Mae pethau a wnewch bob dydd fel gyrru car, hedfan a hyd yn oed defnyddio eich cyfrifiadur yn defnyddio ynni ac yn cynhyrchu gollyngiadau nwyon tŷ gwydr – megis carbon deuocsid – sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Gallwch wneud iawn am eich gollyngiadau carbon nad oes modd eu hosgoi drwy dalu i rywun arbed yr un faint o garbon deuocsid. Gelwir hyn yn 'wrthbwyso carbon'.
Mae gan bawb gyfrifoldeb i leihau eu hôl troed carbon - er enghraifft, drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach neu drwy droi thermostatau i lawr. Yn gyntaf, dylech ganfod sut y gallwch osgoi neu leihau eich gollyngiadau - os nad yw'n bosibl neu'n ymarferol i leihau gollyngiadau, gallwch eu gwrthbwyso.
Na – ni fydd gwrthbwyso carbon yn gwrthdroi'r effeithau sydd eisoes wedi'u hachosi gan nwyon tŷ gwydr. Ni ellir dadwneud y niwed amgylcheddol a achoswyd gan y gollyngiadau hynny. Drwy arbed yr un faint o garbon yn rhywle arall, fodd bynnag, gallwn helpu i leihau'r gollyngiadau byd-eang cyfredol.
Yn gyntaf, mae angen i chi gyfrifo'r gollyngiadau yr ydych wedi'u cynhyrchu. Yna, byddwch yn prynu gwerth y swm cyfatebol o 'gredydau' gan brosiectau lleihau gollyngiadau sydd wedi arbed carbon. Gallai'r prosiectau hyn fod mewn rhan wahanol o'r byd i'r lle y crëwyd y gollyngiadau gennych. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud gwahaniaeth ym mhle yn y byd y caiff nwyon tŷ gwydr eu gollwng – yr un yw'r effaith ar newid yn yr hinsawdd.
Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr drwy chwilio ar y rhyngrwyd. Mae mwy a mwy o gwmnïau, gan gynnwys cwmnïau awyrennau, yn sefydlu cynlluniau gwrthbwyso gollyngiadau ar gyfer eu cwsmeriaid. Pan fyddwch chi'n defnyddio neu'n prynu gwasanaeth gan gwmni, cofiwch chwilio am gyfleoedd i wrthbwyso.
Mae'r hyn a gynigir gan ddarparwyr yn amrywio, ac mae rhai ohonynt yn fwy cynhwysfawr na'i gilydd. Pennir prisiau gan y darparwr, gan ddibynnu ar y ffordd y maent yn cyfrifo gollyngiadau a'r gwahanol fathau o brosiectau a gefnogir ganddynt.
Gallai rhai cynlluniau gwrthbwyso gynnwys plannu coed, ond gall gymryd blynyddoedd lawer i wireddu'r buddiannau amgylcheddol - ac mae'n anodd mesur faint o garbon a arbedir mewn gwirionedd. Gall ynni adnewyddadwy a phrosiectau effeithlonrwydd ynni fod yn brosiectau da i'w cefnogi, oherwydd gall y rhain roi buddiannau i'r amgylchedd ar unwaith.
Ceir sawl gwahanol fath o brosiect gwrthbwyso carbon. Dyma ychydig o enghreifftiau:
Wrth brynu gwrthbwysau, dylai defnyddwyr chwilio am Ostyngiadau Gollyngiadau a Ardystiwyd er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn credydau cydnabyddedig a pharchus. Caiff y rhain eu gwirio gan y Cenhedloedd Unedig, ac maent yn bodloni gofynion Protocol Kyoto.
Mae'r llywodraeth yn datblygu nod ansawdd i helpu defnyddwyr i ganfod gwrthbwysau o ansawdd da. Bydd cwmnïau wedi’u hachredu dan y cod yn derbyn bathodyn â marc ansawdd i adnabod eu hansawdd gwrthbwyso da.