Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Teithio'n fwy gwyrdd: canllaw cyflym

Teithio personol sy'n achosi hyd at chwarter o'r holl niwed i'r amgylchedd a wneir gan unigolion ledled Ewrop, gan gynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae sawl ffordd o deithio llai, dewis gwahanol ffyrdd o symud o gwmpas, a lleihau eich effaith wrth deithio mewn car neu mewn awyren.

1. Ystyried teithio llai

Allwch chi gael yr hyn rydych chi ei eisiau'n agosach at adref, neu heb deithio o gwbl? Er enghraifft, mynd ar wyliau yn y DU, defnyddio cyfleusterau hamdden a siopau lleol, neu weithio o'ch cartref weithiau. Bydd lleihau eich teithio yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer lleol.

2. Ceisiwch wahanol ffyrdd o symud o gwmpas

Bydd gadael eich car gartref a cherdded, mynd ar gefn beic, bws neu drên yn helpu i leihau effeithiau negyddol gyrru. Mae hefyd yn bosibl teithio pellteroedd mwy heb hedfan.

3. Gyrru i leihau’ch defnydd o danwydd

Gall gwneud rhai newidiadau syml i'r ffordd yr ydych yn gyrru leihau defnydd tanwydd a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd – er enghraifft, drwy yrru'n esmwyth, cadw at y cyfyngiadau cyflymdra, a sicrhau bod digon o wynt yn eich teiars.

4. Prynu car mwy effeithlon

Nid oes rhaid i chi gyfaddawdu er mwyn prynu car mwy gwyrdd – dim ond dewis un mwy tanwydd-effeithlon. Mae labeli economi tanwydd ar geir newydd i ddweud wrthych pa mor effeithlon ydynt. Gall dewis car mwy effeithlon helpu i leihau gollyngiadau carbon a llygredd aer lleol, a bydd hyn yn aml yn arbed arian i chi ar Dreth Cerbyd a thaliadau eraill, yn ogystal â thanwydd.

5. Cynnal a chadw eich cerbyd yn gyfrifol

Mae cerbydau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda'n tueddu i redeg yn fwy effeithlon. Yn aml, mae gwastraff o waith cynnal a chadw ceir yn beryglus, fel olew injan, hylifau eraill, batris a theiars. Gall cael gwared ar yr eitemau hyn yn ddiofal achosi llygredd, ond bydd cyfleusterau gwastraff cynghorau'n gallu eu derbyn i'w gwaredu'n ddiogel.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU