Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Labeli gwyrdd a honiadau ar labeli

Gall labeli gwyrdd a honiadau ar labeli helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynhyrchion sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw'n amlwg bob amser beth yw ystyr labeli gwyrdd. Mae'r tudalennau hyn yn egluro ystyr rhai o'r logos a'r labeli a welir yn aml ar gynhyrchion sydd ar gael yn y DU.

Cynlluniau labelu

Mae gan bob un o'r labeli a ddisgrifir yn y dolenni isod gangen amgylcheddol neu gynaliadwy. Gallai hyn fod yn amddiffyn adnoddau neu gynefinoedd naturiol, neu ddefnyddio cyn lleied â phosib o ynni wrth weithgynhyrchu neu wrth ddefnyddio cynhyrchion. Mae rhai'n labeli sy'n canolbwyntio'n bennaf ar agweddau amaethyddol neu foesegol. Ceir nifer o gynlluniau ac nid yw pob un wedi'i restru isod, ond cewch weld enghreifftiau o'r prif fathau o gynlluniau wrth ddilyn y dolenni isod.

Honiadau gwyrdd

Gall gwneuthurwyr ac adwerthwyr wneud eu honiadau gwyrdd eu hunain ac eithrio cynlluniau labelu trefnedig. Mae rhai o'r honiadau hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut y gwneir y cynnyrch neu'r ffordd orau i'w ddefnyddio neu ei waredu.

Ond, mae'r honiadau'n amwys neu nid ydynt yn rhoi esboniad llawn ar brydiau. Er enghraifft mae ymadroddion megis 'amgylchedd gyfeillgar' a 'caredig wrth natur' yn ddibwrpas. Mae symbolau o'r byd, coed a blodau yn ddibwrpas oni bai y ceir hefyd esboniad clir o beth sy'n cael ei wneud i helpu'r amgylchedd.

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi Cod Hawliadau Gwyrdd a chanllawiau eraill er mwyn helpu busnesau i wella safon honiadau amgylcheddol.

Arweiniad i siopwyr ar labeli gwyrdd

Gellir llwytho'r wybodaeth ar y tudalennau hyn i lawr mewn fformat pdf yn y ddolen isod.

Gallwch hefyd gael copi caled sy'n ffitio yn eich poced o'r cyfeiriad hwn (byddwch angen nodi PB11502):

Defra publications, Admail 6000, Llundain SW1A 2XX

Rhif ffôn: 08459 556000

E-bost: defra@cambertown.com

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU