Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Siopa'n fwy gwyrdd: canllaw cyflym

O weithgynhyrchu a chludo i becynnu a defnyddio, gall y pethau a brynwn bob dydd gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Gall y dewisiadau a wnewch wrth fynd i siopa wneud gwahaniaeth mawr.

1. Prynu'n ynni-effeithlon

I wneud arbedion ynni tymor hir, cadwch lygad am gynlluniau labelu sy'n nodi cynhyrchion ynni-effeithlon, o fylbiau golau i beiriannau golchi dillad. Chwiliwch am y logo Energy Saving Recommended a label Ynni'r Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n graddio cynhyrchion am effeithlonrwydd ynni o A (gorau) i G (gwaethaf).

2. Prynwch bethau wedi'u hailgylchu

Cadwch lygad am gynhyrchion wedi'u hailgylchu. Mae papur, rholiau cegin a phapur toiled wedi'u hailgylchu ymysg y cynhyrchion sydd ar gael yn gyffredinol bellach. Gall prynu cynhyrchion y gellir eu hailgylchu, a'u hailgylchu ar ôl eu defnyddio, helpu hefyd.

3. Prynu yn y tymor

Boed yn flodau neu'n ffrwythau a llysiau, gall prynu bwydydd sydd yn eu tymor yn lleol, a heb eu prosesu neu wedi'u prosesu'n ysgafn, leihau effeithiau amgylcheddol drwy ddefnyddio llai o ynni.

4. Prynu Masnach Deg

Gallwch brynu cynnyrch masnach deg mewn siopau, caffis a siopau trwyddedig – chwiliwch am yr arwydd MASNACH DEG. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod cynhyrchwyr y cynnyrch yn cael cyflog teilwng a phris teg am eu nwyddau, ac mae'n debygol bod y nwyddau wedi'u cynhyrchu gan greu llai o effaith ar yr amgylchedd.

5. Chwiliwch am y labeli

Chwiliwch am labeli sy'n dangos bod cynhyrchion wedi'u gwneud gyda pharch at yr amgylchedd. Mae nifer o gynlluniau labelu gwyrdd dibynadwy, sy'n cynnwys cynhyrchu bwyd, pren, dillad, offer a llawer mwy.

6. Cadwch eich ffôn

Cadwch eich ffôn symudol am hirach – maent wedi'u cynllunio i weithio am o leiaf ddeng mlynedd, ac nid oes arnoch angen un newydd bob blwyddyn. Pan fydd angen i chi gael gwared ar eich ffôn, ailgylchwch ef.

7. Canolbwyntio ar y carton

Mae prynu mewn swmp a defnyddio cynhyrchion glanhau crynodedig yn golygu y byddwch yn defnyddio llai o becynnau, gan leihau faint y taflwch i ffwrdd.

8. Bod yn fenthyciwr

Weithiau, nid yw eitemau'n cael eu defnyddio'n ddigon aml i gyfiawnhau eu prynu – caiff driliau, er enghraifft, eu defnyddio am tua 15 munud ar gyfartaledd yn eu hoes. Bydd llogi pethau nad ydych yn eu defnyddio'n aml, neu eu benthyca gan ffrind neu gymydog, yn arbed y deunydd a'r ynni sy'n mynd i gynhyrchu'r holl declynnau hynny sy'n hel llwch yn eich sied.

9. Atgyweirio ac ailddefnyddio

Pan fo'n bosibl, ystyriwch atgyweirio rhywbeth yn hytrach na chael un newydd, a phrynu pethau y gallwch eu hailddefnyddio, yn hytrach na fersiynau tafladwy.

10. Ewch â bag

Cadwch eich bagiau siopa ac ewch â rhai gyda chi y tro nesaf yr ewch i'r archfarchnad.

11. Os na allwch chi ddod o hyd iddo, gofynnwch!

Chi yw'r cwsmer, felly gofynnwch am yr hyn rydych chi eisiau. Os ydych chi'n chwilio am gynhyrchion mwy gwyrdd, neu os hoffech wybod mwy am sut cafodd rhywbeth ei wneud ac na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, gofynnwch i'r adwerthwr neu'r gweithgynhyrchydd – a daliwch ati os oes rhaid. Os oes mwy o bobl yn gofyn, mae'n fwy tebygol y bydd adwerthwyr yn dechrau stocio cynhyrchion mwy gwyrdd a darparu'r wybodaeth yr hoffech ei chael.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU