Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prynu cynnyrch wedi'i ailgylchu

Mae pobl y DU yn taflu cymaint o sbwriel fel y gellid llenwi'r Neuadd Albert bob dwyawr gyda'r sbwriel. Wrth brynu cynnyrch wedi'i ailgylchu, bydd llai o sbwriel mewn safleoedd tirlenwi a chaiff llai o adnoddau naturiol gwerthfawr eu gwastraffu. Gall cynnyrch wedi'i ailgylchu fod lawn cystal â chynnyrch cyffredin.

Dod o hyd i gynnyrch wedi'i ailgylchu ar y stryd fawr

Dywed tua phedwar o bob deg o bobl yn y DU eu bod nhw’n prynu nwyddau ail-law yn aml

Y cynnyrch ailgylchu mwyaf cyffredin yw papur - gallwch ddod o hyd i'r holl nwyddau canlynol wedi'u hailgylchu; papur toilet, rholiau cegin, amlenni a deunydd pacio, papur argraffu a llungopïo a phapur ysgrifennu.

Mae llawer o wneuthurwyr bellach yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu wrth becynnu hefyd; er enghraifft, gellir ailddefnyddio plastig yr ydych chi wedi ei ailgylchu i wneud poteli plastig a chynwysyddion bwyd.

Ceir ychydig o gynlluniau labelu a all fod o gymorth os ydych yn chwilio am ddeunyddiau wedi'u hailgylchu wrth siopa:

  • mae'r symbol Mobius Loop gyda chanran y tu mewn i’r ddolen yn dangos bod cynnyrch yn cynnwys canran o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu 
  • ar gyfer papur neu gardbord, mae logo ailgylchu Cymdeithas Genedlaethol Masnachwyr Papur (NAPM) yn dangos mai ffibr dilys wedi’i adennill yw cynnwys o leiaf 50 y cant o'r cynnyrch

Prynu cynnyrch wedi'i ailgylchu o siopau neu wefannau arbenigol

Mae amrywiaeth syfrdanol o gynhyrchion wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu gan gynnwys:

  • papurau newydd
  • dillad, gan gynnwys dillad cnu wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu
  • eitemau gwydr
  • dodrefn
  • deunyddiau chwarae
  • teils a ffitiadau ystafell ymolchi

Ailgylchu pethau ar ôl gorffen â nhw

Er mwyn i wneuthurwyr allu defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, mae'n rhaid i bawb arall wneud eu rhan drwy ailgylchu'r pethau y maent yn eu prynu a'u defnyddio. Byddech yn synnu o weld beth ellir ei ailgylchu.

Y mater ehangach

Mae ailgylchu'n bwysig gan ei fod yn lleihau'r swm enfawr o wastraff a gaiff ei gynhyrchu ac yna'i waredu bob blwyddyn - fel arfer mewn safleoedd tirlenwi neu drwy ei losgi - a chaiff yr ynni a wastraffir wrth ei brosesu a'r deunyddiau sy'n anodd i'w hechdynnu eu colli.

Er mwyn i'r diwydiant ailgylchu fod yn llwyddiannus, mae'n rhaid cael marchnad ar gyfer deunyddiau ailgylchu. Wrth brynu cynnyrch wedi'i ailgylchu, rydych yn cwblhau'r cylch ac yn sicrhau nad yw'r deunyddiau gwerthfawr hyn yn cael eu gwastraffu.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU