorau lleol yn gwerthu casgenni dŵr am brisiau is.

4. Compostio gwastraff eich gardd a'ch cegin

dywed saith o bob deg berson yn y DU sydd â gardd eu bod nhw’n compostio

Sefydlwch domen gompost neu fin compost a rhowch eich gwastraff gegin neu ardd at ddefnydd da yn eich ardd. Gofynnwch eich cyngor lleol os ydy biniau compost prisiau is ar gael yn eich ardal

Mae llawer o Gynghorau yn darparu cyfleusterau mewn canolfannau ailgylchu ar gyfer meintiau fwy o wastraff yr ardd sydd yn cael eu hailgylchu a’u troi i gompost.

5. Croesawu bywyd gwyllt

Anogwch bryfed, draenogod ac anifeiliaid gwyllt eraill drwy greu amrywiaeth o leoedd iddynt fyw a darparu ffynonellau bwyd. Bydd planhigion sy'n blodeuo ac yn cynnig neithdar a phaill yn denu gwenyn, ieir bach yr haf a phryfed eraill. Bydd coed a llwyni sy'n cynhyrchu aeron yn helpu i fwydo adar.

Gadewch ddarn o dir heb ei drin i ddarparu cysgod i ddraenogod a bywyd gwyllt eraill. Neu gwnewch bwll i ddarparu hafan ar gyfer brogaod, llyffantod, madfall y dŵr, gweision y neidr a phryfed eraill.

6. Gwisgwch siwmper

Gwisgwch haen ychwanegol pan fydd hi'n oer y tu allan, yn hytrach na defnyddio gwresogydd awyr agored. Mae gwresogyddion yn defnyddio llawer iawn o ynni, ac yn cynhyrchu lefelau uchel o ollyngiadau carbon, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

7. Dewis eich pren yn ofalus

Chwiliwch am labeli ar bren, neu ar gynhyrchion pren fel siediau a dodrefn gardd, sy'n dangos eu bod wedi'u cynhyrchu'n gynaliadwy. Mae'r cynlluniau labelu cyffredin yn cynnwys cynlluniau'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) neu'r Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

8. Adfer ac ailgylchu

Rhowch fywyd newydd i hen bren, metel a phlastig drwy brynu decin, blychau plannu ac addurniadau gardd sydd wedi'u gwneud o ddeunydd wedi'i adfer. Defnyddiwch eich dychymyg i droi pob math o hen gynwysyddion yn botiau planhigion anarferol a chynhwysyddion ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau.

9. Dewis eich golosg

Sicrhewch fod y golosg a ddefnyddiwch ar eich barbiciw yn dod o goedwigoedd a reolir mewn modd cynaliadwy. Chwiliwch am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC), neu gynlluniau ardystio coedwigoedd eraill.

10. Tyfwch eich bwyd eich hun

Gall tyfu ychydig bach o'ch cynnyrch eich hun helpu i leihau costau amgylcheddol pecynnu a chludo bwyd.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Defnyddio cyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU